Adborth
Rydym yn croesawu eich adborth ar hygyrchedd gwefan Chwaraeon Cymru. Rhowch wybod i ni os ydych yn dod ar draws rhwystrau hygyrchedd ar wefan Chwaraeon Cymru neu os oes angen cynnwys arnoch mewn fformat gwahanol:
Ffôn: 02920 338359
E-bost: communications@sport.wales
Cyfeiriad postio: Cyfathrebu a Digidol, Chwaraeon Cymru, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW.
Rydym yn ceisio ymateb i adborth o fewn 5 diwrnod busnes.
Sut gwnaethom brofi’r wefan hon
Rydym wedi defnyddio'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1 Safon AA i brofi'r wefan hon.
Profwyd y tudalennau gan ddefnyddio aXe gan groesgyfeirio yn erbyn Pecyn Adnoddau Dylunio Gwasanaethau'r Llywodraeth.
Mae tîm digidol Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwasanaethau ar-lein yn hygyrch i bob defnyddiwr ac yn cydymffurfio â lefel AA y Canllawiau Hygyrchedd ar gyfer Cynnwys Gwefannau – WCAG 2.1, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Er mwyn ein helpu ni i gyflawni a chynnal ein nod rydym wedi comisiynu The Digital Accessibility Centre (DAC) i gynnal archwiliadau cydymffurfiaeth dechnegol lefel AA WCAG 2.1, a fydd hefyd yn cynnwys profi helaeth gan ddefnyddwyr sydd ag amrywiaeth eang o anableddau.
Mae’r archwiliad wedi’i drefnu fel a ganlyn:
Chwaraeon Cymru: https://www.chwaraeon.cymru
Dyddiad yr Archwiliad 1af Chwefror 2021
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 30 Tachwedd 2020.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 2 Gorffennaf 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth. Gallwch ddod o hyd i gopi o'r adroddiad yma.