Skip to main content
  1. Hafan
  2. Pen blwydd y Loteri Genedlaethol yn 30 oed a chwaraeon yng Nghymru

Pen blwydd y Loteri Genedlaethol yn 30 oed a chwaraeon yng Nghymru

Dathlu pen blwydd y Loteri Genedlaethol yn 30 oed a’r effaith enfawr mae ei chyllid wedi’i chael ar chwaraeon yng Nghymru ers 1994.

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn newid y gêm i chwaraeon yng Nghymru ers 30 mlynedd – gan wella miloedd o fywydau drwy ei chyllid ar gyfer clybiau ar lawr gwlad, athletwyr elitaidd, lleoliadau chwaraeon eiconig, a gwaith Chwaraeon Cymru a’n partneriaid ni.

Sut mae’r Loteri Genedlaethol wedi siapio chwaraeon yng Nghymru dros 30 mlynedd?

Ers 1994, mae mwy na £356m o arian y Loteri Genedlaethol wedi cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon yng Nghymru drwy Chwaraeon Cymru.

Heb y cyllid yma, byddai chwaraeon yng Nghymru yn edrych yn wahanol iawn ac ni fyddai wedi cael yr un effaith.

Ond diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos at achosion da, gan gynnwys y cyllid hanfodol i chwaraeon yng Nghymru.

Felly, os ydych chi wedi chwarae’r Loteri Genedlaethol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, rydych chi wedi helpu i wneud gwahaniaeth i blant, cymunedau, hyfforddwyr, clybiau ac athletwyr Cymru. Ac mae’n debygol iawn bod prosiect yn eich ardal chi rydych chi wedi helpu i’w gefnogi.

Beth mae’r Loteri Genedlaethol wedi'i ariannu yn y byd chwaraeon yng Nghymru?

Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Mae miliynau o bunnoedd wedi cael eu rhoi i glybiau, sefydliadau a phrosiectau chwaraeon ledled Cymru. Mae hynny diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

O helpu i dalu am offer i ariannu cyrsiau fel bod gwirfoddolwyr yn gallu dod yn hyfforddwyr cymwys, mae'r Loteri Genedlaethol wedi gwella miloedd o fywydau ac wedi galluogi clybiau chwaraeon yng Nghymru i ffynnu am 30 mlynedd.

Os ydych chi’n un o’r clybiau neu’r sefydliadau sydd wedi elwa o arian y Loteri Genedlaethol, ymunwch â’r dathliadau pen blwydd ar y cyfryngau cymdeithasol a thynnu sylw at y pethau gwych rydych chi wedi gallu eu gwneud diolch i arian y loteri.

   

Chwaraeon Elitaidd 

Ers i arian y loteri gael ei gyflwyno i chwaraeon elitaidd yn 1997 – yn dilyn casgliad siomedig o fedalau yng Ngemau Olympaidd 1996 – mae llawer o athletwyr Cymru wedi cael eu cefnogi gan y Loteri Genedlaethol, o Tanni Grey-Thompson ar ddiwedd y nawdegau a dechrau’r mileniwm newydd i’r seren newydd ym Mharis 2024, Emma Finucane.

Mae Rhaglen Safon Byd UK Sport sy’n cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol yn rhoi cyfle i athletwyr Cymru, gan gynnwys Emma, ​​hyfforddi’n llawn amser, cael mynediad at hyfforddwyr gorau’r byd ac elwa o gefnogaeth feddygol arloesol.

Nid yn unig y mae’r Loteri Genedlaethol yn ariannu athletwyr elitaidd Cymru yn uniongyrchol, ond mae hefyd yn cefnogi’r clybiau ar lawr gwlad maen nhw’n dod i’r amlwg drwyddyn nhw, ac yn ogystal mae’n buddsoddi i greu’r cyfleusterau chwaraeon o safon byd lle maen nhw’n hyfforddi ac yn perfformio.

Partneriaid 

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Chwaraeon Cymru yn gallu buddsoddi mewn cyrff rheoli cenedlaethol arloesol, partneriaid cenedlaethol ac awdurdodau lleol.

Mae pob un o’r sefydliadau hyn ac eraill yn helpu i greu cenedl acti lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes.

Sbotolau Partner: Y Loteri Genedlaethol

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi dod yn bartner allweddol i Chwaraeon Cymru – o gyllido clybiau ar lawr…

Darllen Mwy

Sbotolau Partner: Girlguiding Cymru

Cysylltodd Girlguiding Cymru â Chriced Cymru i gyflwyno'r gamp i ferched ifanc ar draws y wlad.

Darllen Mwy

Clwb Sboncen Merthyr: sut mae cronfa bod yn heini cymru wedi helpu mwy o ddarpar sêr Sboncen i godi'r raced

Mae gan y Clwb a daniodd freuddwydion Arwr Gemau'r Gymanwlad, Joel Makin gynlluniau mawr ar gyfer recriwtiaid…

Darllen Mwy

Y rôl bwysig y mae’r Loteri Genedlaethol yn ei chwarae yn nhwf rygbi merched Cymru

Byddai Cwpan y Byd llwyddiannus i Gymru yn gweld y ‘llifddorau’ yn cael eu hagor ymhellach, a gêm y…

Darllen Mwy

Anrhydedd loteri i Tirion, pencampwr cymunedol

Mae Tirion Thomas, un o wirfoddolwyr Clwb Rygbi'r Bala, wedi cael ei hanrhydeddu am ei gwaith cymunedol…

Darllen Mwy

3 ffordd y gall cyllid Chwaraeon Cymru helpu clybiau hoci yng Nghymru

Gadewch i ni edrych ar dair ffordd y gall Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru helpu eich clwb hoci.

Darllen Mwy