Cyfarwyddwr Rhanbarthol
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio gyda ac ar ran Bwrdd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru (WWSP) i arwain a sbarduno cyfeiriad strategol y Bartneriaeth i gyflawni ei gweledigaeth a’i dyheadau.
Bydd gofyn i chi ymgysylltu'n strategol yn rhanbarthol ac yn genedlaethol er mwyn hyrwyddo nodau'r Bartneriaeth, rheoli gweithrediad WWSP a sicrhau bod y Bartneriaeth yn parhau i fod yn addas i'r diben.
Bydd hyn yn gofyn am ddull arwain “systemau cyfan” deinamig i greu newid sylweddol mewn diwylliant a meddylfryd ar draws sefydliadau partner. Bydd angen i chi ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid presennol a newydd, gan ysgogi arloesedd a chydweithredu a fydd yn arwain at sefydliad sy’n perfformio’n dda ac sy’n cyflawni’r weledigaeth ar gyfer WWSP.
Bydd angen i'r rôl arwain o'r tu blaen a chymryd rhan ar lefel fanylach / gweithredol pan mae’r achlysur yn gofyn am hynny, er mwyn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cael ei chefnogi'n llawn yn ystod y cyfnod sefydlu hwn, ac nad yw cyfleoedd yn cael eu colli.
Tâl: £55,000-£60,000 y flwyddyn (ynghyd â phecyn pensiwn).
Oriau: Llawn amser, 35 awr yr wythnos, oriau gwaith hyblyg o fewn cyfnodau craidd. Mae disgwyl y bydd angen i’r Cyfarwyddwr Rhanbarthol efallai fynychu digwyddiadau / cyfarfodydd y tu allan i gyfnodau craidd.
Lleoliad: O bell, hyblyg gyda disgwyliad i ymgysylltu’n rheolaidd â phartneriaid ar draws y rhanbarth.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 15 Rhagfyr 2023