Skip to main content

Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol A Thechnoleg

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol A Thechnoleg

Am y swydd wag hon

ADRAN A CHYFLOG

Adran – Gwasanaethau Cyllid a Busnes 

Cyflog - £56,112 - £61,535.33

Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

lleoliad - Caerdydd

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi chi.

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl. 

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a'ch cartref.  

Ariennir gyrfaoedd Chwaraeon Cymru gan y Loteri Genedlaethol. Gallwch ddarganfod mwy am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.

SUT BYDDWCH YN CYFRANNU 

Mae hwn yn gyfle eithriadol i rywun chwarae rhan ganolog wrth galon Chwaraeon Cymru, corff cyhoeddus uchel ei broffil ac uchelgeisiol. Rydyn ni eisiau helpu i gyflawni’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru, lle gall pawb gael mwynhad oes o chwaraeon. Byddwch yn helpu i gefnogi hyn drwy gyfrannu gwybodaeth a phrofiad cadarn o lywodraethu, perfformiad corfforaethol, a chynllunio strategol.

Chi fydd y person fydd pawb yn troi ato ar gyfer materion llywodraethu corfforaethol a chydymffurfio, gan sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn bodloni ac yn rhagori ar y safonau disgwyliedig.

Mae Chwaraeon Cymru yn darparu gwasanaethau busnes o ansawdd uchel, sy'n hanfodol i weithredu’r sefydliad yn effeithiol ac yn llyfn. Byddwch yn cyfrannu at ragoriaeth sefydliadol mewn meysydd fel rheoli risg, cydymffurfiaeth reoleiddiol a deddfwriaethol, technoleg ac arloesi a newid gwasanaethau. Byddwch yn arwain ein tîm Datrysiadau Technoleg perfformiad uchel i ddarparu gwasanaethau arloesol o ansawdd uchel yn unol â'n gwerthoedd.

Byddwch hefyd yn chwarae rôl strategol wrth arwain datblygiad Cynllun Busnes Chwaraeon Cymru ac yn gweithio gyda’r Tîm Gweithredol a’r Uwch Dimau Arwain i flaenoriaethu a chyflawni camau gweithredu yn ogystal ag adrodd ar gynnydd.

Byddwch yn ganolbwynt ar gyfer perthnasoedd allweddol, gan gynnwys is-adran noddi Llywodraeth Cymru, yr uned Cyrff Cyhoeddus, archwilio mewnol, archwilio allanol a’r comisiynwyr yng Nghymru.

Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfathrebu a Digideiddio Strategol i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Map Ffordd Digidol Chwaraeon Cymru.

 GYDA PHWY FYDDWCH YN GWEITHIO 

Fel y Pennaeth Llywodraethu a Thechnoleg o fewn y gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Busnes, byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr, y Pennaeth Cyllid a Buddsoddiadau, yr Arweinydd Cydymffurfiaeth Reoleiddiol a’r timau Technoleg.

Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda nifer o uwch randdeiliaid, gan gynnwys: -

  • Y Cadeirydd, yr Is Gadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd
  • Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru
  • Yr Uwch Dîm Arwain (fel aelod)
  • Swyddogion Llywodraeth Cymru

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol sydd â gwybodaeth gadarn am faterion llywodraethu corfforaethol a chynllunio busnes. Bydd gennych naill ai Ddiploma Llywodraethu Corfforaethol neu byddwch yn barod i weithio tuag at y cymwysterau, gyda chymorth gan Chwaraeon Cymru.

Byddwch yn rhywun sy'n arfer crebwyll cadarn ac sydd â sgiliau cyfathrebu a dylanwadu rhagorol. Bydd gennych brofiad o weithio gydag uwch arweinwyr ac aelodau Bwrdd mewn rôl debyg.

Byddwch yn rhagweithiol wrth adnabod risgiau allweddol, deddfwriaeth, a datblygiadau eraill yn y maes llywodraethu corfforaethol i sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn bodloni’r safonau gofynnol ac yn ymateb i newid.

Byddwch yn gallu arwain ac ysbrydoli tîm, a darparu cyfeiriad a chymhelliant, gan weithio gydag arbenigwyr pwnc.

BETH SY’N DIGWYDD NESAF 

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn (cofiwch nad ydym yn derbyn CV). 

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.

Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth i wneud cais am y rôl yma, anfonwch e-bosti [javascript protected email address]

Am fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio, e-bostiwch JOBENQUIRIES@SPORT.WALES

DYDDIAD CAU :    Medi 23ain yn 9am

DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD :         Hydref 10fed

 

DISGRIFIAD SWYDD LLAWN

yn atebol i 

Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes

YN GYFRIFOL AM

Arweinydd Diogelwch Gwybodaeth ac Arweinydd Stadau Digidol

PWRPAS Y SWYDD

Byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth galon Chwaraeon Cymru, gan arwain pob agwedd ar gynllunio busnes, llywodraethu, rheoli risg a chydymffurfio. Bydd hyn yn cynnwys cysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys aelodau o Fwrdd Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cydweithio sylweddol ar draws yr Uwch Dîm Arwain i arwain datblygiad y Cynllun Busnes blynyddol ac adrodd arno.

Gan weithio gyda'r tîm Datrysiadau Technoleg byddwch yn goruchwylio datblygiad a gweithrediad strategaethau effeithiol i sicrhau bod Datrysiadau Technoleg o ansawdd uchel yn cael eu darparu ar draws y sefydliad.

Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfathrebu a Digideiddio Strategol i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Map Ffordd Digidol Chwaraeon Cymru.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Tîm Arwain:

  • Bod yn aelod o'r Uwch Dîm Arwain gyda chyfrifoldeb ar draws y busnes.
  • Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, y Gymraeg, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
  • Mynd ati i annog cynaliadwyedd, lles a chydraddoldeb, gan werthfawrogi amrywiaeth a gwahaniaeth.
  • Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle bo hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r raddfa.
  • Mynd ati'n rhagweithiol i chwilio am gyfleoedd i feithrin perthnasoedd cadarnhaol sy'n datblygu enw da Chwaraeon Cymru.
  • Bod yn atebol am flaenoriaethau’r cynllun busnes sy'n ymwneud â'ch maes cyfrifoldeb.
  • Arwain a rheoli tîm o staff, gan ddarparu cyfeiriad a phennu’r terfynau ar gyfer darparu gwasanaeth rhagorol oddi mewn iddynt.
  • Rheoli cyllideb yn briodol fel mae’n cael ei dirprwyo i chi yn unol â gweithdrefnau Chwaraeon Cymru.
  • Sefydlu diwylliant o ddysgu ac arloesi ar draws y sefydliad ym mhob agwedd ar ein gwaith.
  • Goruchwylio cyflawni blaenoriaethau gwaith y Gyfarwyddiaeth o ddydd i ddydd.
  • Darparu cyngor arbenigol i Fwrdd Chwaraeon Cymru yn ymwneud â'ch meysydd cyfrifoldeb

Penodol i’r Rôl:

  • Arwain a goruchwylio’r gydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol ac adrodd perthnasol, gan gynnwys nodi newidiadau sy'n dod i'r amlwg, tueddiadau ac arfer gorau, gyda chefnogaeth gan yr Arweinydd Cydymffurfiaeth Rheoleiddio.
  • Darparu cyngor arbenigol, argymhellion a chefnogaeth i'r Bwrdd a phwyllgorau eraill ar faterion cydymffurfio a rheoli risg.
  • Sbarduno a rheoli perthnasoedd gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys is-adran noddi Llywodraeth Cymru, yr Uned Cyrff Cyhoeddus, comisiynwyr, ac archwilio mewnol.
  • Sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn ymateb yn briodol i faterion sy'n dod i'r amlwg, fel cwynion, ymchwiliadau, canfyddiadau archwilio a'r Adolygiad wedi'i Deilwra.
  • Arwain datblygiad ac adrodd ar y Cynllun Busnes Blynyddol, gan weithio ar y cyd ag aelodau eraill o'r Uwch Dîm Arwain.
  • Cefnogi'r gwaith o ddylunio a darparu Map Ffordd Digidol Chwaraeon Cymru.
  • Arwain y Tîm Technoleg, gan sicrhau bod y Strategaeth a'r Gwasanaethau Technoleg yn diwallu anghenion Chwaraeon Cymru a bod ystyriaethau Technoleg yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau ar gyfer y dyfodol lle bo hynny’n berthnasol.
  • Cynhyrchu'r Adroddiad Llywodraethu Blynyddol
  • Rheoli cyllideb yn briodol fel mae’n cael ei dirprwyo i chi yn unol â gweithdrefnau Chwaraeon Cymru.

EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol: 

Dysgu Gyda’n Gilydd 

Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.             

Cyflawni Gyda’n Gilydd

Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd

Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll

Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth 

Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir. 

Annog Arloesi         

Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

MANYLEB Y PERSON

Maes FfocwsGofynion Hanfodol Gofynion Dymunol         
Addysg

Gradd neu gymhwyster rheoli / arweinyddiaeth perthnasol

Diploma Llywodraethu Corfforaethol neu wybodaeth a phrofiad cyfatebol

 
Profiad

Profiad ar lefel arweinyddiaeth

Profiad o reoli prosiectau ac adnoddau cymhleth

Profiad o reoli a chymell pobl a chyllidebau

Arbenigedd mewn datblygu partneriaethau a rheoli perthnasoedd

Profiad o foderneiddio a datblygu gwasanaethau

 
Sgiliau, Doniau a Galluoedd

Y gallu i drosi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol

Y gallu i reoli staff mewn ffordd hyblyg, drwy fodelau arweinyddiaeth gwasgaredig a chydweithredol

Y gallu i arwain staff ymholi a chefnogi newydd i weithio gyda bwriad clir yn hytrach na chyfarwyddiadau absoliwt

Y gallu i gefnogi staff i fabwysiadu dull dysgu parhaus sy’n cael ei arwain gan ddirnadaeth

Lefel uchel o sgiliau mewn rheoli llywodraethu a datblygu achosion busnes

Sgiliau TG a thystiolaeth o ddatrysiadau technoleg newydd

Sgiliau dwyieithog neu amlieithog
Amgylchiadau Arbennig

Gallu gweithio'n hyblyg

Gallu teithio yn ôl yr angen

 
Logo Loteri Genedlaethol