Skip to main content
CHWARAEON CYMRU AR GYFER...
Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad Addysg ac Athrawon Partneriaid Chwaraeon Perfformiad Unigolion a Theuluoedd
GWYBODAETH AM...
Chwaraeon mewn Ysgolion Chwaraeon yn y Gymuned Canolfannau Cenedlaethol Ymchwil a Gwybodaeth Grantiau a Chyllid Pont-y-pŵl Unedig – O olau cannwyll i ddyfodol disglair Polisïau a Llywodraethu GRANT CYNNYDD Cefnogaeth i Athletwr Y Coronafeirws: Gwybodaeth hanfodol
AM CHWARAEON CYMRU
Beth yw Chwaraeon Cymru Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru Strategaeth Chwaraeon Cymru Ein Cyfleusterau Athrofa Chwaraeon Cymru Lleoliad a Chysylltiadau Gyrfaoedd Cymryd Rhan mewn Chwaraeon ac Ymarfer yng Nghymru – y Cyfarwyddyd Ymgyrch #CymruActif Cronfa Cymru Actif Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon CRONFA GWEITHWYR LLAWRYDD CHWARAEON Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
Methu gweld beth rydych chi’n chwilio amdano? Ceisiwch chwilio am

Recriwtio Nawr

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Recriwtio Nawr

Cynghorydd Perfformiad

Cliciwch yma i wneud cais

 

Teitl y swydd:Cynghorydd Perfformiad 
Adran:Gwasanaethau Athrofa System Chwaraeon
Cyflog:Graddfa 9 - £41,488.33 - £44,443.33 (pro rata)
Oriau gwaith:22 awr yr wythnos

 

Pwy ydym ni

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.  

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.  

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.   

Mae'r rhan fwyaf o gyflogeion Chwaraeon Cymru yn gweithio o bell ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu codi, bydd Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a'ch cartref i gyd-fynd orau â'ch amgylchiadau personol. 

Sut byddwch yn cyfrannu

Rydym eisiau cefnogi llwyddiant i Gymru ar lwyfan y byd drwy ddull hirdymor a chyfannol o ddatblygu athletwyr. 

Gan weithio gyda'n partneriaid, rydym yn anelu at greu amgylcheddau sy'n galluogi pob athletwr i gyflawni ei botensial, gan baratoi rhai i lwyddo ar y lefel uchaf bosib. Nid oes lein gynhyrchu fel mewn ffatri i gyflawni hyn – pobl yw athletwyr. Nid adeiladu ceir ydyn ni. Rhaid i amgylcheddau fod yn hyblyg ac yn barod a gallu ymateb i'r hyn sydd ei angen. Rydym hefyd yn anelu at sicrhau mwy o amrywiaeth mewn rhaglenni perfformio yng Nghymru. Bydd angen i chi ysbrydoli newid ystyrlon wrth wneud y rhain yn fwy cynhwysol.

Rydym yn gwybod bod angen datblygu athletwyr gwych cyn y gallwch greu pencampwyr. Ac rydym yn credu nad oes raid i greu athletwyr sy’n bencampwyr ddigwydd ar draul creu pobl sydd hefyd yn bencampwyr. Mae llwyddiant ar lwyfan y byd yn un o ganlyniadau dymunol amgylcheddau datblygu athletwyr rhagorol. Mae helpu i ddatblygu pobl sy'n gallu ffynnu mewn bywyd, cyn, yn ystod ac ar ôl eu gyrfa chwaraeon, yn ganlyniad arall rydym yn rhoi gwerth cyfartal arno. 

Byddwch yn sicrhau bod lles hirdymor wrth galon popeth rydym yn ei wneud. Rhaid i amgylcheddau datblygu athletwyr feithrin a chymell cymaint â phosib am gyhyd â phosib.

Gyda phwy fyddwch yn gweithio

Byddwch yn gweithio gyda thîm rheolwyr perthnasoedd Chwaraeon Cymru, arweinwyr yn Athrofa Chwaraeon Cymru a chydweithwyr o bob rhan o system perfformiad uchel y DU i nodi'r meysydd hynny a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf o ran sicrhau llwyddiant i Gymru ar lwyfan y byd drwy ddull cyfannol o ddatblygu athletwyr. 

Gan weithio ar reng flaen yr amgylchedd chwaraeon perfformiad yng Nghymru, byddwch yn datblygu perthnasoedd dylanwadol gyda chyfarwyddwyr perfformiad, hyfforddwyr a staff allweddol eraill Cyrff Rheoli Cenedlaethol. Byddwch yn cefnogi ein partneriaid i allu archwilio, mynegi a datrys heriau a chyfleoedd perfformiad presennol ac yn y dyfodol. Bydd cyfyngiadau amser yn berthnasol i’ch rôl gydag unrhyw bartner, a bydd dros dro, felly bydd angen i chi fod yn eithriadol wrth feithrin perthnasoedd o ansawdd uchel yn gyflym.

Gan weithredu fel ffrind beirniadol i'n partneriaid, a dylanwad cadarn ac uchel ei barch arnynt, byddwch yn sbarduno ein cyfathrebu ag arweinwyr perfformiad i gyflawni newid mawr yn ein dull o ddatblygu athletwyr, o fewn chwaraeon a thrwy gydweithredu ar draws y sector.

Beth fydd arnoch ei angen

Bydd arnoch angen angerdd dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a'r gallu i greu syniadau a dylanwad mewn ffordd a fydd yn arwain at newid mesuradwy. Mae hyn yn bwysicach nag unrhyw brofiad blaenorol o weithio mewn chwaraeon perfformiad uchel.

Bydd angen i chi fod fel a ganlyn:

  • gweld y darlun mawr, sy'n gallu trosi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol
  • eithriadol o ran meithrin perthnasoedd a all wrthsefyll her a gwahaniaeth barn
  • gallu dylanwadu'n ddarbwyllol ac yn gredadwy er mwyn ysgogi newid

 

Bydd rhywfaint o wybodaeth am ddatblygu athletwyr a sicrhau'r perfformiad gorau yn fanteisiol yn y rôl hon. Fodd bynnag, ar gyfer ymgeisydd sydd â'r sgiliau a'r ymddygiad priodol, gallwn ddarparu unrhyw brofiad nad oes gennych ar hyn o bryd. Y naill ffordd neu'r llall, bydd angen i chi fod yn awyddus i ddysgu a darganfod mwy a gwella yn y rôl yn barhaus.

Beth sy’n digwydd nesaf

Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan nihttps://www.sport.wales/careers/

Am ddisgrifiad swydd yn Saesneg, cliciwch yma ac am ddisgrifiad swydd yn y Gymraeg, cliciwch yma.

Am fwy o wybodaeth am y rôl anfonwch e-bost i [javascript protected email address]

Dyddiad Cau:5yp ar 5 Mawrth 2021 
Dyddiad Dros Dro y Cyfweliad: 22 a 25 Mawrth 2021 

Ein Swyddi Gwag

Edrychwch ar y swyddi gwag sydd gennym ni yn Chwaraeon Cymru drwy glicio yma.   Tarwch y botwm ymgeisio nawr a gofynnir i chi gofrestru a llenwi ffurflen gais. Sylwer nad ydym yn derbyn CV a dim ond ffurflen gais fyddwn yn ei hystyried. Gallwch…

Darllen Mwy
Sport Wales
Awarding funds from  the National Lottery
Sponsored by Welsh Government
Polisi Preifatrwydd Polisi Cwcis Telerau Defnyddio'r Wefan Rhyddid Gwybodaeth Hyfforddi drwy bandemig Datganiad Hygyrchedd
© 2021 Chwaraeon Cymru. Cedwir pob hawl Crëwyd gan Grandad