Skip to main content

Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol

Mae'r Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol yn anelu at newid y gêm ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan drawsnewid y ffordd y mae chwaraeon cymunedol yn cael eu creu, eu cyflwyno, eu harwain a'u hariannu.

Wedi’u cynllunio i oresgyn anghydraddoldeb parhaus ac ystyfnig o ran cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, bydd y newidiadau’n helpu i drawsnewid Cymru i fod yn genedl actif lle gall pawb gael mwynhad gydol oes o chwaraeon.

Pam fod angen i bethau newid?

Rydyn ni eisiau i Gymru fod yn genedl actif lle mae gan bawb y cyfle i fwynhau chwaraeon gydol oes. I rai mae hyn yn wir eisoes, ond er gwaethaf ymdrechion gorau un llawer o bobl, mae eraill yn dal i fethu cael mynediad at yr un lefel o gyfleoedd i gymryd rhan a mwynhau bod yn gorfforol actif.

Hyd yn oed cyn i bandemig y Coronafeirws daro, roedd rhai grwpiau o bobl nad oeddent yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol ac yn mwynhau'r holl fanteision a ddaw yn ei sgil.

Yng Nghymru, mae cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol 3 gwaith yr wythnos o leiaf yn cael ei gydnabod fel dangosydd llesiant cenedlaethol. Yn frawychus, mae tua hanner yr holl bobl ifanc sy'n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd neu o grwpiau lleiafrifoedd ethnig; mwy na hanner yr holl bobl ifanc ag anabledd; bron i 6 o bob 10 o bobl ifanc o'r cymunedau mwyaf difreintiedig; a mwy na hanner yr holl ferched yn parhau i gymryd rhan yn llai aml na hyn.*

Ar ochr arall y geiniog, mae 96% syfrdanol o bobl ifanc wedi dweud yr hoffent wneud mwy o chwaraeon, gan ddangos lefel enfawr o gyfle os yw'r ddarpariaeth chwaraeon yn addas.*

Beth fydd yn newid?

Mae nifer o fanteision posibl i ddull y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol o weithredu, a fydd yn amrywio mewn gwahanol ardaloedd yn dibynnu ar bob partneriaeth a beth sydd fwyaf addas ar eu cyfer. Dyma rai enghreifftiau o fanteision:

  • Cryfder ar y cyd o gyfuno adnoddau ac arbenigedd a chynrychioli chwaraeon mewn fforymau fel y Byrddau Gwasanaethau Lleol.
  • Gallu targedu mwy o adnoddau lle mae'r angen mwyaf.
  • Y rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r cymunedau lleol mewn sefyllfa well i ddeall angen lleol.
  • Rhannu unrhyw ddysgu.

Ble fydd y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol yn cael eu lleoli?

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda sefydliadau ac unigolion ar draws pum ardal ar gyfer Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol:

  • Gogledd Cymru
  • Canolbarth Cymru
  • Gorllewin Cymru
  • Gwent
  • Canolbarth y De

Bu cynnydd sylweddol eisoes yng Ngogledd Cymru. Mae Chwaraeon Gogledd Cymru wedi'i sefydlu, gyda bwrdd newydd a chyfarwyddwr rhanbarthol wedi'i benodi.

Mae’r cynnydd yn parhau hefyd yn yr holl ranbarthau eraill gydag ystod o wahanol bartneriaid.

I gael gwybod mwy, cysylltwch â [javascript protected email address]i ddechrau.

 

Newyddion Diweddaraf - Partneriaid

Dynion a Merched gyda’i gilydd – rhai o’r tueddiadau mewn chwaraeon cymysg

Yn y  1970au gwelwyd Brwydr y Rhywiau rhwng seren y byd tennis i ferched  Billie Jean King…

Darllen Mwy

Chwaraeon Cymru yn cyhoeddi rhaglen ddysgu newydd ar gyfer y sector chwaraeon

Mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi rhaglen fawr o ddysgu a datblygu ar gyfer y sector chwaraeon a fydd…

Darllen Mwy

Deng mlynedd o raglen y Llysgenhadon Ifanc yn creu modelau rôl ysbrydoledig

Bydd pen blwydd rhaglen y Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru yn ddeg oed yn cael ei nodi mewn digwyddiad…

Darllen Mwy