Skip to main content
  1. Hafan
  2. Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

Gwybodaeth Preifatrwydd Chwaraeon Cymru

Yn Weithredol O 03/02/2020

Crynodeb o’n Datganiad Preifatrwydd             

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (sy’n masnachu fel Chwaraeon Cymru) wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd a’ch gwybodaeth bersonol. Rydym eisiau rhannu sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer unrhyw rai o’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.    

Mae’r polisi hwn (ynghyd â thelerau defnydd ein gwefan, ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ynddynt) yn datgan y sail a ddefnyddir gennym ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol rydym yn eu casglu gennych chi, neu y byddwch yn eu darparu i ni.         

Darllenwch y canlynol yn ofalus er mwyn deall ein harferion ynghylch eich data personol a sut byddwn yn eu prosesu. 

Drwy ddefnyddio ein gwasanaethau (gan gynnwys ymweld â’r wefan hon), rydych yn derbyn ac yn rhoi eich caniatâd i’r arferion a ddisgrifir yn y polisi hwn. 

At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ((EU) 2016/679) (GDPR), y rheolydd data ywCYNGOR CHWARAEON CYMRU, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW. Rhif cofrestru: Z5769715

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Mae Chwaraeon Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn wahanol, yn seiliedig ar sut rydym yn gweithio gyda chi. Cewch ragor o fanylion am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ym mhob sefyllfa drwy ddilyn y dolenni isod

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd 

Bydd unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud i’n polisi preifatrwydd o dro i dro yn cael eu nodi ar y dudalen hon ac, os yw hynny’n briodol, byddwch yn cael eich hysbysu amdanynt ar e-bost. Edrychwch yma’n rheolaidd am unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n polisi preifatrwydd.

Eich Hawliau

Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawl i chi i’r canlynol:

  • gweld yr wybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch chi, ond gallwn wrthod neu godi ffi am geisiadau sy’n ymddangos yn ddi-sail neu’n ormodol. 
  • cael gwybod pa fath o wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi. 
  • cywiro unrhyw wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi (er enghraifft, os yw’n anghywir).
  • dileu unrhyw wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi, yn amodol ar ein rhwymedigaethau cyfreithiol. 
  • cyfyngu ar sut rydym yn prosesu unrhyw wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi.
  • trosglwyddo unrhyw wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi i drydydd parti.
  • gwrthwynebu i ni gasglu, prosesu neu storio unrhyw wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi.
  • peidio â bod yn destun penderfyniadau awtomatig (gan gynnwys proffilio).

 

Os ydych yn dymuno ymarfer unrhyw rai o’r hawliau hyn, anfonwch e-bost i [javascript protected email address] neu ysgrifennu at y Swyddog Diogelu Data, Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW.

Sylwer bod ein polisi’n gofyn i ni ddilysu pwy ydych chi cyn y gallwn brosesu unrhyw gais am fynediad. Mae dulliau adnabod derbyniol yn cynnwys trwydded yrru gyda llun, pasbort neu gerdyn adnabod y lluoedd arfog.             

Sut mae cysylltu   

Ar gyfer ymholiadau Diogelu Data cyffredinol neu i gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data penodol, anfonwch e-bost i [javascript protected email address] ysgrifennu at y Swyddog Diogelu Data, Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW.