Skip to main content

Cronfa Difrod Storm

Mae’r Gronfa Difrod Stormydd ar agor ac yn derbyn ceisiadau am gyllid.

Mae clybiau chwaraeon sydd â chyfleusterau sydd wedi’u difrodi gan y tywydd eithafol diweddar yn cael eu hannog i wneud cais.

Mae angen i chi gyflwyno eich cais erbyn 4pm ar ddydd Mawrth 17eg Rhagfyr. 

Pwy all wneud cais?

Gall pob clwb chwaraeon nid-er-elw yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan y stormydd a’r tywydd garw diweddar wneud cais. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd eisoes wedi gwneud cais llwyddiannus i Gronfa Cymru Actif eleni.

Bydd angen i chi ddarparu:

  • amcangyfrif o'r costau
  • unrhyw fanylion yswiriant (lle bo hynny'n berthnasol)
  • o leiaf un llun o dystiolaeth

Ar gyfer beth gallaf gael cyllid?

Gall eich clwb gael cyllid rhwng £300 a £5,000 i helpu i lanhau ac atgyweirio clybiau a chyfleusterau chwaraeon.

Gallwch gael cyllid ar gyfer:

  • costau glanhau
  • offer
  • cyfleusterau
  • gosodiadau a ffitiadau
  • lloriau
  • dodrefn
  • seilwaith
  • atgyweirio caeau
  • atgyweirio cyfleustodau, fel dŵr a thrydan
  • nwyddau gwyn, fel oergelloedd a chyfarpar cegin

Sylwer: Ni fydd y gronfa yn talu am golli incwm.

Os ydych chi wedi gwario arian eisoes ar atgyweirio neu lanhau eich cyfleusterau, mae posib ystyried y costau hyn.

Ar gyfer unrhyw beth sydd heb ei gynnwys ar y rhestr uchod, mae Cronfa Cymru Actifchyllid Lle i Chwaraeon ar agor ar hyn o bryd.

Sut i wneud cais? 

Gallwch wneud cais ar-lein drwy lenwi’r ffurflen gais ar ein Porthol Grantiau erbyn 4pm ar ddydd Mawrth 17eg Rhagfyr. Bydd angen i chi gofrestru am gyfrif os nad oes gennych chi un eisoes. 

Os yw eich clwb yn sefydliad aml-chwaraeon, dylech ymgynghori â'r holl glybiau sy’n aelodau cyn gwneud cais i osgoi dyblygu.

Ein nod ni yw dod yn ôl atoch chi o fewn pedair wythnos.

Gallwch gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a gyflwynir yn Saesneg.

Rydym yn argymell bod y rhai sy'n gwneud cais am gyllid gyda ni yn darllen ein telerau ac amodau ar gyfer grantiau. 

Sut i gysylltu â ni? 

E-bostiwch ni gydag unrhyw ymholiadau ar [javascript protected email address]. Neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0300 3003102, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10:00 a 12:30 a 1:15 a 16:00.

Os na allwch chi gyrraedd un o'n tîm ni, arhoswch ar y llinell oherwydd gall ein gwasanaeth neges llais fod yn ddefnyddiol hefyd y tu allan i'n horiau gwaith.