Pwy yw aelodau'r bwrdd?
Mae ein Bwrdd yn cynnwys unigolion profiadol iawn o bob cefndir, gan gynnwys addysg, iechyd, busnes ac, wrth gwrs, chwaraeon.
Cadeirydd - Y Farwnes Tanni Grey-Thompson DBE, DL
Dechreuodd tymor Tanni yn ei swydd fel Cadeirydd Chwaraeon Cymru ym mis Gorffennaf 2022. Cafodd Tanni lwyddiannau aruthrol fel athletwraig yn torri recordiau Byd a Pharalympaidd rhwng 1988 a 2004. Ers 2010 mae Tanni wedi gwasanaethu fel un o'r Arglwyddi Annibynnol ar y Meinciau Croes yn Nhŷ’r Arglwyddi ac mae’n aelod o Grwpiau Seneddol Hollbleidiol amrywiol, ac yn trafod amrywiaeth o faterion gan gynnwys Hygyrchedd, Hunanladdiad â Chymorth, Cydraddoldeb, Diwygio Lles a Chwaraeon.
Is - Gadeirydd - Pippa Britton OBE
Mae Pippa wedi ennill medal Baralympaidd ddwywaith ac yn gyn Gadeirydd Chwaraeon Anabledd Cymru. Bu'n cystadlu fel rhan o dimau saethyddiaeth Cymru a Phrydain am 15 mlynedd gan ennill lle ar y podiwm mewn 6 Pencampwriaeth y Byd a 24 o ddigwyddiadau rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae'n cyfrannu at sefydliadau o fewn a thu hwnt i’r byd chwaraeon i sicrhau mwy o gynhwysiant, gwella tegwch a chynyddu ymwybyddiaeth o anabledd.
Mae hi’n aelod o'r Pwyllgor Anrhydeddau Chwaraeon, Bwrdd Atal Dopio'r DU (UKAD), Bwrdd Cymdeithas Baralympaidd Prydain a'r Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol, yn ogystal â bod yr aelod para-saethyddiaeth cyntaf o bwyllgor athletwyr World Archery. Mae'n un o gynfyfyrwyr Rhaglen Arweinyddiaeth Ryngwladol Chwaraeon y DU a chyn hynny roedd yn aelod o Fwrdd Saethyddiaeth Prydain.
Ashok Ahir
Mae gan Ashok gefndir helaeth mewn cyfathrebu, y cyfryngau a gweinyddiaeth gyhoeddus. Ef yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cymwysterau Cymru, mae'n Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Gadeirydd yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae wedi gweithio fel uwch arweinydd yng Ngwasanaeth Sifil y DU ac i’r BBC. Hefyd sefydlodd asiantaeth gyfathrebu lwyddiannus a oedd yn gweithio ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.
Ian Bancroft
Yn 2018 penodwyd Ian yn Brif Weithredwr Cyngor Wrecsam. Cyn hyn, roedd yn Gyfarwyddwr Perthnasoedd Rhanbarthol gyda Knowsley MBC, yn Gyfarwyddwr Gweithredol gydag Ymddiriedolaeth Hamdden a Diwylliant Wigan, yn Brif Swyddog Polisi gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn Rheolwr Strategaeth ar gyfer Adran Gwasanaethau Hamdden Cyngor Dinas Nottingham.
Arferai fod yn aelod bwrdd o Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer y Gogledd Orllewin hefyd.
Alison Thorne
Mae Alison Thorne yn Gadeirydd, yn Gyfarwyddwr Anweithredol, yn Ymddiriedolwr ac yn aelod Pwyllgor ynghyd â sylfaenydd atconnect, sef Cwmni datblygu busnes a phobl.
Roedd gan Alison yrfa fyd-eang gorfforaethol ym maes manwerthu, gan ddal swyddogaethau ar fwrdd gweithredol Mothercare, George at Asda ac Otto UK gyda swyddogaethau arwain gweithredol gyda Kingfisher a Storehouse yn arbenigo mewn Gweithrediadau, Prynu, Nwyddau Marchnata a Ffynonellau. Wedyn datblygodd ei gyrfa gan symud i chwilio Gweithredol fel partner mewn cwmni chwilio bwtîc, cyn sefydlu ‘atconnect’.
Mae Alison hefyd wedi datblygu gyrfa Anweithredol, fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Thought Provoking Consulting yn flaenorol, ac ymddiriedolwr gyda Tropical Forest Trust (rheoli coedwigoedd cynaliadwy) ac ymddiriedolwr ac wedyn Cadeirydd gyda Chwarae Teg (elusen cydraddoldeb flaenllaw yng Nghymru) ac fel aelod o’u Pwyllgor Cyllid a Risg ac wedyn y Grŵp Arloesi Masnachol.
Mae Alison wedi’i phenodi’n ddiweddar fel Llywodraethwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn Aelod Panel Arbennig ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus i Lywodraeth Cymru. Hi hefyd yw Arweinydd Cymru ar gyfer Merched ar Fyrddau.
Fel aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru mae Alison yn ymwneud â phwyllgorau’r Bwrdd ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Archwilio a Sicrwydd Risg, a’r Adolygiad o Gyfleusterau (y mae’n ei gadeirio).
Judi Rhys MBE
Mae gan Judi gefndir ym maes iechyd, addysg a lles cymdeithasol ac i ddechrau roedd yn gweithio i'r GIG fel Arbenigwr Hybu Iechyd yng Nghymoedd De Cymru. Roedd hi'n rheolwr staff academaidd gyda'r Brifysgol Agored ac ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn symud i'r trydydd sector.
Ar hyn o bryd mae Judi yn Brif Weithredwr Gofal Canser Tenovus, ac mae wedi dal swyddi Prif Swyddog Gweithredol blaenorol gyda Gofal Arthritis ac Ymddiriedolaeth Afu Prydain. Mae Judi yn gyfarwyddwr anweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru (dod i ben ym mis Mawrth 2022), yn Uwch Aelod Annibynnol o'r Panel ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru ac mae hefyd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr y Gymdeithas Alzheimer. Dyfarnwyd MBE i Judi yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2021 am ei gwaith yn y sector gwirfoddol. Cafodd ei geni a'i magu yn ne Cymru ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Yr Athro Leigh Robinson
Mae'r Athro Leigh Robinson yn Uwch Ymgynghorydd ar gyfer y sector AU. Mae ganddi enw da yn fyd-eang am ei hymchwil ac am gyfnewid gwybodaeth yn natblygiad mantais gystadleuol a llywodraethu mewn gwledydd chwaraeon sy'n datblygu. Mae hi wedi gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau, fel y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, Cymdeithas Olympaidd Prydain, Pwyllgor Olympaidd Trinidad a Tobago a Llywodraeth Malaysia, gan ddarparu hyfforddiant rheoli llywodraethu ac ymgynghoriaeth. Mae hi'n aelod o rwydwaith MEMOS, rhwydwaith byd-eang o academyddion sy'n gyfrifol am gyflwyno addysg rheolaeth weithredol ar ran y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. Mae Leigh wedi bod yn aelod o Fwrdd Gemau'r Gymanwlad yr Alban a Sportscotland, ac mae'n gynghorydd i Olympic Solidarity, Comisiwn Addysg y Pwyllgor Olympaidd, ar gyfer ei raglenni addysg reoli.
Martin Veale YH
Wedi’i eni a’i fagu yng Nglynebwy, mae gan Martin radd mewn cyllid ac MSc mewn rheoli archwilio. Mae’n gyfrifydd ac yn archwilydd cymwysedig gyda mwy na 35 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae ei yrfa cyllid, archwilio, risg a llywodraethu corfforaethol yn cwmpasu llywodraeth leol, y GIG a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys bod yn gyfarwyddwr cyllid gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru a Phennaeth Archwilio a Risg gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.
Ar hyn o bryd mae Martin yn aelod bwrdd gydag Ymddiriedolaeth y GIG Prifysgol Felindre, ac yn is gadeirydd Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd. Mae hefyd yn aelod o bwyllgorau llywodraethu, archwilio a risg yng nghyfarwyddiaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, cynghorau Sir Benfro a Blaenau Gwent, tai Hafod, a Heddlu De Cymru, yn ogystal â sawl pwyllgor safonau.
Mae Martin yn gwasanaethu fel ynad yn rhanbarth Canolbarth Cymru, ac mae hefyd yn llywodraethwr yng Ngholeg Gwent, ac yn llywodraethwr yn ysgol uwchradd ei ferch ym Mhontypridd. Mae bellach yn byw ym Mhontypridd gyda'i wraig a'i ferch. Mae’n gefnogwr rygbi Glyn Ebwy a chriced Morgannwg.
Phil Tilley
Mae gan Phil fwy nag 20 mlynedd o brofiad o farchnata technoleg yn fyd-eang. Mae wedi ymwneud â datblygu achosion busnes technoleg newydd ar gyfer darparwyr gwasanaethau telegyfathrebu mwyaf y byd. Hefyd mae wedi arwain timau byd-eang mewn marchnadoedd hynod gystadleuol a chynrychioli cwmnïau mewn fforymau a chynadleddau. Mae’n forwr oes ers cael cyfle yn yr ysgol ac mae’n gweithio’n agos â’r corff rheoli cenedlaethol er mwyn helpu i ddatblygu cyfranogiad yn y gamp. Mae’n ymddiriedolwr ar gyfer All_Afloat Wales, elusen a sefydlwyd yng Nghymru i helpu i wneud yn siŵr bod hwylio ar gael i unrhyw un agos at ddŵr. Mae wedi bod yn gadeirydd y dewiswyr ar gyfer rasio ieuenctid y DU ac roedd ar bwyllgor rasio ieuenctid y DU a phwyllgor perfformiad RYA Cymru Wales. Mae’n briod gyda thair merch ac yn byw yn Sir Fynwy. Mae hefyd yn driathletwr brwd ac fe welwch chi Phil yn aml yn beicio, rhedeg neu nofio, gan annog eraill i gymryd rhan a mwynhau cefn gwlad Cymru.
Rajma Begum
Mae angerdd ac ymroddiad Rajma i weithio ym maes cydraddoldeb chwaraeon yn deillio o brofiadau personol negyddol a rhwystrau mewn chwaraeon o oedran ifanc. Nawr, gan weithio’n agos gyda phartneriaid eraill ar draws y sbectrwm o gydraddoldeb ac amrywiaeth, cenhadaeth Rajma yw sicrhau bod pobgweithgaredd chwaraeon a chorfforol yn hygyrch a chroesawgar i bob adran o'r gymuned.
Mae gan Rajma fwy na 10 mlynedd o brofiad ym maes Rheoli Prosiectau ac ar hyn o bryd hi yw'r Arweinydd Strategol ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (Hil) mewn Chwaraeon ledled Cymru – yn cael ei chyflogi gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Mae hi wedi sefydlu Fforwm Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol DLlE cyntaf Cymru a Fforwm Chwaraeon Merched a Genethod yng Nghymru yn ogystal â chyflwyno'r gynhadledd gyntaf yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar gymunedau Lleiafrifoedd Ethnig mewn chwaraeon.
Mae Rajma wedi ennill gwobr am ei chyfraniad eithriadol at Chwaraeon, y Celfyddydau a Diwylliant yng Ngwobrau Cymdeithas Cyflawniadau Merched Lleiafrifoedd Ethnig Cymru (EMWWAA) 2021. Mae gan Rajma angerdd dwfn dros hawliau merched, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae wedi bod yn Gadeirydd Women Connect First am y saith mlynedd diwethaf. Mae Rajma yn hoffi pob math o chwaraeon ac yn cymryd rhan mewn nofio, beicio, cerdded (gan gynnwys yr Wyddfa) a chwblhaodd Hanner Marathon Caerdydd yn 2018.
Dafydd Trystan Davies
Mae gan Dafydd brofiad helaeth o arwain a chyflawni ym maes rheoli sefydliadau. Mae'n Gofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn arwain y gwaith ym maes Addysg Bellach, Prentisiaethau a’r Gwyddorau Iechyd. Mae’n Gadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Cymru. Fe yw sylfaenydd ac arweinydd (LiRF) grŵp rhedeg amlddiwylliannol ac amlieithog, Run Grangetown; ac yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Hamadryad. Bu’n Gadeirydd a Phrif Weithredwr Plaid Cymru yn gyfrifol am reoli'r tîm o staff, y gyllideb a gweithredu'r strategaeth wleidyddol. Mae Dafydd wedi bod yn Gadeirydd y Fenter Gymdeithasol arobryn sy'n Cardiff Cycle Workshop, sy'n ailgylchu mwy na 500 o feiciau'r flwyddyn, ac mae’n un o Gyfarwyddwyr TooGoodToWaste, sy'n ailgylchu ac ailddefnyddio cannoedd o dunelli o ddodrefn y cartref, gan helpu dwsinau o bobl i gael gwaith bob blwyddyn.
Hannah Bruce
Graddiodd Hannah o Brifysgolion Durham a Chaerdydd, gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf Gwleidyddiaeth a Ffrangeg, a Gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth Ewropeaidd, a dechreuodd ei gyrfa yng Ngwasanaeth Sifil y DU, lle y cyflawnodd nifer o rolau gweithredol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yn yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau gynt. Symudodd Hannah i'r amgylchedd gwleidyddol, gan ddechrau fel ymchwilydd i Weinidog yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, cyn symud ymlaen i fod yn Uwch Gynghorydd Gwleidyddol iddo.
Mae Hannah hefyd yn Ymddiriedolwr etholedig ar gyfer y Gymdeithas Spondyloarthritis Axial Genedlaethol - elusen sy'n gweithio i drawsnewid diagnosis a gofal pobl sy'n byw gydag Axial SpA.
Delyth Evans
Ar hyn o bryd, mae Delyth yn gweithio fel ymgynghorydd llawrydd ym maes polisi cyhoeddus. Cyn hynny, bu'n Gadeirydd a chyfarwyddwr anweithredolVolunteer Space, sef cwmni cychwyn technoleg sy'n datblygu llwyfannau digidol ar gyfer gwirfoddoli yn y sector elusennol a chorfforaethol. Roedd Delyth yn Aelod o Gynulliad Cymru, a chafodd ei phenodi'n Ddirprwy Weinidog Diwylliant, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a chyn hynny gweithiodd fel newyddiadurwr newyddion a materion cyfoes i'r BBC ac ITV, gan ddarparu adroddiadau darlledu helaeth iHTV WalesaSky News. Mae rolau gwirfoddol blaenorol Delyth yn cynnwys Aelod o Fwrdd Asiantaeth Ffilm Cymru ac YmddiriedolwrUnited Response(elusen anableddau dysgu sy'n gweithredu ledled y DU).
Nicola Mead-Batten
Mae Nicola yn bartner yng nghwmni cyfreithiol TLT LLP, sy'n arbenigo mewn cyfraith gyhoeddus a materion rheoleiddio ac adolygiad barnwrol. Mae Nicola wedi bod yn gynghorydd dibynadwy i sefydliadau fel Cymdeithas Feddygol Prydain, UK Anti-Doping, y Comisiwn Gamblo, Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, yn ogystal â'i rheoleiddiwr ei hun, yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.