Skip to main content

Yswiriant

Mae yswiriant yn eithriadol bwysig i bob clwb chwaraeon. Mae nid yn unig yn cyfeirio at yswiriant ar gyfer hyfforddwyr unigol ond hefyd, mae’n rhaid i’r clwb fod ag yswiriant priodol ar gyfer y gweithgareddau mae’n eu darparu.

  • Holwch eich corff rheoli cenedlaethol i weld a yw’n darparu yswiriant i glybiau. Os ydyw, mae’n bur debyg y bydd angen i chi fod yn aelod o’r corff rheoli i elwa ohono.

     

Gwiriwch os  oes gan eich Corff Llywodraethu aelodaeth aml-ddefnydd Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) fel mae'r buddion yn weithredol i chi, fel yswiriant ar ddisgownt drwy Integro. 

Hefyd gellir codi yswiriant gyda chwmni yswiriant preifat.           

Bydd arnoch angen ystyried yswiriant ar gyfer y canlynol:

  • Atebolrwydd cyhoeddus
  • Indemniad proffesiynol
  • Damwain bersonol
  • Offer chwaraeon
  • Yswiriant meinwe meddal
  • Meddygol preifat
  • Yswiriant modur
  • Gofynnwch am gyngor proffesiynol bob amser

Gwirfoddolwyr ac Yswiriant

  • Mae eich cwmni yswiriant yn debygol o fod angen manylion eich swyddi gwirfoddoli. Bydd rhaid i wirfoddolwyr weithio oddi mewn i ffiniau’r swyddi hyn i fod wedi’u hyswirio (bydd eich corff rheoli cenedlaethol neu eich asiant gwerthu yswiriant yn gallu eich helpu chi gyda diffinio pob rôl)
  • Dylech sicrhau bod gwirfoddolwyr yn ymwybodol o’r yswiriant sydd yn ei le – beth mae’n ei gynnwys ac unrhyw gyfyngiadau
  • Bydd rhaid i yrwyr gwirfoddol gael yswiriant car priodol os ydynt yn defnyddio eu ceir eu hunain – rhaid i chi weld copïau o drwyddedau gyrru a pholisïau yswiriant diweddar. Esboniwch y polisi iddyn nhw, yn enwedig os yw’r gwirfoddolwyr yn cael eu costau
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi yswiriant priodol os yw gwirfoddolwyr yn gyrru cerbydau o eiddo’r clwb
  • Edrychwch eto ar unrhyw gyfyngiadau oedran perthnasol i’ch yswiriant
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodyn o bryd ddylech chi adnewyddu eich yswiriant. Mae hefyd yn syniad da adolygu eich anghenion yswiriant yn rheolaidd. Peidiwch â dim ond adnewyddu eich polisi – efallai bod eich anghenion wedi newid
  • Mae cael yswiriant fel hyfforddwr yn hollbwysig, yn enwedig o ran atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer gweithgareddau hyfforddi mewn sefyllfaoedd perthnasol
  • Fel rheol, mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn rhan o gynnig aelodaeth ehangach gan Gorff Rheoli Cenedlaethol i hyfforddwyr, sydd hefyd yn cynnwys yswiriant damwain bersonol a mynediad heb gyfyngiad i adnoddau cefnogi. Mae pob corff rheoli’n wahanol felly cofiwch edrych beth sydd wedi’i gynnwys a chofiwch ddarllen holl delerau ac amodau’r polisi cyn cynnal unrhyw weithgareddau hyfforddi.
  • Hefyd mae UK Coaching yn darparu yswiriant aml-chwaraeon
  • Gofynnwch am gyngor gan rywun proffesiynol bob amser