Skip to main content
  1. Hafan
  2. Polisi Preifatrwydd
  3. ADRAN 12 - UNIGOLION SY'N CREU CYFRIF AR GYFER GWASANAETH AR-LEIN

ADRAN 12 - UNIGOLION SY'N CREU CYFRIF AR GYFER GWASANAETH AR-LEIN

Mae gan Chwaraeon Cymru nifer o wasanaethau ar-lein sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr gofrestru a chreu cyfrif i gael mynediad at y gwasanaeth hwnnw.

Pa wybodaeth bersonol fyddwn yn ei defnyddio?

Bydd yr wybodaeth a gaiff ei chasglu yn dibynnu ar y maes gwasanaeth hwnnw. Rydym yn casglu:

Pob gwasanaeth rydych yn tanysgrifio iddo

Eich Teitl;

Eich enw;

Eich cyfeiriad e-bost;

CLIP

Y sefydliad rydych yn gweithio iddo a'ch swydd ynddo; a

Citbag - Adnoddau Addysg

Eich Lleoliad;

Eich Math o Ddefnyddiwr;

Eich Ysgol (os yw’n berthnasol)

 

Sut byddwn ni’n cael yr wybodaeth bersonol?

Bydd yn cael ei darparu gennych chi pan fyddwch chi'n creu cyfrif.

 

At ba ddibenion fyddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth bersonol?

Er mwyn ein helpu i reoli eich cyfrif.

Er mwyn rhoi’r wybodaeth ddefnyddiol ddiweddaraf i chi am eich cyfrif.

Er mwyn rhoi gwybodaeth gysylltiedig a allai fod o ddiddordeb i chi yn ein barn ni.

 

Y seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt

Byddwn yn dibynnu ar eich caniatâd i roi diweddariadau i chi a chadw eich manylion yn ein cronfa ddata tanysgrifiadau cyfrif;

Byddwn yn dibynnu ar ein diddordeb cyfreithlon mewn hyrwyddo ein cynhyrchion a’n gwasanaethau i ddarparu gwybodaeth arall a allai fod o ddiddordeb i chi.

 

Am ba mor hir ydym yn cadw'r wybodaeth bersonol a pham

Bydd data sy’n cael eu casglu ar gyfer eich Cyfrif Citbag yn cael eu cadw gan Chwaraeon Cymru am oes y rhaglen.

 

Canlyniadau peidio â darparu/caniatáu i ni gael gwybodaeth bersonol

Heb eich manylion cyswllt, ni fyddwn yn gallu darparu cyfrif i chi ar gyfer y gwasanaeth;

Gallwch optio allan o dderbyn gwybodaeth berthnasol gennym bob tro y byddwn yn cysylltu â chi wedyn.