Disgrifiad swydd
Swyddog Dirnadaeth (Tystiolaeth a Gwerthuso)
YN ATEBOL I
Uwch Arweinydd Dirnadaeth / Arweinydd Ymchwil Defnyddwyr
YN GYFRIFOL AM
AMH.
PWRPAS Y SWYDD
Mae’r rôl hon yn gyfle allweddol i ddatblygu gyrfa ymchwil a dirnadaeth yn y sector chwaraeon a thu hwnt.
Bydd y rôl hon yn rhoi’r cyfle i chi rwydweithio ar draws Chwaraeon Cymru a’r sector chwaraeon, ennill profiad sylweddol mewn dirnadaeth a datblygu ymchwil, a datblygu’r sgiliau ar gyfer gyrfa mewn sawl maes polisi.
Yn ogystal â chefnogi rhaglenni blaenllaw Chwaraeon Cymru, gan gynnwys yr Arolwg Chwaraeon Ysgol, a’r Rhaglen Cyfathrebu, Dysgu a Dirnadaeth, bydd deiliad y swydd yn canolbwyntio ar weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid Chwaraeon Cymru. Byddwch yn helpu i gefnogi anghenion dirnadaeth, data a thystiolaeth y sector, gan weithio i nodi lle mae arnynt angen cymorth, gweithredu fel cyfryngwr rhwng Chwaraeon Cymru a’r sector a hyrwyddo tystiolaeth newydd a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg.
PRIF DDYLETSWYDDAU
- Cynnal arolygon a chasglu data, gan ddefnyddio dulliau fel cyfweliadau, grwpiau ffocws, arolygon cymdeithasol, adolygu llenyddiaeth, ac adolygu ffeiliau.
- Cefnogi prosiectau dulliau cymysg – o gomisiynu i gyflwyno (e.e. dylunio ymchwil a datblygu holiadur, dadansoddi adroddiad, a gwerthuso).
- Cefnogi'r Arweinydd Ymchwil Defnyddwyr i gefnogi anghenion ymchwil defnyddwyr y sefydliad, a datblygu gallu ymchwil defnyddwyr y sefydliad.
- Defnyddio dulliau ansoddol o ddadansoddi ystod o ddeunyddiau (e.e. dadansoddiad thematig, dadansoddiad cynnwys, astudiaethau achos).
- Cefnogi dadansoddiad data o arolygon cymdeithasol (e.e. ystadegau disgrifiadol, dadansoddi data categorïaidd, ac ati) gan ddefnyddio SPSS.
- Cyfathrebu tystiolaeth a dirnadaeth newydd gan Chwaraeon Cymru i'w bartneriaid.
- Gweithredu fel cyswllt dirnadaeth rhwng Chwaraeon Cymru a phartneriaid dethol.
- Gwerthuso a deall anghenion dirnadaeth partneriaid cynnal a gweithio gyda rheolwyr perthnasoedd Chwaraeon Cymru a thimau dirnadaeth i roi sylw i'r materion hynny.
- Cefnogi partneriaid i gael eu sbarduno gan ddirnadaeth ac i gael eu harwain gan ddysgu yn eu dull o weithredu, ac ymateb i unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â dirnadaeth.
- Cefnogi cyflwyno a hyrwyddo'r Rhaglen Cyfathrebu, Dysgu a Dirnadaeth.
- Tynnu sylw at astudiaethau achos a chyfleoedd dysgu allweddol gan bartneriaid cynnal ar gyfer datblygu ymgyrchoedd ac eiriolaeth ar gyfer y timau cyfathrebu a dirnadaeth.
- Cefnogi datblygiad a gwerthusiad rhaglenni a mentrau Chwaraeon Cymru
- Cyflawni cyfrifoldebau sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoliadau Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
- Gweithio’n hyblyg gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol ac yn berthnasol i’r swydd ac yn briodol i’rraddfa.
EIN GWERTHOEDD
Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:
Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.
Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.
Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol.
Drwy wneud y canlynol:
Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.
Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.
MANYLEB Y PERSON
Gofynion Hanfodol | Gofynion Dymunol | |
Addysg: | Addysg hyd at lefel gradd. | |
Profiad:
| Gwybodaeth am ymchwil a gwerthuso cymdeithasol / defnyddwyr / marchnad, gan gwmpasu gwahanol ddyluniadau, dulliau a chasglu data – ansoddol a meintiol. Sgiliau dadansoddol cadarn wrth ddehongli a chyflwyno data meintiol ac ansoddol mewn ffyrdd sy'n cynyddu eu gwerth wrth lunio polisïau a dylanwadu ar arferion. Sgiliau TG cadarn. Dealltwriaeth o SPSS a'r gallu i ddysgu a defnyddio'r egwyddorion hyn yn ymarferol. Y gallu i gyflwyno tystiolaeth newydd a thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg i wahanol gynulleidfaoedd. | Profiad o weithio gydag unrhyw becyn meddalwedd priodol at ddibenion dadansoddi data (e.e. SPSS, R, Python, Power Query, a Power BI).
Profiad o adnoddau cyfathrebu digidol.
|
Sgiliau, Doniau a Galluoedd:
| Y gallu i feithrin perthnasoedd gydag ystod o wahanol randdeiliaid. Y gallu i greu amgylchedd gwaith da a chadarnhaol ac ymdrin yn effeithiol â materion a phroblemau. Y gallu i ddadansoddi data o arolygon cymdeithasol ac ymchwil defnyddwyr. Y gallu i ysgrifennu adroddiadau cynhwysfawr a chryno o fewn terfynau amser. Y gallu i gyflwyno i unigolion hŷn mewn ffordd hyderus, gan gymell. | Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
|