Skip to main content

Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2021 - Yr ymgynghoriad

  1. Hafan
  2. Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2021 - Yr ymgynghoriad

Mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn rhoi cyfle i blant ledled Cymru leisio eu barn ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a sut maent yn teimlo am hyn.         

Mae hyn yn rhoi i ni a’r sector wybodaeth bwysig am lefelau cymryd rhan, ymddygiad ac agweddau ac, yn bwysig iawn, mae’n galluogi i ni adnabod meysydd sydd angen sylw. Fe wnaeth ein harolwg diweddaraf yn 2018 gynrychioli lleisiau 120,00 o blant ysgol o fwy na 1,000 o ysgolion. 

Wrth edrych ymlaen at yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgolnesaf, rydyn ni’n bwriadu gwneud Cyn yr Arolwg arfaethedig ar Chwaraeon Ysgol yn 2021, roeddem wedi bwriadu gwneud nifer o welliannau i'r arolwg, o'r broses o'i gyflwyno, i'r cwestiynau eu hunain, i rannu ac arddangos canlyniadau. Mae'r gwelliannau arfaethedig hyn yn deillio o'r adborth a gafwyd eisoes gan randdeiliaid amrywiol ac mewn ymateb i anghenion y sector sy'n dod i'r amlwg.  

Yn ystod haf 2020, cynhaliwyd ymgynghoriad â rhanddeiliaid, gan wahodd adborth ar y newidiadau a gwelliannau posibl eraill y gellid eu gwneud i hwyluso'r defnydd gorau o'r mewnwelediad. Clywsom gan awdurdodau lleol, pobl sy'n cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r arolwg, a chyrff llywodraethu cenedlaethol ac ar ôl dadansoddi'r canlyniadau, rydym yn falch iawn o arddangos yr ymrwymiadau rydym wedi'u gwneud i ddatblygu'r arolwg a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl o'r fersiwn nesaf pan gaiff ei lansio. 

Un o'r darnau allweddol o adborth ac oherwydd y pandemig Covid-19 sy'n esblygu, fe wnaethom ohirio’r arolwg, ac rydym yn gweithio tuag at ei lansio ym mis Ebrill 2022. 

Gan ein bod wedi bod yn gweithio drwy'r newidiadau arfaethedig, rydym hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi canlyniadau unrhyw newidiadau nad ydynt wedi gallu cael eu gwneud, ac unrhyw benderfyniadau pellach a fydd o ddiddordeb i chi wrth i ni symud ymlaen gyda'r arolwg. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi maes o law. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, neu'r adroddiadau hyn, gallwch gysylltu â ni yn [javascript protected email address]

Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus