Skip to main content
  1. Hafan
  2. Beth yw Chwaraeon Cymru?

Beth yw Chwaraeon Cymru?

NI YW CHWARAEON CYMRU. 

 

Rydyn ni eisiau gweld cenedl iachach a mwy actif. Rydyn ni eisiau i bob person ifanc gael cychwyn gwych mewn bywyd fel eu bod yn gallu mynd ymlaen i fwynhau oes o chwaraeon. 

Ni yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.

Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar gyfer popeth yn ymwneud â chwaraeon ac rydyn ni’n cefnogi ei strategaethau, Dringo’n Uwch a Creu Cymru Egnïol.

Rydyn ni hefyd yn dosbarthu grantiau’r Loteri Genedlaethol i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu. Rydyn ni’n buddsoddi mewn chwaraeon ar lawr gwlad drwy ein cynllun grantiau bychain – y Gist Gymunedol – a’r Grantiau Datblygu mwy.

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r gefnogaeth ofynnol i’n hathletwyr mwyaf addawol, fel sydd ei angen i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Gweithio mewn partneriaeth

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â nifer o wahanol sefydliadau sy’n cyflwyno ac yn datblygu chwaraeon ledled Cymru.

Mae darparu ein Gweledigaeth ar gyfer y sector cyfan yn golygu bod rhaid i ni herio a chefnogi ein partneriaid yn briodol i sicrhau bod pob ceiniog o arian cyhoeddus yn cael yr effaith orau bosib. Mae ein partneriaid yn cael eu hannog i fod yn arloesol ac yn uchelgeisiol ac mae ein staff wrth law i’w helpu i gyflawni eu potensial.  

Ble rydyn ni wedi ein lleoli?

Mae gennym tua 160 o staff ledled Cymru gyda’n prif swyddfa yng Nghaerdydd a swyddfeydd rhanbarthol ar Lannau Dyfrdwy ac yng Nghaernarfon. I gysylltu ag unrhyw un o’n swyddfeydd, cysylltwch â ni..

Ble rydyn ni wedi ein lleoli?

Mae gennym tua 160 o staff ledled Cymru gyda’n prif swyddfa yng Nghaerdydd a swyddfeydd rhanbarthol ar Lannau Dyfrdwy ac yng Nghaernarfon. I gysylltu ag unrhyw un o’n swyddfeydd, cysylltwch â ni.

Bwrdd Chwaraeon Cymru

Mae ein Bwrdd yn amrywiol, gan geisio adlewyrchu’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu, ac mae’n dod â chyfoeth o brofiad o weithio gyda chymunedau sy’n tangyfranogi ac athletwyr elitaidd. Mae’n cynnwys unigolion o wahanol sectorau, gan gynnwys addysg, iechyd, busnes a chwaraeon wrth gwrs. Mae mwy o wybodaeth am ein Bwrdd ar gael drwy ddarllen ein tudalen Aelodau’r Bwrdd.

 

Tîm Gweithredol Chwaraeon Cymru

Mae'r tîm Gweithredol yn gyfrifol am weithredu ein strategaeth a'n cynllun busnes, yn ogystal ag elfennau amrywiol rhyngweithio a datblygu sefydliadol y Llywodraeth:

Prif Weithredwr dros dro - Brian Davies

Cyfarwyddwr Gwybodaeth am Chwaraeon a Datblygu Gwasanaethau - Graham Williams

Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes - Emma Wilkins

Cyfarwyddwyr Dros Dro y System Chwaraeon – Jo Nicholas and Owen Lewis

Siarter Brenhinol

Sefydlwyd Chwaraeon Cymru gan Siarter Brenhinol ar 4 Chwefror 1972 gyda’r nod o “feithrin gwybodaeth ac arfer chwaraeon a hamdden gorfforol ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru a darparu cyfleusterau ar gyfer hynny”.