Skip to main content
  1. Hafan
  2. Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru

Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru

Mae ein Gweledigaeth ar gyfer Cymru lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes. Rydyn ni eisiau i Gymru fod yn genedl actif gyda chymaint o bobl â phosib yn cael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon.

A phan rydyn ni’n dweud pawb, dyna’n union beth rydyn ni’n ei olygu. O’r bobl sydd ddim yn gweld eu hunain fel rhai medrus iawn mewn chwaraeon i bobl sy’n ennill medalau. Pawb.

Rydyn ni eisiau gweld Cymru ble gallwch chi gymryd rhan mewn chwaraeon yn unrhyw gam o’ch bywyd, gyda chyfleoedd amrywiol sy’n cyd-fynd â’ch ffordd chi o fyw. 

Ond, yn y pen draw, rhaid i chwaraeon fod yn hwyl ac yn bleserus, er mwyn i chi ddal ati i ddod yn ôl, dro ar ôl tro. 

Sut dechreuodd y cyfan gyda’r Sgwrs Genedlaethol

Er mwyn sicrhau bod pobl Cymru wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud, cynhaliwyd Y Sgwrs Genedlaethol gennym. Aethom ar ymweliad â phob rhan o’r wlad er mwyn ceisio deall beth mae pobl ei eisiau gan chwaraeon.

Casglwyd barn a safbwyntiau drwy ddigwyddiadau, sgyrsiau ar Twitter, holiadur ar-lein, gweithdai, cyfarfodydd a 15 sgwrs grŵp gyda grwpiau a dangynrychiolir sydd ddim yn gweld eu hunain fel pobl fedrus mewn chwaraeon.

O dynnu sylw at themâu a phwyntiau allweddol, roedd posib i ni ddechrau llunio’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Wedi’r cwbl, nid Gweledigaeth ar gyfer ein sefydliad a’n staff ni yw hon. Mae ar gyfer pobl Cymru a chenedlaethau’r dyfodol.

Ein nodau

Rydyn ni eisiau datgloi manteision chwaraeon i bawb. Mae hynny’n golygu bod rhaid i ni ddal ati i newid ac esblygu’r ffordd rydyn ni’n gwneud chwaraeon fel eu bod yn addas ar gyfer heddiw, ar gyfer yfory ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ac wrth siarad am genedlaethau’r dyfodol, rydyn ni’n credu y gall chwaraeon gyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae ein Gweledigaeth yn dangos sut gall chwaraeon helpu i greu Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae gan y byd chwaraeon bŵer i wneud llawer o bethau. Mae ganddo gapasiti i effeithio ar Gymru mewn ffordd fawr. Dim ond cydweithio sydd ei angen i ddatgloi ei botensial.

Beth yw chwaraeon?

Cododd ein Sgwrs Genedlaethol gwestiwn mawr – beth yw chwaraeon? Mae ein Gweledigaeth yn gweld chwaraeon fel hyn:

  • chwaraeon trefnus – gêm bêl rwyd ar ôl ysgol efallai, beicio mynydd ar fore Sadwrn neu sesiwn yn y gampfa
  • amrywiaeth o weithgareddau fel cerdded, loncian neu ddawns sy’n cael eu hystyried weithiau fel hamdden

Sut gallwch chi fod yn rhan o’n Gweledigaeth ar y cyd

Mae sawl ffordd i fod yn rhan o’r Weledigaeth. Fel rhywun sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, fel cefnogwr neu riant, gwirfoddolwr neu hyfforddwr, a bod y gorau y gallwch chi fod.

Gyda’n gilydd, fe allwn ni i gyd rannu’r Weledigaeth a chwarae ein rhan.

Cysylltu

Os oes gennych chi unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â communications@sport.wales