Skip to main content

Recriwtio Swyddogion

Efallai y byddwch yn chwilio am aelodau newydd:

  • Wrth sefydlu eich clwb am y tro cyntaf
  • Os oes rhai o aelodau eich pwyllgor wedi gadael neu’n bwriadu gadael
  • Os ydych chi’n teimlo bod eich pwyllgor angen ei adfywio
  • Os yw eich pwyllgor angen rhagor o sgiliau a phrofiad, ee. mewn meysydd fel llywodraethu, cyllid neu farchnata
  • Yn eich Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Mae recriwtio i’ch pwyllgor yn gyfle i ddatblygu neu ddod â sgiliau, profiadau a phersbectif newydd i mewn ar gyfer llywodraethu. Mae’n syniad da cynnal archwiliad sgiliau’n rheolaidd er mwyn canfod unrhyw fylchau.                     

Byddwch yn amrywiol

Dylai eich pwyllgor adlewyrchu natur amrywiol eich aelodau. Oes ystod amrywiol o bobl yn cyflawni’r swyddogaethau ar eich pwyllgor? Os oes gennych chi glwb gydag adran ieuenctid sy’n cynyddu, efallai y byddwch eisiau cynnwys cynrychiolydd ar ran yr ieuenctid, er enghraifft. Cofiwch nad yw aelodau dan 18 oed yn cael bod yn aelodau o bwyllgor cymdeithas anghorfforedig.                 

Rhaid cael pen busnes

Os ydych chi’n chwilio am sgil benodol, rhaid targedu’r cynulleidfaoedd priodol. Os ydych chi angen trysorydd newydd, rhaid targedu cwmnïau cyfrifeg. Os ydych chi’n chwilio am rywun i ofalu am y nawdd, targedwch bobl fusnes sydd wedi arfer bargeinio. Os oes arnoch chi angen swyddog y wasg, oes unrhyw rai o’ch aelodau’n newyddiadurwyr neu’n fyfyrwyr newyddiaduraeth?

Byddwch yn dryloyw

Os ydych chi’n chwilio am aelodau pwyllgor newydd, rhannwch y neges a byddwch yn glir am y rôl rydych yn recriwtio ar ei chyfer. Lluniwch ddisgrifiad rôl a byddwch yn onest am yr ymrwymiad sydd ei angen o ran cyfrifoldebau ac amser.

Byddwch yn broffesiynol

Edrychwch ar eich cyfansoddiad oherwydd dylai gynnwys rheolau am recriwtio swyddogion. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod a oes rhaid derbyn enwebiadau ar gyfer aelodau pwyllgor ymlaen llaw neu a yw’n iawn eu derbyn yn y cyfarfod? (Mae’r rhan fwyaf o Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol yn gofyn am gynigydd ac eilydd ar gyfer pob enwebiad.)

Rhaid cydymffurfio â chanllawiau diogelu a gwneud cais am unrhyw archwiliadau angenrheidiol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hadran ar y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.