Skip to main content

Pwyllgorau Clybiau

Beth mae pwyllgor yn ei wneud?

Mae pwyllgor (neu fwrdd) deinamig ac effeithiol yn bwysig er mwyn sbarduno clwb yn ei flaen.      

Bydd pwyllgor yn gwneud penderfyniadau ar ran y clwb a bydd yn cyflawni dyletswyddau i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth. Ei bwrpas yw gwasanaethu aelodau’r clwb.

Mae hyn yn golygu bod arnoch chi angen y bobl briodol gyda’r sgiliau priodol, y profiad priodol a llawer iawn o frwdfrydedd.              

Pwy sydd arnoch ei angen ar bwyllgor?

Cyn recriwtio eich pwyllgor, mae’n syniad da gwneud rhestr o bob rôl rydych ei hangen.  

Dyma enghraifft o strwythur pwyllgor sylfaenol iawn: 

Wrth i’r clwb ddatblygu, efallai y byddwch yn ystyried recriwtio pobl i’r swyddi canlynol:

Hyd yn oed os nad yw’n rôl gyda chyflog, mae’n syniad da llunio disgrifiad o’r rôl. Bydd yn helpu pobl i ddeall beth sydd ei angen ganddynt a bydd yn eich helpu chi i weld pa sgiliau a phrofiad rydych eu hangen ar gyfer pob rôl. Gallwch ddefnyddio’r rhain fel sail i’ch disgrifiad swydd.

Cadwch fanylion cyswllt eich pwyllgor ar ffeil – defnyddiwch ein templed o ffurflen ar gyfer manylion eich clwb a’ch pwyllgor. 

Peidiwch â dibynnu ar un neu ddau o unigolion yn unig

Gwaetha’r modd, mae clybiau’n tueddu i ddibynnu ar un neu ddau o bobl i wneud llawer iawn o waith. Mae’n syniad da rhannu’r baich gwaith a gofyn i eraill ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb. Trwy wneud hynny, rydych chi’n fwy tebygol o osgoi rhoi gwirfoddolwyr dan straen ac wedyn byddwch yn gallu eu cadw’n hirach.

Cadwch lygad ar Aelodau eich Pwyllgor i ofalu nad oes gormod o faich arnyn nhw. Ydyn nhw’n gyfrifol am dasgau y gallai aelod arall o’r pwyllgor, neu wirfoddolwr yn y clwb, eu gwneud?    

Ydych'i wedi ystyried Is-Gadeirydd? Mae'r blog ddefnyddiol hon yn amlygu manteision recriwtio un.

Efallai eich bod chi angen sefydlu is-bwyllgorau yn eich clwb erbyn hyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran is-bwyllgorau.