Skip to main content
  1. Hafan
  2. Telerau Defnyddio'r Wefan

Telerau Defnyddio'r Wefan

DARLLENWCH Y TELERAU A’R AMODAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO’R SAFLE YMA     

Mae’r telerau hyn yn dweud wrthych chi beth yw’r rheolau ar gyfer defnyddio’r wefan www.chwaraeon.cymru (ein safle).

PWY YDYM NI A SUT I GYSYLLTU Â NI 

Maewww.chwaraeon.cymruyn safle sy’n cael ei weithredu gan Gyngor Chwaraeon Cymru (sy’n masnachu fel Chwaraeon Cymru), cwmni a grëwyd gan Siarter Brenhinol (“Rydym”). I gysylltu â ni, anfonwch e-bost i [javascript protected email address]

DRWY DDEFNYDDIO EIN SAFLE RYDYCH YN DERBYN Y TELERAU HYN 

Drwy ddefnyddio ein safle, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnydd a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â hwy.

Os nad ydych yn cytuno i’r telerau hyn, ni ddylech ddefnyddio ein safle. 

Rydym yn argymell eich bod yn argraffu copi o’r telerau hyn ar gyfer cyfeirio atynt yn y dyfodol. 

MAE TELERAU ERAILL SY’N BERTHNASOL I CHI EFALLAI   

Mae’r telerau defnydd hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn berthnasol i ddefnydd o’n safle:

  • Ein Polisi Preifatrwydd, sy’n datgan ein telerau ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol rydym yn eu casglu gennych chi, neu yr ydych yn eu rhoi i ni. Drwy ddefnyddio ein safle, rydych yn rhoi eich caniatâd i brosesu o’r fath ac yn gwarantu bod yr holl ddata sy’n cael eu darparu gennych chi’n fanwl gywir.
  • Ein Polisi Cwcis, sy’n datgan gwybodaeth am y cwcis ar ein safle.

 

EFALLAI Y BYDDWN YN GWNEUD NEWIDIADAU I’R TELERAU HYN   

Rydym yn diwygio’r telerau hyn o dro i dro. Bob tro rydych yn dymuno defnyddio ein safle, gwiriwch y telerau hyn i wneud yn siŵr eich bod yn deall y telerau sy’n berthnasol ar y pryd.     

Efallai y byddwn yn diweddaru ac yn newid ein safle o dro i dro. 

EFALLAI Y BYDDWN YN GWNEUD NEWIDIADAU I’N SAFLE 

Efallai y byddwn yn diweddaru ac yn newid ein safle o dro i dro, er enghraifft, i adlewyrchu newidiadau i’n gwasanaethau, anghenion ein defnyddwyr a’n blaenoriaethau busnes.        

EFALLAI Y BYDDWN YN GOHIRIO NEU’N TYNNU EIN SAFLE ODDI AR Y WE

Mae ein safle ar gael am ddim.           

Nid ydym yn gwarantu y bydd eich safle, neu unrhyw gynnwys arno, ar gael bob amser neu heb unrhyw darfu. Efallai y byddwn yn gohirio neu’n tynnu ein safle oddi ar y we neu’n cyfyngu ar argaeledd yr holl safle neu ran ohono am resymau busnes a gweithredol. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi am unrhyw ohirio neu dynnu ein safle oddi ar y we.

Rydych chi’n gyfrifol hefyd am sicrhau bod pawb sy’n defnyddio ein safle drwy eich cyswllt rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau defnydd hyn a’r telerau a’r amodau perthnasol eraill, a’u bod yn cydymffurfio â hwy.   

RHAID I CHI GADW MANYLION EICH CYFRIF YN DDIOGEL 

Os byddwch yn dewis, neu’n derbyn, cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol. Ni ddylech ei datgelu i unrhyw drydydd parti.

Mae gennym hawl i analluogi unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, wedi’i ddewis gennych chi neu ei neilltuo gennym ni, ar unrhyw adeg, os ydym yn credu’n rhesymol eich bod wedi methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau yn y telerau defnydd hyn. 

Os ydych chi’n gwybod neu’n amau bod unrhyw un ar wahân i chi’n gwybod beth yw eich cod adnabod defnyddiwr neu eich cyfrinair, rhaid i chi roi gwybod i ni yn brydlon ar [javascript protected email address].

SUT CEWCH CHI DDEFNYDDIO’R DEUNYDD AR EIN SAFLE 

Ni yw perchennog neu drwyddedai holl hawliau eiddo deallusol ein safle a’r deunydd sy’n cael ei gyhoeddi arno. Mae’r gwaith hwn yn cael ei warchod gan gyfreithiau a chytundebau hawlfraint ym mhob cwr o’r byd. Cedwir pob hawl o’r fath.         

Cewch argraffu un copi a lawrlwytho dyfyniadau o unrhyw dudalen(nau) o’n safle ar gyfer eich defnydd personol a chewch dynnu sylw eraill yn eich sefydliad at gynnwys sydd wedi’i roi ar ein safle. 

Ni ddylech addasu’r copïau papur neu ddigidol o unrhyw ddeunyddiau rydych chi wedi’u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd ac ni ddylech ddefnyddio unrhyw luniau, ffotograffau, fideos neu gyfresi sain neu unrhyw raffeg ar wahân i unrhyw destun sy’n cyd-fynd. 

Rhaid cydnabod bob amser ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr sydd wedi’u datgan) fel awduron y cynnwys ar ein safle. 

Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ran o’r cynnwys ar ein safle at ddibenion masnachol heb sicrhau trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr. 

Os byddwch yn argraffu, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o’n safle ac yn mynd yn groes i’r telerau defnydd hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein safle yn dod i ben ar unwaith a rhaid i chi, yn unol â’n dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau rydych chi wedi’u gwneud. 

PEIDIWCH Â DIBYNNU AR YR WYBODAETH AR Y SAFLE YMA 

Mae’r cynnwys ar ein safle’n cael ei ddarparu ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig. Nid yw wedi’i fwriadu fel cyngor y dylech ddibynnu arno. Rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn gweithredu neu ymatal rhag gweithredu ar sail y cynnwys ar ein safle. 

Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar ein safle, nid ydym yn cyflwyno unrhyw safbwyntiau, gwarantau na sicrwydd, boed benodol neu awgrymedig, bod y cynnwys ar ein safle yn fanwl gywir, yn gyflawn neu’n ddiweddar. 

NID YDYM YN GYFRIFOL AM Y GWEFANNAU Y MAE GENNYM DDOLENNI ATYNT 

Os yw ein safle’n cynnwys dolenni at safleoedd ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd parti, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth i chi yn unig. Ni ddylid dehongli dolenni o’r fath fel cymeradwyaeth gennym ni i’r gwefannau hynny sydd wedi’u cysylltu neu unrhyw wybodaeth a gewch ynddynt. 

Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd neu’r adnoddau hynny. 

EIN CYFRIFOLDEB AM GOLLED NEU DDIFROD A DDIODDEFIR GENNYCH CHI

  1. Nid ydym yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar ein hatebolrwydd i chi os yw’n anghyfreithlon gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod ni neu esgeulustod ein cyflogeion, ein hasiantau neu ein his-gontractwyr ac am dwyll neu gamgynrychiolaeth dwyllodrus.

 

Os ydych yn ddefnyddiwr busnes: 

  1. Rydym yn eithrio pob amod, gwarant, safbwynt neu delerau eraill a awgrymir ac sy’n berthnasol efallai i’n safle neu i unrhyw gynnwys ynddo.
  2. Ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golled neu ddifrod, boed mewn contract, cytundeb (gan gynnwys esgeulustod), mynd yn groes i ddyletswydd statudol, neu fel arall, hyd yn oed os yw’n rhagweladwy, sy’n codi o dan neu mewn perthynas â’r canlynol:
  3. defnydd o, neu anallu i ddefnyddio, ein safle; neu
  4. defnydd o, neu ddibyniaeth ar unrhyw gynnwys sy’n cael ei arddangos ar ein safle.
  5. Yn benodol, ni fyddwn yn atebol am y canlynol:
  6. colli elw, gwerthiant, busnes neu refeniw;
  7. tarfu ar fusnes;
  8. colli arbedion disgwyliedig;
  9. colli cyfle busnes, ewyllys da neu enw da; neu
  10. unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol neu ganlyniadol.

 

Os ydych yn ddefnyddiwr defnydd: 

  1. Sylwer mai dim ond at ddefnydd domestig a phreifat ydym yn darparu ein safle. Rydych yn cytuno i beidio â defnyddio ein safle at unrhyw ddibenion masnachol neu fusnes, ac nid oes gennym unrhyw atebolrwydd i chi am unrhyw golli elw, colli busnes, tarfu ar fusnes neu golli cyfle busnes.

 

NID YDYM YN GYFRIFOL AM FEIRYSAU AC NI DDYLECH EU CYFLWYNO             

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein safle yn ddiogel neu’n rhydd o fygiau neu feirysau. 

Rydych chi’n gyfrifol am gyflunio eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a’ch platfform i ddefnyddio ein safle. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd amddiffyn rhag feirysau eich hun. 

Ni ddylech gamddefnyddio ein safle drwy fynd ati i gyflwyno feirysau, ceffylau trojan, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod i’n safle, y gweinydd y mae ein safle’n cael ei storio arno neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu fas data cysylltiedig â’n safle. Ni ddylech ymosod ar ein safle drwy ymosodiad gwadu gwasanaeth neu ymosodiad gwadu gwasanaeth a ddosberthir. Drwy fynd yn groes i’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd gyfreithiol o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw drosedd o’r fath i awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu pwy ydych iddynt. Os byddwch yn cyflawni trosedd o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein safle yn dod i ben ar unwaith.

RHEOLAU AM GYSYLLTU Â’N SAFLE    

Cewch greu dolen i’n hafan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfreithlon, heb wneud unrhyw ddrwg i’n henw da na chymryd mantais ohono. 

Ni ddylech sefydlu dolen mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o gyswllt, cymeradwyaeth neu gefnogaeth ar ein rhan ni os nad yw hynny’n bodoli. 

Ni ddylech sefydlu dolen i’n safle mewn unrhyw wefannau nad ydynt yn eiddo i chi. 

Ni ddylai ein safle gael ei fframio ar unrhyw safle ac ni chewch greu dolen i unrhyw ran o’n safle ar wahân i’n hafan.         

Rydym yn cadw’r hawl i ddileu caniatâd ar gyfer creu dolen heb rybudd. 

Os ydych yn dymuno creu dolen neu wneud defnydd o gynnwys ein safle ar wahân i’r ffordd y nodir uchod, cysylltwch ar [javascript protected email address].

CYFREITHIAU PA WLAD SY’N BERTHNASOL I UNRHYW ANGHYDFOD?

Os ydych chi’n ddefnyddiwr, sylwer bod y telerau defnydd hyn, eu cynnwys a’u ffurfio’n cael eu llywodraethu gan gyfraith Loegr. Rydych chi a ni’n cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth eithriol, oni bai eich bod yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ac wedyn gallwch ddwyn gweithrediadau yng Ngogledd Iwerddon, ac os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch ddwyn gweithrediadau yn yr Alban. 

Os ydych chi’n fusnes, llywodraethir y telerau hyn, eu cynnwys a’u ffurfio (ac unrhyw anghydfod neu hawliadau anghytundebol) gan gyfraith Loegr. Rydym fel dwy ochr yn cytuno i awdurdodaeth eithriol llysoedd Cymru a Lloegr.