Skip to main content

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 2 – Hydref 2020

  1. Hafan
  2. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  3. Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 2 – Hydref 2020

Cyfwelodd Savanta ComRes 1,007 o oedolion o Gymru (16+ oed) ar-lein rhwng 9fed Hydref a 12fed Hydref 2020. Pwysolwyd y data i fod yn gynrychioliadol yn ddemograffig o oedolion 16+ oed Cymru yn ôl rhywedd, oedran a'r aelwydydd a amcangyfrifir sydd â phlant o dan 16 oed.

CANFYDDIADAU ALLWEDDOL:

  • Mae’n ymddangos bod lefelau cyffredinol gweithgarwch corfforol oedolion yn debyg i'r rhai cyn cyflwyno cyfyngiadau COVID-19 am y tro cyntaf ym mis Mawrth.
  • Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y pandemig wedi ehangu anghydraddoldeb o ran cyfranogiad ar draws rhywedd, statws economaidd-gymdeithasol, salwch neu gyflyrau tymor hir, ac oedran.
  • Er bod tystiolaeth i awgrymu pegynnu o ran gweithgarwch yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol (gyda chynnydd yn nifer y bobl yn gwneud 'dim gweithgarwch corfforol' a gweithgarwch corfforol 'bob dydd'), mae'r arolwg presennol yn awgrymu gwrthdroi'r duedd hon gyda mwy o oedolion bellach yn gwneud 'rhywfaint' o weithgarwch.
  • Ers mis Mai bu cynnydd yng nghyfran yr oedolion sy'n ymgymryd â gweithgareddau y tu allan i'r cartref, a gostyngiad ar yr un pryd mewn gweithgareddau yn y cartref.
  • Mae'r adborth o'r arolwg hwn yn awgrymu bod plant yng Nghymru bellach yn gwneud mwy o chwaraeon/gweithgarwch corfforol y tu allan i'r ysgol na chyn cyflwyno cyfyngiadau COVID-19 am y tro cyntaf. Mae'r eithriad yma ar gyfer oedolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is sy'n fwy tebygol o ddweud bod eu plentyn/plant yn gwneud llai o weithgarwch nawr ar ddiwrnod nodweddiadol dros y penwythnos.
  • Mae dwy ran o dair o oedolion yng Nghymru yn cytuno ei bod yn bwysig ymarfer yn rheolaidd. Bu cynnydd bach yng nghyfran yr oedolion sy'n ymarfer i helpu i reoli eu hiechyd corfforol a meddyliol yn ystod y pum mis diwethaf.
  • Mae cyfran yr oedolion sydd wedi cael eu hannog i ymarfer gan ganllawiau'r Llywodraeth wedi gostwng o 43% ym mis Mai i 35% ar hyn o bryd.
  • Dywed llai o bobl eu bod yn colli'r mathau o weithgarwch yr oeddent yn gallu eu gwneud cyn cyflwyno cyfyngiadau COVID-19 am y tro cyntaf (o 56% yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol i 49% ar hyn o bryd).
  • Parciau yw'r lleoliad lle mae oedolion fwyaf tebygol o deimlo'n hyderus yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd – mae 61% yn dweud eu bod yn teimlo'n hyderus i gymryd rhan yn y gofod hwn. Mae hyn yn cymharu â 25% mewn pyllau nofio, 25% mewn campfeydd, ac 20% mewn neuaddau chwaraeon.
  • Er bod 48% o oedolion yn poeni am adael y cartref i ymarfer neu fod yn actif yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol, mae'r ffigur hwn bellach wedi gostwng i 36%.
  • Mae oedolion yng Nghymru yn fwyaf tebygol o droi at y GIG, cynghorau lleol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol/meddygon teulu am wybodaeth ddibynadwy am sut i fod yn actif.
  • Roedd 25% o oedolion yng Nghymru wedi chwilio am wybodaeth ac arweiniad am chwaraeon/gweithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac, o blith y rhain, llwyddodd tri chwarter i gael gafael ar y manylion. Dywedodd 83% o'r rhai a gafodd yr wybodaeth ei bod yn 'glir'.
  • Dywed llai o oedolion bod ganddynt 'fwy o amser' (58%) i fod yn gorfforol actif ar hyn o bryd o gymharu ag yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai (66%).
  • Yn gyffredinol, mae oedolion yng Nghymru’n tueddu i gytuno y dylid rhoi eithriadau i bobl sydd dan gyfyngiadau lleol fel eu bod yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus, yn enwedig athletwyr proffesiynol. Dylid nodi, fodd bynnag, nad yw oedolion hŷn, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a'r rhai sydd â chyflwr neu salwch tymor hir yr un mor debygol o gytuno.
  • O blith yr oedolion hynny sydd wedi dweud eu bod wedi defnyddio campfeydd dan do/ ystafelloedd iechyd a ffitrwydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd 82% eu bod yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r cyfleuster. Roedd cyfran debyg (81%) o oedolion a ddefnyddiodd byllau nofio dan do hefyd yn teimlo'n gyfforddus.

GWYBODAETH GEFNDIR:

  • Yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai 2020, dywedodd 29% o oedolion eu bod yn hunanynysu. Mae'r ffigur hwn bellach wedi gostwng i 13%. Gwrywod, oedolion 55+ oed, y rhai â chyflwr/salwch tymor hir, a'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is sydd fwyaf tebygol o fod yn hunanynysu ar hyn o bryd.
  • Er bod 88% o oedolion yng Nghymru wedi dweud eu bod yn ddigon da i ymarfer ym mis Mai, ar hyn o bryd 85% sy’n dweud eu bod yn ddigon da i ymarfer.
Sports Equipment on pitch
Colleges Wales

CYFRANOGIAD:

Pa mor actif yw pobl nawr o gymharu â mis Mai (yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol)?

  • Er bod 51% yn teimlo bod COVID-19 wedi effeithio ar eu trefn ymarfer yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai, mae cyfran yr oedolion a nododd hyn bellach wedi gostwng i 45%.
  • Yn gyffredinol, mae’n ymddangos nad oes fawr o wahaniaeth o ran a yw pobl yn gwneud mwy neu lai o weithgarwch na chyn cyflwyno cyfyngiadau COVID-19 am y tro cyntaf ym mis Mawrth (29% yn fwy, 28% yn llai).

Fodd bynnag:

  • Mae gwrywod yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwneud mwy o chwaraeon nawr na chyn cyflwyno cyfyngiadau COVID-19 am y tro cyntaf ym mis Mawrth, gyda benywod yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwneud llai nawr.
  • Mae pobl 16-34 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwneud mwy o chwaraeon nawr na chyn cyflwyno cyfyngiadau COVID-19 am y tro cyntaf ym mis Mawrth (42% mwy, 25% llai), ond mae pobl 55+ oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwneud llai (22% mwy, 31% llai).
  • Mae pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwneud mwy o weithgarwch nawr (34% mwy, 27% llai), ond mae pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwneud llai (25% mwy, 29% llai).
  • Mae'r rhai heb gyflwr neu salwch tymor hir yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwneud mwy o weithgarwch nawr (33% mwy, 27% llai) tra bo’r rhai sydd â chyflwr neu salwch tymor hir yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwneud llai nawr (25% mwy, 28% llai).
  • Mae gostyngiad (6 phwynt canran) wedi bod yng nghyfran y gwrywod nad ydynt yn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol o gymharu â mis Mai, ond ni welwyd yr un gostyngiad ar gyfer benywod. Mae'r gostyngiad mewn 'dim gweithgarwch' yn gyson ar draws oedolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch ac is.
  • Bu cynnydd (4 pwynt canran) yng nghyfran yr oedolion sy'n gwneud rhywfaint o weithgarwch corfforol (1-4 diwrnod yr wythnos). Mae'r cynnydd hwn yn gyson ar draws graddau cymdeithasol is ac uwch yn ogystal ag ar gyfer y rhai sydd â chyflwr neu salwch tymor hir a’r rhai heb gyflwr neu salwch o’r fath.
  • Mae gostyngiad (10 pwynt canran) wedi bod yng nghyfran yr oedolion sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar y rhan fwyaf o ddyddiau (5+ diwrnod yr wythnos). Er bod y dirywiad yn gyson ar draws pob grŵp oedran, mae'r gostyngiad mwyaf ar gyfer y rhai 55+ oed. Mae'r dirywiad yn gyson ar gyfer y rhai sydd â salwch tymor hir a’r rhai heb salwch o’r fath.

 

Pa fathau o weithgareddau mae pobl yn eu gwneud nawr a phwy sy’n eu gwneud gyda hwy? 

  • Mae'r siart uchod yn dangos bod cynnydd wedi bod ers mis Mai yng nghyfran yr oedolion sy'n ymgymryd â gweithgareddau y tu allan i'r cartref, tra bu gostyngiad yng nghyfran yr oedolion sy'n ymgymryd â gweithgareddau yn y cartref.
  • Ar gyfer y rhan fwyaf o'r gweithgareddau a restrir uchod bu gostyngiad yng nghyfran yr oedolion sydd wedi gwneud y rhain gyda rhywun arall. Yr eithriad yma yw rhedeg, lle mae cyfran yr oedolion sy'n gwneud y gweithgarwch hwn gyda rhywun arall wedi cynyddu.
  • Mae 10% o'r boblogaeth o oedolion wedi bod mewn campfa neu wedi mynychu dosbarth ffitrwydd neu ymarfer y tu allan i’r cartref (yn ystod yr wythnos ddiwethaf). O blith yr oedolion hyn, mae 58% wedi gwneud y gweithgaredd hwn gyda rhywun arall

Pa gyfleusterau dan do sydd wedi cael eu defnyddio yn ystod yr wythnos ddiwethaf?

  • Mae 22% o'r boblogaeth oedolion yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn chwaraeon/ gweithgarwch corfforol mewn cyfleuster dan do yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
  • Mae 12% o'r boblogaeth oedolion wedi defnyddio campfeydd neu ganolfannau ffitrwydd (gan gynnwys dosbarthiadau ffitrwydd). Gwrywod a phobl 16-34 oed sydd fwyaf tebygol o fod wedi defnyddio'r cyfleusterau hyn.
  • Mae 9% o'r boblogaeth oedolion wedi defnyddio pwll nofio dan do yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Mae gwrywod a phobl 16-34 oed yn fwy tebygol o fod wedi defnyddio'r cyfleusterau hyn.

Faint o weithgarwch corfforol mae plant yn ei wneud (tu allan i’r ysgol)?

Mae oedolion yn fwy tebygol o ddweud bod eu plentyn/plant yn gwneud mwy o chwaraeon/ gweithgarwch corfforol nawr y tu allan i'r ysgol na chyn cyflwyno cyfyngiadau COVID-19 am y tro cyntaf ym mis Mawrth (yn ystod yr wythnos: 31% mwy, 22% llai. Penwythnos: 30% mwy, 23% llai). Ar gyfer dyddiau'r wythnos mae hyn yn gyson ar draws cefndiroedd economaidd-gymdeithasol, ond mae'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o ddweud bod eu plentyn/ plant yn gwneud llai o weithgarwch nawr ar ddyddiau’r penwythnos.

CYMHELLIANT/GWERTHOEDD:

  • Ar hyn o bryd mae 66% o oedolion yng Nghymru yn cytuno ei bod yn bwysig ymarfer yn rheolaidd, o gymharu â 64% yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai. Mae gwrywod, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch a'r rhai sydd heb gyflwr neu salwch tymor hir yn fwy tebygol o gytuno â hyn.
  • Mae 50% o oedolion yn teimlo'n euog am beidio ag ymarfer mwy ar hyn o bryd, o gymharu â 49% ym mis Mai. Mae benywod, oedolion iau, y rhai heb gyflwr corfforol neu feddyliol tymor hir, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n euog am beidio ag ymarfer mwy.
  • Mae 18% o oedolion yn teimlo'n euog am fod eisiau ymarfer ar hyn o bryd, sy'n aros yr un fath ag yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai. Mae oedolion iau, y rhai sydd â chyflwr neu salwch tymor hir a'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n euog am fod eisiau ymarfer.
  • Mae 35% o oedolion wedi cael eu hannog i ymarfer gan ganllawiau'r Llywodraeth, o gymharu â 43% yn ystod mis Mai. Mae gwrywod, oedolion iau, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch a'r rhai sydd â chyflwr neu salwch tymor hir yn fwy tebygol o fod wedi cael eu hannog.
  • Mae 49% o oedolion yn colli'r mathau o weithgarwch yr oeddent yn gallu eu gwneud cyn i'r cyfyngiadau cyntaf gael eu cyflwyno ddiwedd mis Mawrth, o gymharu â 56% ym mis Mai.
  • Mae 71% o oedolion yn ymarfer er mwyn rheoli eu hiechyd corfforol ar hyn o bryd, o gymharu â 67% yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai.
  • Mae 63% o oedolion yn ymarfer er mwyn rheoli eu hiechyd meddwl ar hyn o bryd, o gymharu â 62% yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai.
  • Mae 63% o oedolion yn teimlo ei bod yn bwysicach bod yn gorfforol actif yn ystod y pandemig parhaus nag ar adegau eraill. Mae hon yn lefel debyg i'r hyn a adroddwyd yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai; bryd hynny dywedwyd hyn gan 62% o oedolion. Mae benywod, oedolion iau, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch a'r rhai heb unrhyw gyflwr neu salwch tymor hir yn fwy tebygol o ddweud hyn.

HYDER:

Mae gwrywod, oedolion iau, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch, a'r rhai heb unrhyw salwch neu gyflyrau tymor hir yn tueddu i fod yn fwy hyderus i gymryd rhan, heb ystyried y lleoliad. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau nodedig:

• Ar gyfer campfeydd a phyllau nofio nid oes unrhyw wahaniaeth mewn lefelau hyder rhwng gwrywod a benywod. Nid oes gwahaniaeth chwaith rhwng y rhai sydd â salwch neu gyflwr tymor hir a'r rhai heb salwch neu gyflwr o’r fath.

• Mae benywod ychydig yn fwy tebygol o deimlo'n hyderus na gwrywod i gymryd rhan mewn stiwdio.

• Er bod oedolion hŷn yn tueddu i deimlo'n llai hyderus nag oedolion iau yn y rhan fwyaf o leoliadau, nid yw hyn yn wir am barciau, lle mae pobl 55+ oed yn fwy tebygol o deimlo'n hyderus na grwpiau oedran eraill.

• Mae 70% o oedolion yn teimlo bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif. Nid yw hyn wedi newid ers y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai. Mae gwrywod, oedolion iau, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch a'r rhai heb unrhyw gyflwr neu salwch tymor hir yn fwy tebygol o ddweud hyn.

• Mae 36% o oedolion yn poeni ar hyn o bryd am adael y tŷ i ymarfer neu fod yn actif. Mae hwn yn ostyngiad o 48% yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai. Mae benywod, oedolion iau, pobl o gefndiroedd SES is a'r rhai sydd â chyflwr neu salwch tymor hir yn fwy tebygol o boeni am adael y tŷ.

YMWYBYDDIAETH:

Mae 43% o oedolion yn cytuno eu bod wedi teimlo bod y canllawiau ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn glir ac yn hawdd eu deall. Mae gwrywod, oedolion iau, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch, a'r rhai heb unrhyw gyflwr neu salwch tymor hir yn fwy tebygol o ddweud hyn.

Yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf mae 25% o oedolion wedi ceisio cael gwybodaeth neu ganllawiau ar gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol. O blith y rhai a geisiodd gael yr wybodaeth hon, llwyddodd 75% i wneud hynny. Dywedodd 82% o'r rhai a gafodd yr wybodaeth ei bod yn 'hawdd' gwneud hynny, a dywedodd 83% bod yr wybodaeth neu'r canllawiau hyn yn 'glir' (roedd gwrywod, pobl 35-54 oed, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch, a'r rhai heb unrhyw gyflwr neu salwch tymor hir yn fwy tebygol o ddweud bod yr wybodaeth neu'r canllawiau'n glir). 

CYFLEOEDD AC ADNODDAU/MYNEDIAD:

  • Nid oes llawer o newid wedi bod yng nghyfran yr oedolion sy'n dweud eu bod wedi cael cyfle i fod yn actif ers mis Mai. Dywedodd 69% eu bod wedi cael cyfle i fod yn actif yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai, ac mae 68% yn dweud bod hyn yn wir ar hyn o bryd. Mae gwrywod, oedolion iau, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch, a'r rhai heb gyflwr neu salwch tymor hir yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi cael cyfle i fod yn actif.
  • Yn yr un modd, dywedodd 49% o oedolion eu bod wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o fod yn actif yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai. Mae'r ffigur hwn yn parhau yr un fath ar hyn o bryd. Mae oedolion iau, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch a'r rhai heb unrhyw salwch neu gyflwr tymor hir yn fwy tebygol o ddweud hyn.
  • Er i 66% o oedolion ddweud bod ganddynt fwy o amser i fod yn gorfforol actif yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai, mae'r gyfran hon wedi gostwng i 58% ar hyn o bryd.
  • Ym mhob achos, mae oedolion yn fwy tebygol o gytuno y dylid rhoi eithriadau i bobl dan gyfyngiadau lleol i gymryd rhan mewn chwaraeon trefnus. Mae oedolion yn fwy tebygol o ddweud y dylai hyn fod yn wir am athletwyr proffesiynol.
  • Dylid nodi mai dynion, pobl 16-34 oed, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch a phobl heb unrhyw salwch neu gyflwr tymor hir sydd fwyaf tebygol o gytuno ag eithriadau ym mhob achos bron.
  • Yr eithriad yma yw oedolion 55+ oed, sydd fwyaf tebygol o gytuno y dylid rhoi eithriadau i 'athletwyr iau'.

Y PROFIAD:

  • O blith yr oedolion hynny sydd wedi dweud eu bod wedi defnyddio campfeydd dan do/ ystafelloedd iechyd a ffitrwydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd 82% eu bod yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r cyfleuster. Roedd benywod a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n gyfforddus. Roedd y rhai â chyflwr neu salwch tymor hir yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n gyfforddus.
  • O blith yr oedolion hynny sydd wedi dweud eu bod wedi defnyddio pyllau nofio dan do yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd 81% eu bod yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r cyfleuster. Roedd gwrywod, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a'r rhai heb unrhyw gyflwr neu salwch tymor hir yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n gyfforddus.
  • Mae 57% o oedolion yn teimlo bod ymarfer yn bleserus a boddhaol. Mae'r lefel hon yn debyg i’r un a adroddwyd yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai (56%). (Gwrywod, oedolion iau, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch a'r rhai heb unrhyw gyflwr neu salwch tymor hir sy'n fwy tebygol o ddweud hyn).
  • Mae 57% o oedolion yn teimlo bod ymarfer ar eu pen eu hunain yn bleserus ar hyn o bryd. Mae hon yn lefel debyg i’r un a adroddwyd yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai (56%). Mae gwrywod, oedolion hŷn a'r rhai heb unrhyw gyflwr neu salwch tymor hir yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn mwynhau ymarfer ar eu pen eu hunain.