Skip to main content

Sut Mae Bod Yn Gadeirydd Da

Beth sy’n gwneud Cadeirydd da?

Mae Cadeirydd da’n helpu cyfarfodydd i redeg yn esmwyth ac yn effeithlon. Bydd yn sicrhau’r canlynol:

  • Mae’r holl fusnes yn cael ei drafod
  • Mae barn pawb yn cael ei chlywed
  • Gwneir penderfyniadau clir
  • Mae’r cyfarfod yn dechrau ac yn gorffen ar amser

 

Bydd cadeirydd da’n gwneud y canlynol hefyd:

  • Meddwl bob amser am y cyfarfod yn gyffredinol, nid dim ond y pwnc dan sylw. Gall hyn ei gwneud yn fwy anodd i chi gymryd rhan yn y trafodaethau
  • Ceisio sicrhau cydbwysedd bob amser rhwng gwrando ar farn pawb a mynd drwy’r eitemau ar yr agenda
  • Peidio byth â defnyddio ei swydd fel Cadeirydd fel cyfle i gyflwyno ei safbwyntiau ei hun i eithrio eraill, neu reoli gormod ar y cyfarfod.

Does neb yn gallu cyflawni hyn heb gydweithrediad a chytundeb y cyfarfod llawn – dydi’r Cadeirydd ddim yn gallu gwneud gwyrthiau!

Mae pawb yn gallu dysgu sut mae cadeirio’n dda - dim ond meddwl dipyn am y peth ac ymarfer sydd ei angen. A byddwch yn magu mwy o hyder gyda phrofiad. Ceisiwch wylio sut mae pobl eraill yn cadeirio cyfarfodydd a gweld beth sy’n gweithio a beth sydd ddim.            

Ydych chi angen Cadeirydd?

Does gan rai grwpiau ddim rôl ffurfiol ar gyfer Cadeirydd na Chadeirydd wedi’i enwi. Er hynny, mae hyd yn oed cyfarfodydd bychain ac anffurfiol angen rhywfaint o arweiniad a threfn. Fe allech chi benderfynu cylchdroi’r rôl yma. Mae mantais i hyn o rannu’r cyfrifoldeb ac mae pawb yn cael cyfle i gymryd rhan yn y gwaith o redeg y grŵp.                                     

Er hynny, weithiau mae cylchdroi’r Cadeirydd yn gallu golygu nad oes neb yn cymryd cyfrifoldeb am y rôl, neu fod yr un person bob amser yn cadeirio heb unrhyw gytundeb priodol. Os byddwch yn penderfynu cylchdroi Cadeirydd, rhaid penderfynu gyda’ch gilydd beth a ddisgwylir ganddo a chytuno ar ddiwedd pob cyfarfod pwy fydd y Cadeirydd yn y cyfarfod nesaf. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r person hwnnw feddwl am y cyfarfod a’i rôl ynddo.