Skip to main content

Datblygu Eich Pwyllgor

Dylai clwb fod yn meddwl bob amser am ffyrdd o ddatblygu a gwella ei bwyllgor.

Rhannubaich y gwaith

Gall adolygu rôl aelodau eich pwyllgor fod yn ymarfer defnyddiol, yn enwedig os yw un person yn ysgwyddo gormod o faich ac os byddai eraill yn hoffi cymryd mwy o gyfrifoldeb.      

Yn aml iawn, mae aelodau pwyllgor yn gwisgo sawl het - mae rhai’n hyfforddi yn ogystal ag ysgwyddo cyfrifoldebau pwyllgor. Felly, er mwyn atal unigolion rhag cymryd gormod o faich a theimlo dan straen, beth am feddwl a oes posib rhannu mwy ar y cyfrifoldebau? Ydi maint y gwaith mae un person yn ei wneud yn rhesymol? Oes arnoch chi angen aelod ychwanegol ar y pwyllgor i ysgwyddo rhywfaint o’r gwaith?

Hyfforddiant a chefnogaeth

Os ydych chi eisiau cyflenwad iach o wirfoddolwyr, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eu bod yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth. Edrychwch ar ein hadran cefnogi gwirfoddolwyr  i gael gwybod mwy.         

Talu i aelodau pwyllgor

Efallai y byddwch yn dymuno ystyried a yw eich sefydliad eisiau (ac a oes ganddo bwerau sefydliadol) i dalu i aelodau pwyllgor am eu rôl, yn hytrach na’u recriwtio nhw fel gwirfoddolwyr.     

Mae’n rhaid i’ch sefydliad feddwl yn ofalus am ganlyniadau talu i aelodau bwrdd, ar gyfer y sefydliad ac o ran rôl a chyfrifoldebau aelodau unigol y pwyllgor.