Cyfarwyddwyr Anweithredol
Rydym yn recriwtio TRI o bobl arloesol i ymuno â'n Bwrdd o Gyfarwyddwyr Anweithredol.
Rydym yn chwilio am Is Gadeirydd, Cyfarwyddwr Cyllid a Cyfarwyddwr Anweithredol i helpu i sbarduno uchelgais Canolbarth Cymru.
Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd:
- yn gyfforddus yn gofyn cwestiynau a fydd yn ein helpu ni i dyfu,
- â phrofiad o fewn y meysydd uchod,
- yn cyfrannu dirnadaeth a dealltwriaeth amrywiol at drafodaethau gydag athroniaeth gref o degwch, cynhwysiant ac amrywiaeth.
Os oes gennych chi rywfaint o amser i’w roi ac os ydych chi’n angerddol am weithgarwch corfforol, cynhwysiant a’n rhanbarth hardd ni, ac yn barod i hyrwyddo, herio a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Mae’r swyddogaethau hyn yn wirfoddol ac fel Cyfarwyddwr Anweithredol bydd angen i chi fod:
Ar gael ar gyfer Cyfarfodydd Bwrdd, sydd:
- yn 2 awr fel rheol (gydag amser ychwanegol yn ofynnol ar gyfer paratoi)
- digwydd unwaith bob deufis i ddechrau ond gan weithio tuag at bob 3 mis wrth i'r sefydliad ddod yn fwy sefydledig.
- yn hygyrch ar Teams neu Zoom (ac wyneb yn wyneb pan fo hynny’n bosibl).
Ar gael i fynychu digwyddiadau PChCC, neu i gynrychioli PChCC mewn digwyddiadau (fel mae eich argaeledd yn caniatáu):
- Bydd PChCC yn talu unrhyw gostau teithio neu gynhaliaeth a all godi i fynychu
- Bydd cymorth briffio’n cael ei roi os oes angen
- Dylai aelodau'r Bwrdd fod ar gael i fynychu dyddiau cwrdd i ffwrdd y bwrdd yn unol â’r amserlen
Wedi ymrwymo i:
- Gweithredu gyda didwylledd a chynnal buddiannau PChCC bob amser
- Creu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol a chynhyrchiol gyda rhanddeiliaid.
- Cynnal a gweithio tuag at weledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd, ymddygiadau ac amcanion PChCC a sicrhau bod y sefydliad yn parhau i weithio tuag at y rhain.
Dyddiad cau: Dydd Llun 24ain Mawrth 9yb 2025
Ar gyfer phecyn recriwtio yn cynnwys manylion i helpu gwneud cais, cliciwch darllen mwy isod...