Mwy am ein proses recriwtio
Ein Strategaeth
Rydyn ni eisiau cael effaith sylweddol ledled Cymru. Mae strategaeth Chwaraeon Cymru yn datgan sut bydd Chwaraeon Cymru yn chwarae ei ran mewn gwneud y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yn realiti. Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau manteision oes chwaraeon ac mae ein gweledigaeth ar gyfer Cymru iach ac egnïol, dim ots ble rydych chi’n byw. Hefyd rydyn ni eisiau gweld ein hathletwyr ni’n cyflawni eu llawn botensial.
Gallwch weld ein strategaeth ni yma.
Manteision Chwaraeon Cymru
Mae gennym ni uchelgais beiddgar ar gyfer chwaraeon yng Nghymru ac rydyn ni’n gwybod y bydd ein pobl ni’n allweddol i gyflawni hynny. Dyma pam rydyn ni’n darparu pecyn manteision amrywiol. Rydyn ni’n gefnogwyr mawr i gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig amrywiaeth o ddulliau gweithio hyblyg.
Mae rhagor o wybodaeth am ein polisi cyflogau a’r manteision eraill ar gael yn llawlyfr y staff llawlyfr staff. Mae ein graddfeydd cyflog ar gael yma.
Hyfforddiant a Datblygiad
Rydyn ni eisiau’r bobl briodol gyda sgiliau priodol yn y swyddi priodol. Mae hynny’n golygu bod rhaid i ni fuddsoddi yn ein cyflogeion.
Ar eich diwrnod cyntaf yn y gwaith, byddwch yn cael rhaglen groesawu deilwredig ac yn cael cynnig yr holl hyfforddiant hanfodol i ddechrau arni. Bydd ymuno â Chwaraeon Cymru yn golygu ymuno â diwylliant o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyfforddiant penodol i swydd, gweithdai rheolaidd yn ystod amser cinio, hyfforddiant a mentora, gwella sgiliau yn y Gymraeg a chyfleoedd astudio yn y tymor hir i gyd yn rhan o fod yn aelod o’n tîm ni.
Mae hyn i gyd wedi ein helpu ni i gael achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
ae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Er mwyn galluogi i Chwaraeon yng Nghymru ffynnu, mae'n hanfodol bod ein gweithlu yn gwbl gynrychioliadol o'r boblogaeth ehangach.
Un o flaenoriaethau strategol allweddol yr ailgynllunio sefydliadol diweddar oedd arallgyfeirio ein gweithlu ymhellach, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu, fel pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, LHDTC+ a phobl anabl.
Mae ein proses llunio rhestr fer yn cael ei gweithredu’n ddall. Mae hyn yn golygu na all y rheolwr cyflogi weld eich enw, eich rhywedd nac unrhyw elfen arall o'ch data personol. Rydym yn gwneud hyn i sicrhau ein bod yn recriwtio mewn ffordd deg a thryloyw.
Rydym yn gyflogwr Hyderus am Anabledd lefel 2 a byddwn yn cynnig cyfweliadau i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer swydd wag.
Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol yn amlinellu ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant a'n hamcanion.
Eich Data
Rydyn ni’n deall y byddwn yn gofyn i chi rannu gwybodaeth sensitif a phersonol fel rhan o’ch cais. Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd a bydd yr holl wybodaeth bersonol sy’n cael ei darparu yn ystod y broses gofrestru ac ymgeisio’n cael ei chadw a’i phrosesu yn unol â chofrestriad Chwaraeon Cymru o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.
O gweld a lawrlwytho ein ffurflen gais cliciwch yma.
Fideo
Mwy o wybodaeth am sut brofiad yw gweithio gyda ni yn Chwaraeon Cymru.