Disgrifiad Swydd
TEITL y swydd
Cynorthwy-ydd Gweithrediadau
YN ATEBOL I
Rheolwr Gweithrediadau Cynorthwyol
PWRPAS Y SWYDD
Gweithio o dan gyfarwyddyd cyffredinol y Rheolwr ar Ddyletswydd fel rhan o dîm sy'n gyfrifol am ddarparu ystod eang o wasanaethau o ansawdd uchel yn effeithlon, yn effeithiol ac yn ddiogel fel rhan o weithrediadau Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru a Phencadlys Chwaraeon Cymru.
Ymgymryd â shifftiau llanw yn rheolaidd fel Rheolwr ar Ddyletswydd.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Gwasanaethau’r Ganolfan
- Paratoi holl ardaloedd mewnol ac allanol y Ganolfan i fod yn addas i’r gweithgareddau a drefnir a gofynion gweithredol y Ganolfan.
- Cynnal rheoliadau'r Ganolfan a chynnal goruchwyliaeth gyffredinol ar ddefnyddwyr y Ganolfan ym mhob ardal fewnol ac allanol – gan gynnwys goruchwyliaeth fonitro reolaidd ar doiledau, ystafelloedd newid, coridorau, neuaddau / ardaloedd gweithgarwch, yr holl ardaloedd cyhoeddus / derbynfa eraill, ystafelloedd digwyddiadau / ardaloedd swyddfa ac unrhyw ardaloedd eraill fel sy’n ofynnol.
- Rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr am wasanaethau, gweithgareddau a rhaglenni'r Ganolfan.
- Ymgymryd â rhaglenni glanhau rheolaidd yn y campfeydd cardiofasgiwlar a phwysau rhydd, fel y nodir yn y rhaglenni gwaith arferol ar gyfer yr ardaloedd hyn. Glanhau'r ystafelloedd newid, clirio a glanhau ystafelloedd cyfarfod ar ôl eu defnyddio, glanhau’r storfeydd Gweithrediadau ac unrhyw dasgau glanhau mewnol ac allanol sy’n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd a diogelwch defnyddwyr / staff y Ganolfan.
- Ymgymryd â dyletswyddau diogelwch y maes parcio.
- Ymgymryd â dyletswyddau uniongyrchol eraill sy'n ymwneud â gwasanaethau cwsmeriaid ac iechyd a diogelwch, fel delio â synwyryddion y larwm tân, pwyntiau galw, methiant offer pan nad oes Technegwyr Cynnal a Chadw ar ddyletswydd.
- Cynorthwyo pob adran arall yn Chwaraeon Cymru i sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd uchel yn cael ei gynnal yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon, gan gynnwys timau cadw tŷ ac arlwyo y Ganolfan.
- Derbyn, storio a rheoli offer a chyflenwadau.
- Ymgymryd â hyfforddiant i sicrhau bod medrusrwydd yn cael ei gynnal ym mhob gweithgaredd a gweithdrefn fel sy'n briodol i'r swydd.
- Cynorthwyo gyda hyfforddi cyflogeion newydd, gan gynnwys staff achlysurol.
- Cynnal archwiliadau arferol o'r Ganolfan a'r offer ac ymgymryd â gwaith glanhau a mân atgyweiriadau yn ôl yr angen.
- Llwytho / dadlwytho offer sy'n cyrraedd y Ganolfan neu'n gadael.
- Gwisgo dillad priodol a chydymffurfio ag unrhyw fentrau gwasanaethau cwsmeriaid, e.e. delio â sylwadau ac ymholiadau cwsmeriaid, gweithdrefnau cwyno cwsmeriaid, ac ati.
- Ymgymryd â chyflwyniadau campfa ar gyfer aelodau newydd a chywiro arfer gwael gan ddefnyddwyr campfa os gwelir hynny.
Iechyd a Diogelwch
- Ymateb i unrhyw sefyllfaoedd brys a chofnodi pob damwain / digwyddiad yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo gyda gweithdrefnau gadael y Ganolfan.
- Sicrhau a chadw tystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gwaith ac ymarfer y sgiliau hyn fel sy'n briodol.
Cyffredinol
- Cyflawni cyfrifoldebau sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoliadau Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
- Gweithio’n hyblyg gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol ac yn berthnasol i’r swydd ac yn briodol i’rraddfa.
EIN GWERTHOEDD
Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:
Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.
Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.
Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol.
Drwy wneud y canlynol:
Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.
Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.
MANYLEB Y PERSON
Maes Ffocws | Gofynion Hanfodol | Gofynion Dymunol |
Addysg:
| Cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gwaith cyfredol (neu'r gallu i’w sicrhau o fewn 3 mis).
Cymhwyster Hyfforddwr Ffitrwydd Lefel 2 (neu'r gallu i sicrhau’r cymhwyster o fewn 12 mis). | Cymhwyster BTEC cysylltiedig â chwaraeon neu gyfatebol.
5 TGAU neu gyfatebol.
|
Profiad:
| Profiad blaenorol o weithio mewn cyfleuster chwaraeon neu hamdden. | |
Sgiliau, Doniau a Galluoedd:
| Y gallu i gyfathrebu'n glir ac yn effeithiol, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Y gallu i drin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif.
Y gallu i weithio heb gyfarwyddyd o ddydd i ddydd a chynllunio, amserlennu a blaenoriaethu tasgau yn effeithiol.
Sgiliau gofalu am gwsmeriaid.
Y gallu i weithio fel rhan o dîm neu ar eich pen eich hun. |
Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar. |
Amgylchiadau Arbennig:
| Gallu gweithio patrwm shifft ar gylchdro sy'n cynnwys oriau afreolaidd ac anghymdeithasol gan gynnwys boreau cynnar, gyda'r nos, penwythnosau a gwyliau banc, gwyliau cyhoeddus a gwyliau eraill a nodir. Bydd y patrwm gwaith yn gofyn am hyblygrwydd rhesymol yn unol ag anghenion y Ganolfan.
|