Main Content CTA Title

Aelod o’r Panel Athletwyr

Am y swydd wag hon

Adran a chyflog

Adran – Athrofa Chwaraeon Cymru 

Cyflog –  £20 / awr 

Oriau Gwaith –  Presenoldeb chwarterol mewn cyfarfodydd panel 

Lleoliad – Rhithwir 

Pwy ydym ni 

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.  

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.  

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.  

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref.  

Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.

Mae Chwaraeon Cymru yn eiriol yn gryf dros ddysgu a gwella parhaus. Ar eich diwrnod cyntaf un yn y gwaith, byddwch yn dechrau rhaglen sefydlu wedi'i theilwra a chewch gynnig yr holl hyfforddiant hanfodol i ddechrau arni. Mae ymuno â Chwaraeon Cymru yn golygu ymuno â diwylliant o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. 

Mae hyfforddiant penodol i'r swydd, gweithdai amser cinio, hyfforddi a mentora, gwella sgiliau Cymraeg a chyfleoedd astudio yn y tymor hir i gyd yn rhan o fod yn aelod o’n tîm ni.

Sut byddwch yn cyfrannu

Wedi'i leoli wrth galon ein sefydliad, bydd y Panel Athletwyr yn cynrychioli ac yn cyfathrebu barn athletwyr Cymru i lywio a gwella ein gwaith. Bydd y Panel Athletwyr yn rhoi llais i athletwyr o bob cwr o gymdeithas Cymru. Mae sut mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi chwaraeon i ddatblygu athletwyr yn rhan bwysig o'n gwaith ac felly mae'n bwysig bod athletwyr yn bwydo i gyfeiriad strategol y sefydliad.

Bydd gan y Panel Athletwyr ddau brif faes cyfrifoldeb:

1) Casglu a rhoi adborth ar brofiadau cyfredol athletwyr yn llwybr chwaraeon Cymru neu ran o system chwaraeon Cymru. Gallai hyn gynnwys adborth sy’n cael effaith tymor hwy, neu brofiadau sy'n fwy o 'fuddugoliaethau cyflym' tymor byr. Gallai’r pynciau gynnwys y rhai sy'n cael eu gyrru gan aelodau'r panel, neu gall Chwaraeon Cymru ofyn am adborth ar feysydd penodol o ddiddordeb.

2) Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer cynrychiolwyr athletwyr CRhC (neu gyfatebol).

3) Rhoi adborth a chyngor i Chwaraeon Cymru, CRhC a rhanddeiliaid eraill ar syniadau, rhaglenni neu fentrau y byddem yn bwriadu eu datblygu a'u cyflwyno a fyddai â'r bwriad o effeithio ar brofiad athletwyr.

 

Fel aelod o Banel Athletwyr Chwaraeon Cymru, byddwch yn gyfrifol am gynghori Chwaraeon Cymru ar ei waith, a thrwy hynny gyfrannu at drawsnewid profiadau athletwyr.

Sut byddwch chi'n elwa o hyn?

• Byddwch yn cael eich talu £20 yr awr fel gweithiwr achlysurol gan Chwaraeon Cymru am fynychu cyfarfodydd.

• Bydd treuliau unrhyw deithio, llety a chynhaliaeth yn cael eu talu gan Chwaraeon Cymru.

• Datblygu eich sgiliau a gwella eich cyflogadwyedd. Bydd bod yn aelod o'r Panel Athletwyr yn rhoi cyfle i chi ddatblygu ystod o sgiliau, gan gynnwys gwneud penderfyniadau, arweinyddiaeth, cyfathrebu a llawer mwy, y mae darpar gyflogwyr i gyd yn chwilio amdanynt.

• Byddwch yn gallu cael mynediad at hyfforddiant am ddim sy'n berthnasol i fod yn aelod o banel athletwyr fel arferion cynhwysol, hwyluso grwpiau, hyrwyddo lles, gwrando'n astud a chael mynediad at gyrsiau CLIP Chwaraeon Cymru.

• Bydd gennych chi fynediad at ostyngiadau i athletwyr Chwaraeon Cymru drwy bartneriaethau.

Gyda phwy fyddwch chi’n gweithio

Byddwch yn gweithio'n agos gyda Gwasanaethau Athrofa Chwaraeon Cymru yn ogystal â chydweithwyr ar draws y sefydliad ehangach a fydd yn cefnogi'r panel ac yn helpu gyda chydlynu. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gysylltu â chomisiwn athletwyr Tîm Cymru. Byddwch yn creu cysylltiad â'r Panel Athletwyr Ieuenctid sydd eisoes wedi'i sefydlu ac yn cael cyfle i ddylanwadu ar uwch swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau yn Chwaraeon Cymru.

Beth fydd arnoch ei angen

Mae angen i chi fod yn oedolyn 18 oed neu hŷn ac yn gymwys i gystadlu dros Gymru.

Mae angen i chi fod yn cynrychioli Cymru yn rhyngwladol mewn chwaraeon ar hyn o bryd neu fod yn rhan o lwybr athletwyr y Corff Rheoli Cenedlaethol.

Bod yn angerddol am fod yn llais POB athletwr yng Nghymru, a chymhelliant i rannu'r hyn y mae'r lleisiau hynny'n ei ddweud a fydd yn caniatáu i'r holl unigolion hynny ddatblygu nid yn unig fel athletwyr, ond fel pobl hefyd.

Bydd angen i chi allu ymrwymo i fynychu cyfarfodydd bedair gwaith y flwyddyn yn ogystal â 2 i 3 digwyddiad allweddol gan Chwaraeon Cymru. Rydym yn gofyn am ymrwymiad o 12 mis i ddechrau.

Beth sy'n digwydd nesaf

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn isod.

Os oes arnoch chi angen rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at [javascript protected email address]

Er mwyn gwneud cais, anfonwch CV yn ogystal ag ateb y 2 gwestiwn isod, naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar. Cyflwynwch y rhain i'r cyfeiriad canlynol erbyn hanner dydd ar 24ain Tachwedd 2025:

[javascript protected email address]

1. Pam mae'n bwysig i chi fod llais yr athletwr yn cael ei glywed?

2. Sut fyddai eich sgiliau a'ch profiad yn cyfrannu at eich llwyddiant yn y rôl hon?

Bydd yr athletwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad gyda phanel o staff Chwaraeon Cymru a chynrychiolydd athletwyr yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 8fed Rhagfyr 2025 (gall hyn fod yn hyblyg). 

Dyddiad cau 

24ain Tachwedd 2025

Dyddiad dros dro y cyfweliadau                  

Yr wythnos sy’n dechrau ar 8fed Rhagfyr 2025

Disgrifiad swydd llawn

Yn atebol i

Arweinydd y Prosiect

Pwrpas y Swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar brofiadau athletwyr ar draws system Cymru.

Gan weithio gydag aelodau eraill ar y panel sy'n cynrychioli athletwyr ledled Cymru, byddwch yn cynrychioli ac yn cyfathrebu barn athletwyr Cymru i lywio a gwella gwaith sy'n effeithio ar amgylcheddau ffyniannus. Byddwch yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o brofiadau cyfredol yn y byd chwaraeon yng Nghymru drwy amlygu a thrafod pynciau sydd nid yn unig yn debygol o gael effaith hirdymor, ond a fydd hefyd yn effeithio ar faterion tymor byr. Byddwch yn gweithio'n agos gydag aelodau Chwaraeon Cymru i ystyried ymatebion ac atebion posibl i adborth.

Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth a'ch angerdd i ddarparu adborth, cyngor ac atebion i Chwaraeon Cymru, ac o bosibl yn uniongyrchol i chwaraeon, ar syniadau a mentrau y byddem o bosibl yn eu datblygu a'u cyflwyno.

Prif Ddyletswyddau

• Bod ar gael i fynychu 4 cyfarfod y flwyddyn

• Cymryd cyfrifoldeb am gadeirio o leiaf un cyfarfod o’r Panel Athletwyr. Bydd hyn yn cynnwys anfon yr agenda allan, hwyluso’r trafodaethau, ac anfon unrhyw gamau gweithredu allan

• Mynd ati i geisio deall cyd-destun y pynciau sy’n cael eu trafod

• Cyfathrebu'n barchus yn ystod cyfarfodydd y Panel Athletwyr

• Defnyddio sgiliau cwestiynu da i ddeall, herio a datblygu ffyrdd pobl eraill yn y grŵp o feddwl

• Cyfrannu angerdd a chymhelliant a fydd, yn y pen draw, yn arwain at brofiadau athletwyr mwy cadarnhaol yn y byd chwaraeon yng Nghymru

• Cynrychioli'r Panel Athletwyr mewn digwyddiadau allweddol

• Ochr yn ochr ag aelodau eraill y Panel, ceisio deall pam mae profiadau naill ai'n cael eu hamlygu fel rhai cadarnhaol neu negyddol

• Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu patrwm o wasanaeth i Chwaraeon Cymru o ran ein dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.

• Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle bo hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r raddfa.

Ein Gwerthoedd 

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:  

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.              

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

Manyleb y Person

Maes ffocws Gofynion Hanfodol Gofynion Dymunol 

Addysg 

  

Amherthnasol Amherthnasol 
Profiad 

Bod yn athletwr 18 oed a hŷn o fewn system chwaraeon Cymru.

Mae angen i chi fod wedi cynrychioli Cymru yn rhyngwladol mewn chwaraeon (naill ai'n gwneud hynny'n weithredol ar hyn o bryd neu o fewn y 5 mlynedd diwethaf) neu fod yn rhan o lwybr athletwyr y Corff Rheoli Cenedlaethol.

Profiad o fod yn gynrychiolydd athletwyr o fewn eich camp 
Sgiliau, Agweddau a Doniau  

Bod yn angerddol am gynrychioli a chyfathrebu profiadau holl athletwyr Cymru ac yn ymroddedig i hynny

Bod â dyhead i wella profiad yr athletwr o Gymru ar draws pob camp

Gallu cadw safbwyntiau a phrofiadau niferus mewn cof a chyfathrebu'r rhain i amrywiaeth o gynulleidfaoedd

Gallu cyfathrebu'n effeithiol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, a bod yn barod i addasu eich dull cyfathrebu i weddu i'r gynulleidfa

Bod yn ymwybodol o'r cyd-destunau a'r datblygiadau chwaraeon cenedlaethol a rhyngwladol yn y maes

Bod â chymhelliant i ddatblygu a chynnal perthnasoedd yn barhaus ag eraill o fewn y cyd-destun chwaraeon cenedlaethol a rhyngwladol

Bod ag empathi a thosturi, a’u dangos, a bod yn barod i dderbyn credoau, profiadau a barn pobl eraill

Gallu gweithio'n gyfrifol o fewn cylch gwaith y swydd a cheisio cefnogaeth briodol os oes angen

Dangos y gallu i weithio ochr yn ochr â staff o fewn Chwaraeon Cymru a chael eich arwain gan egwyddorion y sefydliad i ddarparu patrwm o wasanaeth mewn perthynas â'n dyletswyddau statudol (e.e. Cydraddoldeb, Diogelu, Rheoli Risg)

Amgylchiadau Arbennig