Skip to main content

Anrhydedd loteri i Tirion, pencampwr cymunedol

Mae Tirion Thomas, un o wirfoddolwyr Clwb Rygbi'r Bala, wedi cael ei hanrhydeddu am ei gwaith cymunedol drwy gael ei dewis ar gyfer ymgyrch unigryw gan y Loteri Genedlaethol.

Ochr yn ochr ag arwyr cymunedol eraill o bob rhan o'r DU, mae ymrwymiad Tirion i chwaraeon ar lawr gwlad wedi cael ei ddathlu gyda phortread digidol – wedi'i gomisiynu gan y Loteri Genedlaethol a’i gyhoeddi ar draws ei sianeli digidol i’r genedl gyfan.

 

Ni allai Tirion Thomas ddioddef gweld ei hannwyl dîm yng Nghlwb Rygbi’r Bala yn methu wedi i’r hyfforddwr tîm dan 16 oed gamu ymaith, felly aeth y ferch ifanc ati i wneud yr anghredadwy a chymryd yr awenau ei hunan. 

Roedd y prop a aned ym Manceinion wedi pasio ei harholiadau hyfforddi ar ei phen-blwydd yn 18 oed ac mae wedi gweld nifer o dimau merched yn ffynnu dan ei hyfforddiant; cafodd ei henwebu ar gyfer ymgyrch Portreadau’r Bobl y Loteri Genedlaethol. 

Mae ymroddiad diysgog Thomas wedi cael ei gydnabod fel rhan o ymgyrch sy’n hyrwyddo unigolion a phrosiectau sydd wedi cyflawni pethau anhygoel ar gyfer merched mewn chwaraeon o fewn eu cymunedau, gyda help arian a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi £30 miliwn ar gyfer achosion da pob wythnos. 

 

I ddathlu cyflawniadau anhygoel Thomas, mae’r artist, Yoniest Chun, sy’n enwog am ei waith a ysbrydolir gan gartwnau, wedi creu darn digidol o gelf sy’n anfarwoli ei stori. 

O achub tîm ei hunan, mae pum tîm llawn i ferched dan 9 oed gan y Bala erbyn hyn ac mae Thomas wrth ei bodd gyda’r twf aruthrol ac esbonyddol yn y gêm i ferched. “Rwy’n meddwl mai’r rheswm yw oherwydd y sylweddoliad y gall merched chwarae camp megis rygbi, ond y ffaith ein bod hefyd yn codi ymwybyddiaeth amdanom ein hunain yn dweud ein bod eisiau chwarae sy’n cael ei gefnogi gan gymaint o bobl,” dywedodd Thomas. 

“Rwy’n meddwl fod nifer y merched a menywod sy’n dod i mewn i’r gamp yn eithriadol. Fel llywydd tîm rygbi Prifysgol Abertawe, o’r 20 o ymgeiswyr a gawsom, roeddem wedi cael 130 o bobl yn cofrestru eleni. 

“Felly, dengys hyn, fod y gamp yn cael ei chwarae nid ar lefel Cwpan y Byd yn unig, ond ar lawr gwlad i bob diben. Y cyfan mae’n cymryd yw un unigolyn nad yw’n ofni ei wneud.” 

“Es i ar y maes chwarae hwnnw pan yn 11 oed a dangos i’r bechgyn sut i’w wneud.” 

Cyn dechrau ar gwrs bydwreigaeth ym Mhrifysgol Abertawe, roedd Thomas yn jyglo ei chymwysterau hyfforddi gyda gwaith ysgol ac mae wedi cymryd blwyddyn allan hyd yn oed i gefnogi Clwb y Bala. 

“Roedd y cyrsiau hyfforddi yn gymysg ac roedd yn gam mawr i’w gymryd yn ifanc, ond roedd angen ei wneud ar gyfer merched ac ar gyfer fy nghymuned gartref,” dywedodd Thomas.

“Felly, roedd yn rhywbeth roeddwn yn teimlo’n angerddol am ei wneud cyn gynted ag yr oedd yn bosib.” 

Nid yn unig mae arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu Thomas trwy ei bathodynnau hyfforddi, ond mae hefyd wedi darparu cyflenwadau hanfodol a welodd poblogrwydd yr adran i ferched yn ffynnu. 

“Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi fy helpu wrth wneud y cyrsiau hyfforddi hyn ac wedi prynu cit i ni,” ychwanegodd.

“Pan ddechreuon ni gyntaf, roedden ni’n mynd allan mewn hen git rygbi a oedd i lawr at ein pen-gliniau. 

“Yna yng nghyflwyniadau’r tymor roedden ni wedi gallu prynu gwobrau i’r merched. Dyma’r rhan oedd yn gwobrwyo’r merched ac yn gwneud iddynt eisiau rhoi mwy o ymdrech. Mae’r pethau bychain hyn yn mynd ymhell.” 

Mae Thomas wedi chwarae gyda chwaraewr rhyngwladol i Gymru, Gwenllian Pyrs ac roedd y capten,  Siwan Lillicrap yn hyfforddwraig ym Mhrifysgol Abertawe cyn iddi fynd yn broffesiynol ym mis Mawrth. 

A chododd Thomas yn gynnar cyn ei sifftiau i gefnogi ei harwyr yng Nghwpan y Byd, gan fod wrth ei bodd fod Undeb Rygbi Cymru wedi gwobrwyo eu sêr o’r diwedd gyda chytundebau llawn amser.

“Mae’n hollol anhygoel,” dywedodd Thomas. “Dyma’r ffordd mae angen i rygbi fynd. 

“Does gen i ddim amheuaeth y gallai rygbi i ferched fod mor fawr â rygbi i ddynion un diwrnod.” 

Mae tri phortread digidol ychwanegol wedi cael eu creu gan yr artist digidol, Yoniest Chun, sy’n cyfleu storïau unigolion a phrosiectau eraill sydd wedi cyflawni pethau anhygoel ar gyfer merched mewn chwaraeon yn eu cymunedau. Mae’r rhain yn cynnwys Helen Hardy o Manchester Laces ym Manceinion,Fiona McIntyre, pennaeth pêl-droed i ferched a menywod yng Nghymdeithas Bêl-droed Yr Alban ac Elaine Junk o Gymdeithas Bêl-droed from Mid-Ulster yng Ngogledd Iwerddon. 

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy