Partner Datblygu Cyfranogiad
Mae Tenis Cymru yn chwilio am Bartner Datblygu Cyfranogiad i’n helpu i gyflawni eu gweledigaeth a’n strategaeth - ‘tenis wedi’i agor ar draws Cymru’.
Yn gyfrifol i Pennaeth Cyfranogiad
Lleoliad Hyblyg gyda theithio gofynnol ledled Cymru
Cyflog £25,000 i £30,000 y flwyddyn ynghyd a buddion (pensiwn, gofal iechyd a lwfanscar)
Oriau Cyflog Llawn Amser
Bydd y Partner Datblygu Cyfranogiad yn chwarae rhan hanfodol ledled Cymru gan arwain ein blaenoriaethau cyfranogi o fewn ein rhwydwaith o glybiau a gwirfoddolwyr, lleoliadau tenis parc a chymuned a safleoedd addysg. Mae’r rôl hon yn gofyn am sgiliau cynllunio, cyfathrebu a chydweithio arbenigol gyda’r angen i ymgysylltu a dylanwadu ar bartneriaid a rhanddeiliaid.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Gwelwch y manylion llawn yma.
Sut i wneud cais
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 5yp Dydd Gwener 10fed o Fedi. Os hoffech wneud cais, anfonwch eich CV ynghyd a llythyr eglurhaol o ddim mwy na 2 ochr A4 yn dangos tystiolaeth glir o’ch sgiliau a’ch profiadau sy’n gysylltiedig efo’r disgrifiad swydd a manyleb person I Maria Rees ([javascript protected email address]).