Partneriaid
Fframwaith cynhwysiant mewn chwaraeon
Beth yw'r Fframwaith Cynhwysiant mewn Chwaraeon?
Mae'r Fframwaith Cynhwysiant mewn Chwaraeon newydd yn esblygiad o'r Safon Cydraddoldeb gwreiddiol ar gyfer Chwaraeon, a lansiwyd gyntaf yn 2004. Yn 2021, cwblhawyd gwerthusiad cynhwysfawr o'r Safon Cydraddoldeb ledled y sector, gan arwain at ddatblygu'r Fframwaith newydd hwn, y model gweithredu, a'r pecyn cymorth cysylltiedig
Pwy sy'n gyfrifol am y Fframwaith Cynhwysiant mewn Chwaraeon?
Mae’r fframwaith newydd yn cael ei arwain gan y Grŵp Cydraddoldeb Cynghorau Chwaraeon (SCEG); gweithgor â chynrychiolaeth berthnasol o blith yr holl Gynghorau Chwaraeon yn y DU. Nod y Grŵp yw hybu a datblygu cydraddoldeb mewn chwaraeon ar draws yr holl linynnau cydraddoldeb. Mae'n rhannu arbenigedd, arferion da a phrofiad perthnasol ymhlith aelodau’r Grŵp a gydag asiantaethau partner allanol, yn ogystal ag arwain datblygiad strategol a gweithrediad y Fframwaith Cynhwysiant mewn Chwaraeon newydd, a meysydd gwaith allweddol eraill.
Pam mae’r Fframwaith Cynhwysiant mewn Chwaraeon wedi cael ei ddatblygu?
Nod y fframwaith newydd yw helpu sefydliadau i sbarduno a chynnal momentwm ar gyfer cyflawni newid drwy gylch gwella parhaus o fyfyrio, cynllunio, gweithredu, adolygu, a dysgu. Roedd y Safon Cydraddoldeb wreiddiol ar gyfer Chwaraeon yn gofyn i sefydliadau ddarparu tystiolaeth ôl-weithredol i fodloni meini prawf penodedig a chyflawni safon ar lefel wedi’i phennu ymlaen llaw (Sylfaen, Rhagarweiniol, Canolradd neu Uwch).
Sut bydd y Fframwaith Cynhwysiant mewn Chwaraeon yn gweithio?
Mae dilyniant drwy'r fframwaith yn seiliedig ar hunan-fyfyrio onest yn erbyn cyfres o ddangosyddion datblygu mewn 5 colofn ar gyfer newid, sy'n ymwneud â Diwylliant, Arweinyddiaeth, Profiad, Perthnasoedd a Chyfathrebu. Mae hunan-fyfyrio yn nodi meysydd cryfder i’w hatgyfnerthu a’u cynnal yn ogystal â meysydd ar gyfer datblygu. Mae'r fframwaith yn galluogi gwirio a herio adeiladol gan ddarparu cymorth ar gyfer gwella ar yr un pryd. Mae'r Fframwaith Cynhwysiant mewn Chwaraeon yn ddull o sbarduno newid cadarnhaol i helpu partneriaid i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn eu sefydliad, yn ôl eu maint, eu pwrpas, a'u haeddfedrwydd o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant. Bydd partneriaid yn cael help gan fentoriaid, partneriaid cydraddoldeb, cyfoedion, ac adnoddau eraill i sicrhau gwelliannau ystyrlon, cynaliadwy o ran cynrychiolaeth, amrywiaeth a phrofiadau cynhwysiant ar gyfer eu harweinwyr, eu gweithlu ehangach a'u cyfranogwyr.
Pryd ydyn ni'n debygol o weld y Fframwaith Cynhwysiant mewn Chwaraeon yn cael ei gyflwyno ar draws y sector?
Mae Grŵp Cydraddoldeb y Cyngor Chwaraeon wrthi’n bwrw ymlaen â cham olaf yr adolygiad ac mae gwefan newydd sbon wrthi’n cael ei chreu. Bydd y wefan yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sector. Bydd diweddariad ar y lansiad yn cael ei ddosbarthu i bartneriaid yng ngwanwyn/haf 2023 a bydd sesiynau cyfarwyddyd yn cael eu cynnal ar gyfer staff mewnol y Cyngor Chwaraeon a phartneriaid allanol o ran sut i ddefnyddio'r fframwaith newydd a'r adnodd diagnosteg. Wrth i bartneriaid yn y DU gwblhau'r hunan-ddiagnosis a bod meysydd blaenoriaeth yn dechrau dod i'r amlwg, bydd sesiynau pellach ar bob un o'r 5 colofn yn cael eu datblygu yn ôl y gofyn. Y tu hwnt i hynny, bydd sesiynau gwella parhaus a mynediad i grwpiau a fforymau cyfoedion hefyd yn cael eu darparu.