"Mae wedi bod yn anodd," meddai Zoe. "Rydw i'n gwybod bod pawb wedi cael anawsterau ond, i mi, mae wedi bod yn anoddach fyth gan fy mod i wedi dechrau heb dîm." 

Penderfynwyd yn gynnar iawn y byddai'r tîm yn symud i lawr o Adran Un Cynghrair Merched a Genethod De Cymru i Adran Dau.

Roedd yn rhoi mwy o le i anadlu iddynt ac, o fewn ychydig wythnosau, roedd y broses ailadeiladu'n dechrau dod i drefn.

"Roedd yn beth da i ni ddechrau mewn adran is gyda'r tîm oedd gennym ni, gan mai dim ond newydd ffurfio sgwad o lefelau amrywiol oedden ni.

"Mae'n golygu siwrnai hirach i Uwch Gynghrair Merched Cymru nag y bydden ni wedi'i hoffi, ond, gobeithio, bydd llwyddiant yn dod ac wedyn mae llwyddiant yn denu torf a dyhead ymhlith chwaraewyr eraill i ymuno â'r clwb ar draws pob oedran a rhyw."

Pan orfododd Covid-19 y cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mawrth, aeth pêl droed merched – fel gweddill y chwaraeon yng Nghymru – i aeafgysgu.

Y canlyniad yn y pen draw oedd bod cynghreiriau ledled Cymru wedi'u hatal a bod Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi dewis penderfynu ar y safleoedd cynghrair terfynol ar sail pwyntiau ym mhob gêm.

Ar ôl symud i lawr yr ystol i bedwaredd haen pêl droed merched Cymru, nid oedd Aberdâr wedi dechrau eu tymor hyd yn oed.

Pan wnaethant ailddechrau eto ym mis Tachwedd, fel pob hyfforddwr arall yn y byd pêl droed, hoci, rygbi a chwaraeon eraill oedd yn cael hyfforddi eto, ac wedi cael awdurdod i gynnal gemau cyfeillgar, roedd y byd wedi newid i Zoe.

Roedd rheolau newydd llym ynghylch hylendid a chadw pellter cymdeithasol, yn ogystal â swyddogaethau newydd i hyfforddwyr o ran gwarchod iechyd emosiynol, yn ogystal ag iechyd corfforol, eu chwaraewyr.

"Roedd arnom ni angen arweinydd tîm Covid ar gyfer y garfan yn ein sesiynau hyfforddi ac rydw i wedi ymgymryd â'r rôl honno," meddai Zoe.

"Rydw i'n cymryd eu tymheredd nhw ac yn hoffi siarad â'r chwaraewyr wrth iddyn nhw gyrraedd, gweld sut maen nhw, oherwydd dydych chi byth yn gwybod beth sy'n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig.

"Dydw i ddim eisiau bod yn dweud drefn wrth chwaraewr am fod yn ddiog os yw hi wedi blino'n lân.

"Mae'r rhan fwyaf, os nad pob un ohonyn nhw, jyst eisiau mynd allan ar y cae ac maen nhw'n cael anhawster, yn enwedig y rhai sydd ddim yn yr ysgol neu ddim yn gweithio ar hyn o bryd. Roedd pêl droed yn rhywbeth roedden nhw'n dibynnu arno."

Yn ogystal â sesiynau theori ar-lein a chwisiau Zoom gyda'r garfan, roedd Zoe hefyd yn awyddus i siarad gyda'i chwaraewyr am eu gobeithion a'u huchelgeisiau pêl droed.

"Rydw i'n cael cyfarfodydd un i un gyda'r holl ferched i siarad am eu nodau a'u dyheadau.

"Mae gen i ddwy ferch sydd eisiau troi’n broffesiynol – rydw i eisoes wedi dechrau trefnu treialon iddyn nhw achos dydyn ni ddim ar lefel eto lle mae posib iddyn nhw gael eu gweld, ond mae gennym ni hefyd eraill sydd jyst eisiau sbort."

Hyd yma, mae wedi bod yn ymdrech enfawr i Aberdâr gyrraedd y cae ar gyfer dwy gêm gyfeillgar yng nghanol yr holl gyfyngiadau.

Gyda dim ond un sesiwn hyfforddi wedi’i gwblhau fel grŵp llawn, roedd Zoe yn falch iawn o’i thîm wrth iddyn nhw ennill 7-0 yn Nhonyrefail.

Roedd yr ail gêm gyfeillgar ychydig yn anoddach – fel y rhagwelwyd – ac roeddent ar ei hôl hi 5-0 yn erbyn Adar Gleision Caerdydd, sy'n chwarae yn Adran Un.

Mae'n helpu bod Zoe yn astudio ar hyn o bryd am drwydded hyfforddi B UEFA, ond gallai hefyd fod wedi bod o fudd enfawr bod ei chefndir proffesiynol yn y theatr.

"Roedd bod yn gyn-reolwr llwyfan yn helpu ar unwaith gyda'r holl waith trefnu.

"Fe wnes i sesiynau theori ar-lein ar gyfer y merched oedd yn methu dod i’r sesiynau hyfforddi.

"Hefyd fe gefais i ddau hyfforddwr arall yng Nghaerdydd i hyfforddi'r merched oedd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd oherwydd bod hwnnw'n grŵp eithaf mawr o ferched. Wedyn fe wnes i ofyn i fy chwaraewr i o Gaerffili gysylltu â chlwb lleol yn y Coed Duon ac roedden nhw'n hyfryd iawn gan adael iddi hyfforddi gyda nhw er mwyn iddi allu chwarae rhywfaint o bêl droed."

Ar ôl adeiladu tîm newydd cyfan ac ymdopi â phandemig byd-eang, mae Aberdâr a'u rheolwr dyfeisgar bellach yn edrych tua'r dyfodol.

"Rydw i wedi talu i ddau o fy chwaraewyr i fynd i wneud eu bathodynnau hyfforddi, rydw i hefyd yn ceisio helpu merched eraill i hyfforddi a dyfarnu.

"Rydw i eisiau cadw cymaint o enethod a merched mewn pêl droed â phosib. Mae gan rai sydd yma am hwyl botensial i fynd yn broffesiynol efallai. Iddyn nhw, efallai ei fod yn golygu rhoi hwb iddyn nhw i'r cyfeiriad cywir oherwydd i ferched - hyd yn oed nawr - mae'n anodd meddwl ‘Fe allwn i gael gyrfa’n gwneud hyn’.

"Fe fyddwn i wrth fy modd yn dal i fod yn chwarae. Dim ond 31 ydw i. Ond fe wnes i roi’r gorau i bêl droed am nad oedd gen i’r gefnogaeth ddylai fod wedi bod yno.

"Felly nawr rydw i jyst eisiau gwneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd i unrhyw un arall.”

Newyddion Diweddaraf

Trawsnewid Pêl Droed Merched yng Nghymru... a thu hwnt

Bydd pêl droed Cymru yn cychwyn 2021 gyda chyfle i gael sedd wrth y bwrdd mwyaf pwerus yn y gamp.Mae…

Darllen Mwy

CICIO DAN Y LLIFOLEUADAU AR HEOL CLARBESTON

Mae Clwb Pêl Droed Amatur Heol Clarbeston yn Sir Benfro yn cynllunio ar gyfer dyfodol mwy disglair drwy…

Darllen Mwy

CYLLID YN RHOI HWB I YMGYRCH CYNHWYSIANT CLWB BOWLS

Gydag aelodau rhwng naw a 95 oed bywiog iawn, mae Cymdeithas Bowls Dan Do Sir Faesyfed yn Llandrindod…

Darllen Mwy