Skip to main content

Beth yw Rheoli Risg?

Mae gweithgareddau chwaraeon yn cael eu mwynhau gan bobl bob dydd heb broblem. Felly peidiwch â chael eich mygu gan ormod o fiwrocratiaeth. I lawer o glybiau, y cyfan sydd ei angen yw dilyn cyfres sylfaenol o gamau.

Meddyliwch am y canlynol:

  • Y risgiau – risg yw siawns, uchel neu isel, y bydd rhywun yn cael ei niweidio gan berygl, a pha mor ddifrifol allai’r niwed hwnnw fod
  • Sut gallai damweiniau ddigwydd a phwy allai gael eu niweidio
  • Beth fydd raid i chi ei wneud i reoli’r risgiau a gofyn a oes unrhyw beth y dylech chi ei wneud i sicrhau bod gweithgareddau eich clwb yn fwy diogel
  • Risgiau ariannol, cyfreithiol, rheoli digwyddiadau ac enw da’r clwb yn ogystal ag iechyd a diogelwch

Gall y materion cyffredin i chi edrych arnynt a’u hystyried gynnwys cyflwr offer chwaraeon ac arwynebau chwarae a hefyd defnydd diogel o eiddo fel adeilad clwb neu ystafelloedd newid a mynediad iddynt. Gallwch roi graddfa o 1 i 3 i’r risg, gyda 3 y risg gyda’r effaith fwyaf.                            

Hefyd gallwch raddio risgiau o ran pa mor debygol ydyn nhw o ddigwydd.

Rhaid i glybiau fonitro’r risgiau ac asesu a oes unrhyw beth yn newid dros amser sy’n cynyddu’r ffactorau risg.

Bydd rhaid i chi ganolbwyntio ar y risgiau a allai achosi niwed mawr. Os oes risg wirioneddol, edrychwch beth allwch chi ei wneud i leihau’r risg honno a dal ati – mae’n bosib yn aml.

A chofiwch annog pawb yn y clwb i roi gwybod am unrhyw broblemau a risgiau posib i swyddog yn y clwb ar unwaith.