Skip to main content

Rhoi gwybod am bryder neu ddigwyddiad

Mae’n bwysig iawn bod clybiau a sefydliadau chwaraeon yn rhoi gwybod am unrhyw amheuon, pryderon neu ddigwyddiadau sy’n cynnwys diogelu plant neu oedolion agored i niwed.

Gweithredwch heb oedi – oherwydd cofiwch y gallai eich cofnod atal plentyn neu oedolyn agored i niwed rhag cael niwed.

Gwnewch gofnod ysgrifenedig

Er mwyn gwneud yn siŵr bod y wybodaeth yn gymaint o help â phosib, dylid gwneud cofnod manwl bob amser pan mae’r datgelu / pryder yn cael ei rannu.

Ysgrifennwch y ffeithiau a byddwch yn glir am beth yw eich gwybodaeth bersonol chi a beth mae eraill wedi ei ddweud wrthych chi. Peidiwch â chynnwys eich barn eich hun.

Mae templed o ffurflen cofnodi digwyddiad ar gael yma

Rhoi gwybod

Rhaid rhoi gwybod am BOB amheuaeth a honiad yn briodol.                                                     

Os oes gennych chi unrhyw bryderon, dylech eu trafod ar unwaith gyda swyddog lles y clwb neu’r person sydd yng ngofal eich sefydliad.

Os nad yw’r rhain ar gael, neu os mai hwy sy’n cael eu cyhuddo o gam-drin, rhaid i chi ysgwyddo’r cyfrifoldeb ar unwaith a gofyn am gyngor gan linell 24 awr yr NSPCC ar 0808 800 5000, eich adran gwasanaethau cymdeithasol leol neu’r heddlu. Mae’r rhifau ffôn ar gael yn eich cyfeirlyfr lleol.    

Hefyd dylai’r clwb roi gwybod i’r corff rheoli chwaraeon cenedlaethol perthnasol.

Weithiau mae honiadau am gam-drin yn cael eu gwneud ymhell ar ôl y digwyddiad. Os bydd hyn yn digwydd, dylech ddilyn yr un gweithdrefnau a rhoi gwybod am y mater i’r gwasanaethau cymdeithasol. Efallai bod plant eraill mewn perygl o hyd o fod mewn cysylltiad â’r sawl sy’n cael ei gyhuddo o gam-drin.

Bydd emosiynau cryf yn dod i’r amlwg o bosib, yn enwedig mewn achosion o amau cam-drin rhywiol neu ble ceir teyrngarwch i gydweithiwr. Fodd bynnag, ni ddylai’r teimladau hyn amharu ar y camau gweithredu y mae’n rhaid eu rhoi ar waith a’r gweithdrefnau y mae’n rhaid eu dilyn.

Nid cyfrifoldeb y clwb yw penderfynu a oes cam-drin wedi digwydd. Ond cyfrifoldeb y clwb yw rhannu’r amheuon a’r honiadau gyda’r awdurdodau.          

 

Byddwch yn gyfrinachol

Dylid gwneud pob ymdrech i gadw cyfrinachedd. Rhaid trin y wybodaeth ar sail angen gwybod. Mae hyn yn cynnwys y bobl ganlynol:                              

  • Swyddog Lles y Clwb
  • Rhieni’r plentyn
  • Y person sy’n gwneud yr honiad
  • Gwasanaethau Cymdeithasol/heddlu
  • Rheolwr Datblygu Rhanbarthol (eich Sefydliad/Clwb) a Swyddog Lles Clybiau eich Corff Rheoli Chwaraeon
  • Y sawl sy’n cael ei gyhuddo o gam-drin (a’r rhieni os mai plentyn yw’r sawl sy’n cael ei gyhuddo o gam-drin)

Gofynnwch am gyngor y gwasanaethau cymdeithasol ynghylch pwy ddylai siarad gyda’r sawl sy’n cael ei gyhuddo o gam-drin.

Dylid cadw’r holl wybodaeth mewn lle diogel gyda mynediad cyfyngedig i bobl benodol, yn unol â’r gyfraith diogelu data.       

Gall eich tîm gwasanaethau cymdeithasol lleol, yr NSPCC neu’r heddlu ateb unrhyw gwestiynau eraill.

Dyma sampl o Dempled Cofnodi Digwyddiad