Skip to main content
  1. Hafan
  2. Polisi Defnydd Derbyniol

Polisi Defnydd Derbyniol

DARLLENWCH DELERAU’R POLISI HWN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO’R SAFLE     

Beth sydd yn y telerau hyn?

Mae’r polisi defnydd derbyniol hwn yn datgan y safonau cynnwys sy’n berthnasol pan rydych chi’n uwchlwytho cynnwys i’n safle, yn gwneud cysylltiad â defnyddwyr eraill ar ein safle, yn cysylltu â’n safle, neu’n rhyngweithio â’n safle mewn unrhyw ffordd arall. 

Cliciwch ar y dolenni isod i fynd yn syth at ragor o wybodaeth am bob maes: 

Pwy ydym ni a sut i gysylltu â ni 

Mae [www.chwaraeon.cymru] yn safle sy’n cael ei weithredu gan Gyngor Chwaraeon Cymru (sy’n masnachu fel Chwaraeon Cymru) ("Rydym"). Rydym wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 524477 ac mae ein swyddfa gofrestredig yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW. Ein prif gyfeiriad masnachu yw Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW. Ein rhif TAW yw 135 4398 60.

I gysylltu â ni, anfonwch e-bost i communications@sport.wales neu ffoniwch ein llinell gwasanaethau cwsmeriaid ar 0300 3003123.

Drwy ddefnyddio ein safle rydych yn derbyn y telerau hyn 

Drwy ddefnyddio ein safle, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn telerau’r polisi hwn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â hwy. 

Os nad ydych yn cytuno i’r telerau hyn, ni ddylech ddefnyddio ein safle. 

Rydym yn argymell eich bod yn argraffu copi o’r telerau ar gyfer cyfeirio atynt yn y dyfodol. 

Mae telerau eraill sy’n berthnasol i chi efallai   

Mae ein Telerau ar gyfer defnyddio’r wefan hefyd yn berthnasol i’ch defnydd chi o’n safle. 

Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i delerau’r polisi hwn 

Rydym yn diwygio’r telerau hyn o dro i dro. Bob tro rydych yn dymuno defnyddio ein safle, gwiriwch y telerau hyn i wneud yn siŵr eich bod yn deall y telerau sy’n berthnasol ar y pryd.     

Defnydd gwaharddedig 

Dim ond at ddibenion cyfreithlon y cewch ddefnyddio ein safle. Ni ddylech ddefnyddio ein safle ar gyfer y canlynol:

  • Mewn unrhyw ffordd sy’n mynd yn groes i unrhyw gyfraith neu reoliad lleol, cenedlaethol neu ryngwladol perthnasol. 
  • Mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon neu dwyllodrus, neu at ddiben neu effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus.
  • At ddiben niweidio neu geisio niweidio plant mewn unrhyw ffordd.               
  • I anfon, derbyn yn hysbys, uwchlwytho, lawrlwytho, defnyddio neu ailddefnyddio deunydd nad yw’n cydymffurfio â’n safonau cynnwys (gweler isod). 
  • I drosglwyddo neu gaffael anfon unrhyw hysbysebu digymell neu anawdurdodedig neu unrhyw ddeunydd hyrwyddo neu unrhyw ffurf arall ar erfyn tebyg (spam).
  • I drosglwyddo’n hysbys unrhyw ddata, anfon neu uwchlwytho unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys feirysau, ceffylau Trojan, mwydod, bomiau amser, cofnodwyr trawiadau bysellau, ysbïwedd, meddalwedd hysbysebu neu unrhyw raglenni niweidiol eraill neu god cyfrifiadurol tebyg sydd wedi’i gynllunio i gael effaith niweidiol ar weithrediad unrhyw feddalwedd neu galedwedd gyfrifiadurol. 

Rydych hefyd yn cytuno i’r canlynol: 

  • Peidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo neu ailwerthu unrhyw ran o’n safle yn groes i ddarpariaethau ein telerau ar gyfer defnyddio’r wefan [INSERT AS LINK TO SITE'S TERMS OF USE].
  • Peidio â sicrhau mynediad heb awdurdod at, ymyrryd â, difrodi neu darfu ar y canlynol:
  • unrhyw ran o’n safle;
  • unrhyw offer neu rwydwaith y mae ein safle wedi’i storio arno; 
  • unrhyw feddalwedd sy’n cael ei defnyddio i ddarparu ein safle; neu 
  • unrhyw offer neu rwydwaith neu feddalwedd sy’n eiddo i drydydd parti neu’n cael ei ddefnyddio ganddo. 

Gwasanaethau rhyngweithiol

Efallai y byddwn yn darparu gwasanaethau rhyngweithiol ar ein safle o dro i dro, gan gynnwys, heb gyfyngiad:

  • ystafelloedd sgwrsio. 
  • byrddau bwletin.

(gwasanaethau rhyngweithiol.)

Os ydym yn darparu unrhyw wasanaeth rhyngweithiol, byddwn yn darparu gwybodaeth glir i chi am y math o wasanaeth a gynigir, a yw’n cael ei gymedroli a pha ffurf ar gymedroli a ddefnyddir (gan gynnwys a yw’n ddynol neu’n dechnegol).             

Byddwn yn gwneud ein gorau i asesu unrhyw risgiau posib i ddefnyddwyr (ac yn benodol, i blant) gan drydydd partïon pan maent yn defnyddio gwasanaeth rhyngweithiol sy’n cael ei ddarparu ar ein safle, a byddwn yn penderfynu ym mhob achos a yw’n briodol defnyddio cymedroli ar y gwasanaeth perthnasol (gan gynnwys pa fath o gymedroli i’w ddefnyddio) yng ngoleuni’r risgiau hynny. Fodd bynnag, nid oes gennym unrhyw rwymedigaeth i oruchwylio, monitro na chymedroli unrhyw wasanaeth rhyngweithiol rydym yn ei ddarparu ar ein safle ac rydym yn eithrio’n benodol ein hatebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o’r defnydd o unrhyw wasanaeth rhyngweithiol gan ddefnyddiwr yn groes i’n safonau cynnwys, boed yn wasanaeth wedi’i gymedroli ai peidio.                   

Mae defnydd o unrhyw rai o’n gwasanaethau rhyngweithiol gan blentyn yn amodol ar ganiatâd rhiant neu warcheidwad. Rydym yn cynghori rhieni sy’n caniatáu i’w plentyn ddefnyddio gwasanaeth rhyngweithiol ei bod yn bwysig eu bod yn cyfathrebu gyda’u plant am ddiogelwch ar-lein, gan nad yw cymedroli’n ddiogel bob amser. Dylai plant sy’n defnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol fod yn ymwybodol o’r risgiau posib iddynt. 

Os ydym yn cymedroli gwasanaeth rhyngweithiol, fel rheol byddwn yn darparu dull o gysylltu â’r cymedrolwr i chi, os bydd pryder neu anhawster yn codi. 

Safonau cynnwys 

Mae’r safonau cynnwys hyn yn berthnasol i bob deunydd rydych yn ei gyfrannu at ein safle (Cyfraniad), ac unrhyw wasanaethau rhyngweithiol cysylltiedig ag ef. 

Rhaid cydymffurfio â’r Safonau Cymwys mewn ysbryd yn ogystal ag i’r llythyren. Mae’r safonau’n berthnasol i bob rhan o unrhyw Gyfraniad ac i’r cyfraniad yn ei gyfanrwydd. 

Bydd Cyngor Chwaraeon Cymru yn penderfynu, yn unol â’i ddisgresiwn, a yw Cyfraniad yn mynd yn groes i’r Safonau Cynnwys. 

Rhaid i Gyfraniad fod fel a ganlyn:

  • Bod yn fanwl gywir (os yw’n datgan ffeithiau).
  • Bod yn ddidwyll (os yw’n datgan barn).
  • Cydymffurfio â’r gyfraith berthnasol yng Nghymru a Lloegr ac yn unrhyw wlad lle mae’n cael ei gyflwyno. 

Ni ddylai Cyfraniad fod fel a ganlyn:

  • Bod yn ddifenwol tuag at unrhyw berson.
  • Bod yn anweddus, tramgwyddol, cas neu ymfflamychol. 
  • Hybu deunydd hynod rywiol.             
  • Hybu trais.         
  • Hybu gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, crefydd, cenedligrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu oedran. 
  • Torri unrhyw reolau hawlfraint, bas data neu fasnachnod sy’n eiddo i unrhyw berson arall. 
  • Bod yn debygol o dwyllo unrhyw berson.
  • Mynd yn groes i ddyletswydd gyfreithiol sy’n ddyledus i drydydd parti, fel dyletswydd gytundebol neu ddyletswydd o hyder. 
  • Hybu unrhyw weithgarwch anghyfreithlon. 
  • Arwain at ddirmyg llys.
  • Bygwth, cam-drin neu ymyrryd â phreifatrwydd person arall, neu achosi annifyrrwch, anhwylustod neu bryder diangen. 
  • Bod yn debygol o aflonyddu, creu embaras, dychryn, cythruddo unrhyw berson arall neu ei wneud yn ddigalon.                     
  • Dynwared unrhyw berson, neu gamgynrychioli hunaniaeth neu aelodaeth gydag unrhyw berson.
  • Rhoi’r argraff bod y Cyfraniad yn deillio o Gyngor Chwaraeon Cymru os nad dyma’r achos.                     
  • Eirioli, hybu neu annog unrhyw barti i gyflawni, neu gynorthwyo gydag, unrhyw weithred droseddol neu anghyfreithlon fel (esiampl yn unig) ymyrryd â hawlfraint neu gamddefnydd o gyfrifiadur. 
  • Cynnwys datganiad a gwybod neu gredu, neu fod â sail resymol i gredu, y bydd aelodau’r cyhoedd a fydd yn gweld y datganiad pan gaiff ei gyhoeddi’n debygol o ddeall y datganiad fel anogaeth uniongyrchol neu anuniongyrchol neu gymhelliad arall i gomisiynu, paratoi neu symbylu gweithredoedd terfysgol. 
  • Cynnwys unrhyw hysbysebion neu hybu unrhyw wasanaethau neu ddolenni gwe i safleoedd eraill. 

Mynd yn groes i’r polisi hwn 

Pan rydym yn credu bod rhywun wedi mynd yn groes i’r polisi defnydd derbyniol hwn, efallai y byddwn yn gweithredu fel rydym yn credu sy’n briodol.   

Mae methu cydymffurfio â’r polisi defnydd derbyniol hwn yn golygu eich bod yn mynd yn sylfaenol groes i’r telerau defnydd sy’n rhoi caniatâd i chi ddefnyddio ein safle, a gall arwain at weithredu pob un neu rai o’r camau canlynol:

  • Dileu eich hawl i ddefnyddio ein safle ar unwaith, dros dro neu’n barhaol. 
  • Dileu unrhyw Gyfraniad sydd wedi’i uwchlwytho gennych chi i’n safle ar unwaith, dros dro neu’n barhaol. 
  • Rhoi rhybudd i chi. 
  • Gweithrediadau cyfreithiol yn eich erbyn chi i ad-dalu’r holl gostau ar sail indemniad (gan gynnnwys costau gweinyddol a chyfreithiol rhesymol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) o ganlyniad i fynd yn groes i’r polisi. 
  • Gweithredu cyfreithiol pellach yn eich erbyn. 
  • Datgelu gwybodaeth o’r fath i awdurdodau gorfodi’r gyfraith fel rydym yn teimlo sy’n rhesymol angenrheidiol neu fel sy’n ofynnol yn unol â’r gyfraith. 

Rydym yn eithrio ein hatebolrwydd am ein holl weithredu fel ymateb i fynd yn groes i’r polisi defnydd derbyniol hwn. Nid yw’r camau gweithredu y byddwn yn eu rhoi ar waith yn gyfyngedig efallai i’r rhai a ddisgrifir uchod ac efallai y byddwn yn gweithredu mewn ffordd arall, fel y gwelir yn rhesymol briodol.                     

Cyfreithiau pa wlad sy’n berthnasol i unrhyw anghydfod?

Os ydych chi’n ddefnyddiwr, sylwer bod telerau’r polisi hwn, ei gynnwys a’i ffurfio’n cael eu llywodraethu gan gyfraith Loegr. Rydych chi a ni’n cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth eithriol yn y cyswllt hwn, oni bai eich bod yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ac wedyn gallwch ddwyn gweithrediadau yng Ngogledd Iwerddon, ac os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch ddwyn gweithrediadau yn yr Alban. 

Os ydych chi’n fusnes, llywodraethir telerau’r polisi hwn, ei gynnwys a’i ffurfio (ac unrhyw anghydfod neu hawliadau anghytundebol) gan gyfraith Loegr. Rydym fel dwy ochr yn cytuno i awdurdodaeth eithriol llysoedd Cymru a Lloegr.