Skip to main content

Ble Gallaf i Wirfoddoli?

Felly rydych chi ffansi gwirfoddoli gyda chlwb chwaraeon lleol? Mae hynny’n newyddion gwych! Mae clybiau’n aros i’ch croesawu chi (a’ch pâr ychwanegol o ddwylo!).

Efallai eich bod chi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned? Efallai bod gennych chi amser sbâr a’ch bod yn teimlo y dylech fod yn gwneud rhywbeth gwerthfawr? Y peth grêt am wirfoddoli ydi bod y ddwy ochr yn elwa.             

Drwy gyfarfod pobl newydd, cadw’n brysur, dysgu sgiliau newydd, helpu eraill a chael rhyw bwrpas newydd i’ch bywyd, byddwch yn magu mwy o hyder a hunan-barch a byddwch mewn hwyliau gwell.

Ble gallaf i wirfoddoli?            

Gallwch wirfoddoli mewn clybiau chwaraeon ar hyd a lled y wlad. Os ydych chi’n byw mewn tref neu allan yn y wlad, bydd cyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal chi.           

Ble mae dechrau?

Meddyliwch am y pethau canlynol i ddechrau i roi ffocws i’ch chwilio:  

Lleoliad

Meddyliwch am ble rydych chi eisiau gwirfoddoli ac i ba fath o glwb neu ddigwyddiad

Pa sgiliau sydd gyda chi i'w cynnig?

Meddyliwch am y sgiliau allwch chi eu cynnig hefyd. Efallai eich bod chi’n dda gyda ffigurau neu’n ddefnyddiol ar gyfryngau cymdeithasol? Neu efallai eich bod chi’n fwy na bodlon yn gyrru bws mini’r clwb? Cofiwch, mae clybiau’n awyddus i groesawu trefnwyr da bob amser – does dim rhaid i chi ddisgleirio mewn chwaraeon o gwbl. 

Chwiliwch pa gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael mewn clwb chwaraeon.

Gyda phwy fyddech chi’n hoffi gweithio?

Plant ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau neu bobl hŷn?

Tu fewn neu tu fas?

A fyddai’n well gennych chi chwaraeon dan do neu ai’r awyr iach sy’n mynd â’ch bryd chi?

Pa mor bell ydych chi eisiau teithio?

Ble mae cael hyd i gyfleoedd gwirfoddoli?

  • Edrychwch o’ch cwmpas
    Edrychwch ar hysbysfyrddau am glybiau a gweithgareddau, mewn clybiau, canolfannau cymunedol, ysgolion, llyfrgelloedd a hyd yn oed eich siop leol. Mae archfarchnadoedd yn arddangos posteri’n aml hefyd. Nodwch unrhyw rifau cyswllt defnyddiol.
  • Mynd ar-lein
    Chwiliwch ar-lein am glybiau a gweithgareddau gwirfoddoli yn eich ardal. Yn aml mae clybiau’n sefydlu grŵp neu dudalen ar Facebook a chyfrif Twitter, felly anfonwch neges i gyrraedd gweinyddwr yn y clwb. Gallech fynd ar Google hefyd i weld pa ddigwyddiadau chwaraeon sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi – cysylltwch i gael gwybod a ydynt eisiau pâr arall o ddwylo.
  • Gofyn i’r arbenigwyr
    Gallwch gysylltu â thîm chwaraeon eich Awdurdod Lleol am gyngor. Fel dewis arall, ewch i wefan Gwirfoddoli Cymru a chwilio ar-lein am gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal chi. Gallant eich rhoi mewn cysylltiad â’ch canolfan wirfoddoli leol, a fydd yn eich cefnogi chi.
  • Cysylltu â’r Corff Rheoli Cenedlaethol
    Ydych chi wedi dewis camp yr hoffech chi wirfoddoli ynddi ond ddim yn gwybod am/methu dod o hyd i unrhyw glybiau yn eich ardal chi? Y cam nesaf fyddai cysylltu â Chorff Rheoli Cenedlaethol y gamp honno.  Byddant yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â chlybiau sy’n chwilio am wirfoddolwyr newydd. Mae gan Athletau Cymru ffurflen syml i’w llenwi i’ch rhoi chi ar lyfrau’r sefydliad os bydd cyfle gwirfoddoli addas i chi’n codi.
  • Cyfarfod Wyneb yn Wyneb
    Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i gyswllt defnyddiol yn y clwb, ewch draw i’w noson arferol a dweud helo. Maent wedi arfer cyfarfod pobl newydd a bydd croeso cynnes i unrhyw un sy’n cynnig helpu.