Skip to main content

Cynghorydd Llwybr a Pherfformiad

Am y swydd wag hon

ADRAN A CHYFLOG

Adran– Cyfarwyddiaeth y System Chwaraeon – Tîm Strategaeth

Cyflog – Graddfa 9 (£45,111.09 - £48,324.12)

Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi. 

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl. 

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a'ch cartref.

SUT BYDDWCH CHI’N CYFRANNU

Y Weledigaeth ar y cyd ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yw creu cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes - o'r rhai nad ydynt yn meddwl amdanynt eu hunain fel pobl fedrus mewn chwaraeon i'r rhai sy'n mynd ymlaen i ennill medalau aur. Er mwyn gwireddu’r Weledigaeth, mae angen i ni feithrin system chwaraeon gynhwysol sy’n darparu cyfleoedd sy’n cael eu harwain gan angen sy’n ddiogel, yn bleserus ac yn ddatblygiadol.

Rydyn ni eisiau cefnogi llwyddiant i Gymru ar lwyfan y byd drwy ddull hirdymor, cyfannol o ddatblygu athletwyr. Sicrhau bod pob person yng Nghymru sydd â’r dyhead i wella a symud ymlaen mewn chwaraeon yn cael y cyfleoedd, y profiadau, yr amgylcheddau a’r sgiliau i gyrraedd eu potensial a chyflawni eu nodau.

Gan weithio gyda'n partneriaid, rydyn ni eisiau gweld yr holl Lwybrau a Rhaglenni Perfformiad yn cael eu sbarduno gan angen gyda dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o weithredu. ​Darparu cyfleoedd i sylfaen ehangach o athletwyr a sbarduno newid ystyrlon i sicrhau bod y cyfleoedd yn fwy cynhwysol. Chwaraeon yn chwarae rhan yn natblygiad y person a'r perfformiwr. Creu amgylcheddau lle mae unigolion yn gweld eu hunain yn datblygu ac yn llwyddo.

Mae llwyddiant ar lwyfan y byd yn un o ganlyniadau dymunol datblygiad athletwyr rhagorol. Mae helpu i ddatblygu pobl a all ffynnu mewn bywyd, cyn, yn ystod ac ar ôl eu gyrfa chwaraeon, yn rhywbeth arall rydyn ni’n ei ystyried fel rhywbeth yr un mor werthfawr. ​

GYDA PHWY FYDDWCH CHI'N GWEITHIO

Fel aelod o dîm Strategaeth y System Chwaraeon, byddwch yn gweithio gyda phobl sy’n rhannu angerdd dros wneud y system chwaraeon yn fwy cynhwysol ac sy’n deall y rôl hanfodol y gall perfformiad, sylfeini (sicrhau bod pobl ifanc yn cael y sylfeini a’r sgiliau i gael mwynhad gydol oes o chwaraeon) a hyfforddi (sicrhau bod ein cefnogaeth a'n datblygiad ni mewn perthynas â hyfforddwyr yn cyd-fynd â'n bwriad i wneud y system chwaraeon yn gynhwysol) ei chwarae yn hynny.

Byddwch hefyd yn gweithio’n agos gyda thîm Rheolwr Perthnasoedd Chwaraeon Cymru, arweinwyr yn nhîm Gwasanaethau Athrofa Chwaraeon Cymru a chydweithwyr o bob rhan o system llwybr a pherfformiad y DU i nodi’r meysydd hynny a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf o ran sicrhau llwyddiant i Gymru ar lwyfan y byd drwy ddull cyfannol o ddatblygu athletwyr.

Gan weithio yn yr amgylchedd chwaraeon llwybr a pherfformiad yng Nghymru byddwch yn datblygu perthnasoedd dylanwadol gydag Arweinwyr Perfformiad, Arweinwyr Llwybrau a staff allweddol eraill mewn Cyrff Rheoli Cenedlaethol. Gan weithredu fel ffrind beirniadol i’n partneriaid, a bod yn ddylanwad cadarn ac uchel ei barch arnynt, byddwch yn eu helpu i ddeall y dull rydym yn ei hyrwyddo mewn amgylcheddau llwybr a pherfformiad a phwysigrwydd strategaethau, systemau, a strwythurau sydd eu hangen i wireddu’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru drwy System Chwaraeon Gynhwysol.

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Bydd arnoch angen angerdd i wneud y system chwaraeon yn fwy cynhwysol a’r gallu i gynhyrchu syniadau a dylanwadu ar feddwl mewn ffordd a fydd yn arwain at newid cadarnhaol, hirdymor gyda chwaraeon a thrwy gydweithredu ar draws y sector. Bydd angen i chi barhau i sbarduno strategaethau, systemau a strwythurau sy’n cael eu gyrru gan angen gyda dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o weithredu yn hytrach na rhai sy’n seiliedig ar ddynwared a thraddodiad yn unig.

Bydd gennych brofiad o ddatblygu perthnasoedd gan ddefnyddio arddulliau rhyngbersonol priodol a dulliau cyfathrebu â phartneriaid mewnol ac allanol, gan feithrin ymddiriedaeth, a gweithredu mewn ffordd sy’n rhoi hyder i eraill ynoch chi.

Bydd gwybodaeth a phrofiad o Ddatblygiad Athletwyr / Llwybrau a Rhaglenni Perfformiad o fantais yn y rôl hon. Fodd bynnag, ar gyfer ymgeisydd sydd â'r sgiliau a'r ymddygiadau priodol, gallwn roi unrhyw brofiad i chi nad oes gennych ar hyn o bryd. Y naill ffordd neu’r llall, bydd arnoch angen chwilfrydedd a dyhead i ddysgu ac arbrofi wrth i ni esblygu a gwella’n barhaus o ran sut rydym yn mynd ati i wneud y system chwaraeon yng Nghymru yn fwy cynhwysol.

BETH SY’N DIGWYDD NESAF 

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn (cofiwch nad ydym yn derbyn CV). 

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.

Os oes arnoch chi angen unrhyw gefnogaeth i wneud cais am y rôl yma, e-bostiwch [javascript protected email address]

Am fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio, e-bostiwch JOBENQUIRIES@SPORT.WALES

DYDDIAD CAU: Dydd Llun 4ydd Rhagfyr 9am

DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD: Dydd Mercher 13eg Rhagfyr / Dydd Iau 14eg Rhagfyr

 

DISGRIFIAD SWYDD LLAWN

YN ATEBOL I

Pennaeth Strategaeth y System Chwaraeon

PWRPAS Y SWYDD

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar gyfleoedd, profiadau ac amgylcheddau datblygu athletwyr ar draws system chwaraeon Cymru. Gan weithio yn yr amgylchedd chwaraeon llwybr a pherfformiad byddwch yn arwain ein gwaith gyda phartneriaid ategol i sicrhau bod y strategaethau, y systemau a'r strwythurau yn eu lle i wireddu'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Meithrin system chwaraeon gynhwysol sy’n cael ei gyrru gan angen gyda dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o weithredu yn hytrach nag un sy’n seiliedig ar ddynwared a thraddodiad yn unig.

Byddwch yn datblygu perthnasoedd dylanwadol o ansawdd uchel gydag Arweinwyr Perfformiad, Arweinwyr Llwybrau a staff allweddol eraill Cyrff Rheoli Cenedlaethol. Gan weithredu fel ffrind beirniadol i’n partneriaid, ac yn ddylanwad cadarn ac uchel ei barch arnynt, byddwch yn eu cefnogi i gofleidio a dadansoddi gwahanol fathau o dystiolaeth, data a dirnadaeth i arwain at nodi blaenoriaethau strategol, llywio penderfyniadau gweithredol ac ystyried cyfleoedd ar draws chwaraeon neu system gyfan.

Fel aelod o dîm Strategaeth y System Chwaraeon (perfformiad, sylfeini, a hyfforddi) byddwch yn gweithio'n agos gyda thîm Rheolwr Perthnasoedd Chwaraeon Cymru ac arweinwyr yn nhîm Gwasanaethau Athrofa Chwaraeon Cymru i nodi'r meysydd hynny a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i sicrhau llwyddiant i Gymru ar lwyfan y byd drwy ddull cyfannol o ddatblygu athletwyr. Byddwch hefyd yn gweithio’n ehangach ar draws y system gan ymgysylltu â sefydliadau partner a sefydliadau eraill y tu hwnt i Gymru (e.e., UK Sport, Sport England, Sport New Zealand, Comisiwn Chwaraeon Awstralia ac ati) i weld pethau o safbwynt strategol ehangach, nodi anghenion cyffredin a throsi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol.

PRIF DDYLETSWYDDAU

  • Arwain ac ysbrydoli partneriaid i gefnogi llwyddiant i Gymru ar lwyfan y byd drwy ddull hirdymor, cyfannol o ddatblygu athletwyr a meithrin system chwaraeon gynhwysol.
  • Datblygu perthnasoedd rhagorol, dibynadwy gyda phartneriaid i gefnogi a herio uchelgeisiau strategol ac ysgogi newid llwyr mewn Llwybrau a Rhaglenni Perfformiad.
  • Darparu cefnogaeth i bartneriaid i gofleidio a dadansoddi gwahanol fathau o dystiolaeth, data a dirnadaeth i arwain at nodi blaenoriaethau strategol, llywio penderfyniadau gweithredol ac ystyried cyfleoedd chwaraeon neu system gyfan.
  • Helpu i sicrhau bod partneriaid yn recriwtio ac yn datblygu'r gweithlu angenrheidiol i feithrin system chwaraeon gynhwysol mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Chwaraeon Cymru a thu hwnt.
  • Ymgysylltu’n eang ar draws y system chwaraeon gyda sefydliadau partner a sefydliadau eraill y tu hwnt i Gymru (e.e. UK Sport, Sport England, Sport New Zealand, Comisiwn Chwaraeon Awstralia ac ati) i weld pethau o safbwynt strategol ehangach, nodi anghenion cyffredin a throsi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol.
  • Sicrhau cefnogaeth ac ymrwymiad partïon perthnasol wrth fynd ar drywydd canlyniadau y cytunwyd arnynt, gan reoli gwrthdaro i leihau tensiwn mewn sefyllfaoedd heriol wrth fynd i'r afael â materion sylfaenol.
  • Hyrwyddo gwaith tîm Strategaeth y System Chwaraeon ym meysydd perfformiad, sylfeini a hyfforddi, Cefnogi cysylltu ein gwaith yn fewnol ar draws Chwaraeon Cymru ac yn allanol gyda'n partneriaid.
  • Hysbysu a chefnogi cydweithwyr o bob rhan o Chwaraeon Cymru i ddatblygu dysgu allweddol, argymhellion polisi a goblygiadau o ran adnoddau drwy wybodaeth sy’n cael ei chasglu o weithio gyda phartneriaid.
  • Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru o ran ein dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.  
  • Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle bo hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r raddfa.

EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol: 

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.          

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir. 

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

MANYLEB Y PERSON 

Maes Ffocws Gofynion Hanfodol Gofynion Dymunol         

Addysg

 

Addysg hyd at lefel gradd; neu

Gallu dangos profiad a gwybodaeth gyfatebol

 

Profiad 

 

Profiad o reoli perthnasoedd gan gynnwys dylanwadu ar dimau arwain, strategaethau partner a dulliau gweithredu

Profiad o gefnogi partneriaid i ddeall a mynegi'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt flaenoriaethu eu hymdrechion a'u hegni

Dealltwriaeth o ddulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a gwerthfawrogiad o sut gellid defnyddio'r rhain mewn amgylchedd datblygu athletwyr

Gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddysgu, gwerthuso'r wybodaeth sydd ar gael, tystiolaeth a risg 

Profiad o weithio yn y system chwaraeon fel arweinydd, rheolwr, hyfforddwr, neu uwch wirfoddolwr arall

Gwybodaeth am Lwybrau a Rhaglenni Perfformiad yng Nghymru a ledled y DU

Dealltwriaeth o ddulliau modern a chyfannol o ddatblygu athletwyr gyda phrofiad o roi hyn ar waith mewn ffordd gymhwysol ac integredig

Sgiliau, Doniau a Galluoedd

Gallu meithrin perthnasoedd dibynadwy gan ddefnyddio arddulliau rhyngbersonol priodol a dulliau cyfathrebu a all wrthsefyll gwahaniaethau barn ac anghytuno cryf

 

Arwain ac ysbrydoli eraill, gan ennill parch gan gydweithwyr a phartneriaid a meithrin perthnasoedd cadarn ar draws partneriaethau allweddol i ddylanwadu ar welliant parhaus ac ysgogi newid

Yn fedrus iawn wrth roi a derbyn adborth gyda'r dewrder i wneud hynny ac i ymddwyn yn onest bob amser

Y gallu i gyfathrebu'n ddarbwyllol a gyda dylanwad ar lefel uwch, ar lafar ac yn ysgrifenedig

Trosi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol a sefydlu prosiectau, tracio ac adolygu cynnydd, gwerthuso a gweithredu dysgu i gael yr effaith orau bosibl

Gallu delio ag amrywiaeth o sefyllfaoedd sy'n aml yn gymhleth a bod yn gyfforddus gyda pheidio â chael yr ateb bob amser

Gweithio'n gyfforddus yn annibynnol, ysgwyddo cyfrifoldeb personol a dal eich hun ac eraill yn atebol am safonau perfformiad, ceisio cymorth ac arweiniad gan eraill pan fo hynny'n briodol

Hyrwyddo rhannu gwybodaeth o fewn a thu hwnt i’w dîm ei hun, ac yn dangos ymrwymiad i’w ddysgu ei hun a gwelliant parhaus

Sgiliau dwyieithog neu amlieithog.

Sgiliau hyfforddi a mentora datblygedig, gan ddangos chwilfrydedd a sgiliau holi lefel uchel

Yn deall elfennau hanfodol timau sy'n perfformio'n dda ac yn gallu adeiladu'r rhain gan ddefnyddio sgiliau arwain effeithiol

Gallu ystyried y defnydd gorau o gyllidebau a phobl yn erbyn blaenoriaethau strategol cystadleuol 

Amgylchiadau Arbennig

Gallu gweithio'n hyblyg.

Gallu teithio yn ôl yr angen