Main Content CTA Title

Cogydd

Am y swydd wag hon

ADRAN A CHYFLOG

Adran – Arlwyo a Chadw Tŷ

Cyflog – £21,139 - £22,209 Graddfa 3

Oriau Gwaith – 30 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

Lleoliad – Caerdydd 

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.  

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi chi.

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl. 

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a'ch cartref.  

Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mwy o wybodaeth am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.

SUT BYDDWCH CHI’N CYFRANNU 

Rydym yn chwilio am Gogydd creadigol a phrofiadol i ymuno â'n tîm ni. Fel Cogydd, byddwch yn gweithio fel rhan o'r tîm cynhyrchu yn gweithio yng nghefn y tŷ. Byddwch yn cefnogi’r Prif Gogydd gyda’r gwaith o redeg y gegin o ddydd i ddydd, i sicrhau bod bwyd o’r safon uchaf yn cael ei weini i’n hymwelwyr / gwesteion ni a sicrhau bod yr holl fwyd sy’n cael ei weini yn unol â Pholisi Bwyd Chwaraeon Cymru, sy’n adlewyrchu bwydlen gytbwys o fwyd ffres i helpu i gefnogi, adfer a chyflenwi tanwydd o fewn yr amgylchedd chwaraeon.

GYDA PHWY FYDDWCH CHI'N GWEITHIO

Fel aelod o’r tîm Arlwyo a Chadw Tŷ, byddwch yn ymroddedig i ddarparu safon bwyd o ansawdd uchel, ochr yn ochr â gwasanaeth o’r safon uchaf, a byddwch yn dangos angerdd dros fwyd. Byddwch yn aelod o’r tîm sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth o safon i fodloni safonau yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ac yn rhoi croeso cynnes i bob cwsmer ac ymwelydd, fel bod enw da swyddogaeth Arlwyo a Chadw Tŷ Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn cael ei gynnal a’i wella.

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir. 

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

BETH SY’N DIGWYDD NESAF 

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn (cofiwch nad ydym yn derbyn CV). 

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.

Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth i wneud cais am y rôl yma, anfonwch e-bost i [javascript protected email address]

Am fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio, e-bostiwch JOBENQUIRIES@SPORT.WALES

DYDDIAD CAU 20/01/2025 9AM

DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD 29/01/2025

 

DISGRIFIAD SWYDD LLAWN

YN ATEBOL I

Rheolwr Arlwyo a Chadw Tŷ

PWRPAS Y SWYDD

Fel aelod o’r Tîm Arlwyo a Chadw Tŷ, byddwch yn darparu safon bwyd o ansawdd uchel, ynghyd â gwasanaeth o’r radd flaenaf, gan ddangos angerdd tuag at fwyd. Byddwch yn aelod o’r tîm sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gyrraedd y safonau yn unol a’r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt, ac yn rhoi croeso cynnes i bob cwsmer ac ymwelydd, fel bod enw da adran Arlwyo a Chadw Tŷ Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn cael ei gynnal a’i wella.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Paratoi, creu ac arddangos pob pryd bwyd yn unol â’r bwydlenni cymeradwy, ac yn unol â System Rheoli Diogelwch Bwyd Chwaraeon Cymru (FSMS), gan sicrhau bod cylch bwydlen pedair wythnos yn ei le sy’n adlewyrchu Polisi Bwyd Chwaraeon Cymru, gyda’r holl ryseitiau wedi’u costio i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyllideb flynyddol. 

Ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol yn y gegin, gan gynnwys pob agwedd ar reoli stoc, archebu a derbyn nwyddau yn absenoldeb y Prif Gogydd, a sicrhau bod pob cyflenwr sy’n cael ei ddefnyddio yn unol â’r rhestr o gyflenwyr wedi’u henwebu sydd wedi’i chytuno ar gyfer Chwaraeon Cymru.  

Cadw at yr holl fwydlenni yn ôl y gofyn, gan gynnwys (lle bo hynny'n ymarferol yn fasnachol) cynnyrch ffres, lleol, moesegol a thymhorol. Fel rhan o’r tîm cynhyrchu, gweithio gyda maethegwyr mewnol i sicrhau bod anghenion pob cwsmer, gan gynnwys athletwyr elitaidd, yn cael eu hystyried.

Cynnal ymwybyddiaeth o dueddiadau cyfredol ym maes bwyd a datblygiadau’r diwydiant bwyd fel bod Chwaraeon Cymru yn gallu datblygu’r ddarpariaeth o fwyd i fod yn flaengar yn y farchnad.

Hybu amgylchedd croesawus gyda lefel uchel o Ofal am Gwsmeriaid a chefnogi’r staff i gyd i gyrraedd yr un safon, gan sicrhau bod pob ymweliad Siopwr Cudd yn cydymffurfio dros 95%.

Ymgymryd â’r holl dasgau Cyflenwi, Storio a Pharatoi Bwyd a Gweithrediadau Cegin yn unol â’r hyfforddiant, er mwyn cyrraedd safonau uchel y ddeddfwriaeth Diogelwch Bwyd ac Iechyd a Diogelwch.

Sicrhau bod pob pryniant yn cael ei wneud drwy ein rhestr o Gyflenwyr Wedi’u Henwebu, a bod y rhain yn cael eu rheoli i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau Amgylcheddol a Chynaliadwyedd yn Chwaraeon Cymru, i leihau ein hôl troed carbon, gyda’r holl brynu yn unol â chyllideb y cytunwyd arni o gost nwyddau v % elw gros  i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyllideb flynyddol.

Ymgymryd â’r holl ddyletswyddau glanhau yn unol â System Rheoli Diogelwch Bwyd Chwaraeon Cymru (FSMS), gan gynnwys cario gwastraff bwyd allan, tasgau ailgylchu a gwaredu gwastraff arlwyo yn ddiogel, gan sicrhau bod % y gwastraff bwyd yn cael ei reoli yn unol â System Reoli Leanpath.

Monitro a sicrhau bod yr holl ffurflenni rheoli’n cael eu llenwi’n ddyddiol yn unol â gweithdrefnau’r System Rheoli Diogelwch Bwyd (FSMS), cwblhau a chymeradwyo ffurflenni i sicrhau cydymffurfiaeth 100%.

Gweithio fel rhan o’r tîm cynhyrchu a chyfathrebu â’r Goruchwylydd Gweithrediadau Arlwyo a’r Cynorthwywyr Cyffredinol i sicrhau wrth weini bwyd neu werthu eitemau adwerthu (gan gynnwys Peiriannau Gwerthu) eu bod yn cael eu cyflwyno i safon uchel, a’u cadw’n lân, yn daclus ac yn ddiogel yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelwch Bwyd.

Yn unol â darpariaethau Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cymryd gofal rhesymol o’ch iechyd a’ch diogelwch chi eich hun ac iechyd a diogelwch eraill a all gael eu heffeithio gan eich gweithredoedd neu eich esgeulustod yn y gwaith. Cydweithredu â Chwaraeon Cymru wrth iddo gydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan unrhyw ddarpariaethau iechyd a diogelwch.

Gwisgo’r wisg briodol a chynnal lefel uchel o hylendid personol.

Cydymffurfio ag unrhyw ymholiadau gwasanaethau cwsmeriaid, e.e. delio â sylwadau neu ymholiadau / cwynion cwsmeriaid.

Helpu i gynnal amgylchedd glân a thaclus ym mhob rhan o’r Ganolfan (mewnol ac allanol).

Cyflawni cyfrifoldebau sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoliadau Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.

Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl y gofyn, os yw hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'w graddfa.

EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:  

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.              

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

MANYLEB Y PERSON

Maes Ffocws Gofynion Hanfodol             Gofynion Dymunol            

Addysg 

 

Sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol

City & Guilds 706/1 a 706/2 neu ddiploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol (neu gyfatebol) 

CIEH Diogelwch Bwyd Lefel 2 (neu barodrwydd i weithio tuag ato)

 

NVQ lefel 3 paratoi a choginio bwyd 

 

 

Profiad

 

Profiad o weithio fel Cogydd neu Gogydd Sous mewn rôl ac amgylchedd tebyg

 

 

Sgiliau, Doniau a Galluoedd 

 

Hyblyg

Effeithlon a threfnus   

Cyfeillgar, parod i helpu a phositif, gyda ffocws da ar y cwsmer a sgiliau rhyngbersonol da 

Gallu gweithio heb gyfarwyddyd o ddydd i ddydd 

Gallu gweithio mewn amgylchedd tîm cadarnhaol a’i ddatblygu