Skip to main content

Cymorth Cyntaf

Mae damweiniau’n digwydd ac mae Cymorth Cyntaf yn rhan annatod o chwaraeon. Dyma rhestr sydyn.

✔️ Yn ddelfrydol, dylai swyddog cymorth cyntaf cymwys fod ar gael yn holl sesiynau hyfforddi a digwyddiadau’r clwb

✔️ Dylid cael o leiaf un cit cymorth cyntaf ym mhob sesiwn hyfforddi neu ddigwyddiad

✔️ Dylai clybiau annog aelodau, hyfforddwyr a/neu wirfoddolwyr i fynychu cwrs hyfforddiant cymorth cyntaf

✔️ Mae cyrsiau hyfforddiant cymorth cyntaf yn costio tua £30 fel rheol ac mae nifer ohonynt ar gael

✔️ Cysylltwch â’ch Corff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol i ddechrau, oherwydd efallai ei fod yn cynnig cyrsiau. Ymhlith y darparwyr eraill mae’r Groes Goch Brydeinig ac Ambiwlans Sant Ioan

✔️ Cadwch Ffurflen Cofnodi Digwyddiadau yn ddiweddar a chofiwch gofnodi unrhyw ddamweiniau. Mae gennym ni dempled i chi yma.

Cyngor ac awgrymiadau cymorth cyntaf

Ni ddylai cit cymorth cyntaf fod yn fag sy’n cynnwys pob math o eli a moddion - dylai fod yn ymarferol, yn hawdd ei gario, yn lân ac yn drefnus er mwyn cael ato’n gyflym mewn argyfwng.

Mae’r canlynol yn rhestr enghreifftiol o offer i’w gynnwys:

  • Menig gwarchodol (eu cadw’n lân mewn bag plastig)
  • Masg wyneb i adfer
  • Bandeisi crepe (maint amrywiol)
  • Bandeisi triongl
  • Dresinau wedi’u steryllu (padiau a bandeisi) o faint amrywiol
  • Swabiau gauze
  • Hancesi gwrthseptig unigol
  • Pecynnau rhew
  • Plasteri o faint amrywiol (gweler y nodiadau ar dorri’r croen)
  • Gwlân cotwm (rholyn)
  • Swabiau gwlân cotwm
  • Potel chwistrellu gyda dŵr glân

Os ydych chi’n mynd i gynnwys y canlynol, byddwch yn ymwybodol o’r defnydd ohonynt:

Chwistrelli Oer: Defnyddiwch y rhain fel y disgrifir ar y cyfarwyddiadau. Dydi chwistrell fel yma ddim yn gwella, dim ond lleddfu’r boen drwy ladd y teimlad yn y man sydd wedi’i anafu. Dylai chwaraewr ymatal rhag chwarae os oes nam ar weithredoedd normal.

Chwistrelli Gwres neu Eli: Defnyddiwch y rhain yn unol â’r cyfarwyddiadau ar y can neu’r tiwb. Bydd gwres a roddir ar anafiadau ffres yn lleihau rhagor o chwyddo a thrwy hynny’n cynyddu’r broblem. Nid yw’n gweithio i gynhesu cyn gêm - rhaid gwneud hyn yn gorfforol, fel y dangosir ar gyrsiau hyfforddi.

Vaseline: Cadwch y caead arno pan nad yw’n cael ei ddefnyddio – meddyliwch am heintio.

Siswrn: Os ydych yn cynnwys siswrn, gwnewch yn siŵr mai un blaen tarw ydyw a’i fod yn cael ei gadw’n lân bob amser. Cadwch mewn bag plastig pan nad yw’n cael ei ddefnyddio.

Paracetamol ac Aspirin: Nid yw’r rhain yn rhan o git cymorth cyntaf a argymhellir.

Nid oes gennych chi rwydd hynt i roi moddion o’r fath i chwaraewr. Er hynny, os bydd chwaraewr yn gofyn i chi edrych ar ôl ei foddion, byddwch yn ofalus a gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa rai sy’n perthyn i bwy. h.y. pympiau asthma.

Wrth ddefnyddio rhew ar anaf, cofiwch ei lapio mewn tywel neu liain glân bob amser a pheidiwch â rhoi rhew ar losgiadau.

Cofiwch annog eich chwaraewyr i ddod a’u poteli dŵr eu hunain gyda nhw i osgoi lledu heintiau posib. Hefyd, cofiwch annog y chwaraewyr i beidio ag yfed diodydd pefriog, te, coffi ac alcohol cyn, yn ystod ac yn syth ar ôl gweithgaredd. Mewn tywydd poeth, peidiwch byth â rhoi tabledi halen neu eitemau tebyg i chwaraewyr

*Gwnewch yn siŵr bod ffôn ar gael (symudol neu linell dir) a gwnewch yn siŵr hefyd bod y rhifau ffôn priodol ar gael.

*Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth, ffoniwch 999 am ambiwlans.

Cynghorwch eich chwaraewyr i beidio â chnoi gwm cnoi yn ystod gweithgaredd corfforol - bydd hyn yn helpu i osgoi unrhyw broblemau tagu.

PEIDIWCH â defnyddio sbwng a bwced! Wrth ddefnyddio un sbwng ar nifer o bobl, rydych yn trosglwyddo germau o berson i berson. Hyd yn oed gyda chlais neu lwmp, bydd gan chwaraewr hen doriad ar y croen o bosib, a bydd y germau hyn yn gallu mynd i mewn i’r corff ac achosi haint. Y ffordd lanaf o drin anaf ar y cae yw cario potel o ddŵr chwistrell jet wedi’i selio gyda chi.