Skip to main content

Iechyd a Diogelwch

Efallai nad yw hon yn rhan gyffrous o redeg clwb, ond mae cadw at reoliadau iechyd a diogelwch yn hanfodol. Ac mae gan glybiau rwymedigaeth gyfreithiol tuag at iechyd a diogelwch eu pobl.

Polisi Iechyd a Diogelwch

Gall clwb ddangos ei ymrwymiad i amddiffyn rhag risg o niwed neu anaf i’w aelodau drwy lunio Polisi Iechyd a Diogelwch syml.  

Dylai amlinellu eich gweithdrefnau ac esbonio’r meysydd cyfrifoldeb, yn ogystal â chynnwys y canlynol:

  • Gweithdrefnau asesu risg – adnabod unrhyw amodau peryglus, y camau gweithredu i’w rhoi ar waith a phwy sy’n gyfrifol ac erbyn pryd
  • Sut bydd y clwb yn gweithredu os bydd digwyddiad neu ddamwain
  • Manylion cyswllt ar gyfer y gwasanaethau brys
  • Pwy yw cyswllt y clwb os bydd pryder am Iechyd a Diogelwch yn codi

Dylai gynnwys y canlynol hefyd:

  • Ffurflenni caniatâd cyfranogwyr a rhieni - mae templed ar gael yma ond gwnewch yn siŵr ei fod yn cynnwys popeth rydych chi fel clwb ei angen, ac ar gyfer eich camp
  • Ffurflenni caniatâd cyfranogwyr a rhieni/gofalwyr ar gyfer tripiau i ffwrdd
  • Adroddiad Digwyddiad/Damwain i gofnodi unrhyw ddigwyddiad sydd wedi effeithio ar aelodau neu ymwelwyr yn y clwb, neu oddi ar y safle.

Bydd polisi pob clwb yn wahanol, gan ddibynnu ar y canlynol:

  • Y gamp/gweithgaredd
  • Eiddo’r clwb ac a yw’r clwb yn berchen ar ei gyfleusterau neu’n eu llogi
  • Nifer y cyflogeion cyflogedig (os o gwbl)
  • Cyfranogwyr ag anghenion arbennig

Er mwyn gwneud yn siŵr bod y polisi’n cael ei roi ar waith, bydd rhaid i’r clwb gael cefnogaeth cymaint o bobl â phosib yn y clwb. Mae’n bwysig trafod y polisi gyda phwyllgor y clwb ac aelodau’r clwb i gael eu cyfraniad.                  

Y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE)

Nid yw’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch yn berthnasol yn gyffredinol i wirfoddolwyr sy’n rhedeg clwb heb unrhyw gyflogeion, oni bai fod gan y clwb gyfrifoldeb am eiddo, fel adeilad clwb neu gaeau chwarae.                            

Mae gan HSE gyngor gwych ar gael i glybiau chwaraeon:

Hefyd mae gan HSE gyngor arbennig ar gyfer chwaraeon penodol sy’n cael eu hystyried fel chwaraeon peryclach, felly mae’n werth chwilio ar ei wefan.

Rhaid i glybiau sy’n berchen ar eiddo neu adeiladau, neu sy’n gyfrifol amdanynt, gofrestru gyda’r Awdurdod Tân Lleol a rhaid i glybiau sy’n paratoi, storio, cyflenwi neu werthu bwyd ar bump neu fwy o ddyddiau mewn unrhyw gyfnod o bump wythnos gofrestru gyda’r Adran Iechyd yr Amgylchedd leol.

Dyletswydd o Ofal

Mae gan glybiau ddyletswydd o ofal (mae dyletswydd o ofal yn cyfeirio at ddyletswydd gyfreithiol gyffredinol pob unigolyn, clwb chwaraeon a gweithgarwch corfforol a Chorff Rheoli Cenedlaethol i osgoi achosi anaf i bobl yn ddiofal) mewn sefyllfaoedd fel y canlynol:

  • Benthyg offer i eraill
  • Teithiau cerdded, digwyddiadau a rasys noddedig i godi arian
  • Cynnal twrnameintiau a chystadlaethau
  • Trefnu tripiau diwrnod; gwerthu bwyd mewn digwyddiadau