Skip to main content

Y GDG ac Archwiliad y GDG

Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn wasanaeth gan y llywodraeth sy’n cymryd lle’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a’r Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA). Mae’n helpu i atal pobl anaddas rhag gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed. Drwy brosesu ceisiadau am archwiliadau cofnodion troseddol, mae’n helpu sefydliadau fel clybiau chwaraeon i wneud penderfyniadau recriwtio diogelach.

Sut mae trefnu archwiliad gan y GDG?

Fel rhan o’u hymrwymiad i ddiogelu mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, mae gwasanaeth archwilio DBS Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) yn darparu archwiliad ar-lein ar gofnodion troseddol. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i unrhyw sefydliad sy’n gymwys i gynnal archwiliadau o’r fath, ar gyfer gwirfoddolwyr a staff cyflogedig.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y WSA neu rif ffôn 02920 334 974

Ydi pob gwirfoddolwr angen archwiliad gan y GDG?

  • Dim ond ar bobl 16 oed neu hŷn mae archwiliadau ar gofnodion troseddol yn cael eu cynnal.
  • Bydd rhai gwirfoddolwyr angen archwiliad safonol y GDG. Bydd eraill angen archwiliad manwl (neu bydd eu harchwiliad safonol yn cael ei wneud yn fanylach) gyda rhestr wirio waharddedig.  Gall yr WSA eich helpu i ddargangod pwy sydd angen pa fath o archwiliad.

Mae gan rai gwirfoddolwyr archwiliad y GDG eisoes. Ydyn nhw angen un newydd?

  • Os oes gan wirfoddolwr archwiliad gan y GDG eisoes - gan gyflogwr neu o rôl flaenorol o bosib - efallai ei fod wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Diweddaru'r GDG
  • Os felly, efallai y bydd posib i chi wirio ei statws cofnodion troseddol ar-lein ar unwaith.
  • Os nad yw’r gwirfoddolwr wedi cofrestru gyda’r gwasanaeth diweddaru, bydd rhaid i chi wneud cais am archwiliad newydd, oherwydd efallai bod troseddau newydd wedi cael eu cyflawni ers yr archwiliad blaenorol. Cofiwch holi eich Corff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol bob amser oherwydd nid yw pob sefydliad yn derbyn archwiliadau’r gwasanaeth diweddaru.

Pryd mae archwiliadau’r GDG yn dod i ben ac angen eu diweddaru?

  • Does dim dyddiad dod i ben ar archwiliadau’r GDG ac felly bydd unrhyw wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn gywir adeg cynnal yr archwiliad
  • Penderfyniad y clwb neu’r sefydliad yw pryd i ddiweddaru’r archwiliadau
  • Fodd bynnag, mae’r NSPCC (a’r rhan fwyaf o Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol) yn argymell adnewyddu’r archwiliadau bob tair blynedd
  • Ar hyn o bryd mae’r archwiliadau adnewyddu’n cael eu cwblhau yn yr un ffordd â’r archwiliad cyntaf, drwy gorff ymbarél fel y WCVA.

Mwy o wybodaeth:

Mae llawer mwy o gyngor a gwybodaeth ar ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg ar gael ar wefan Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC