Skip to main content

Rhyddid Gwybodaeth

  1. Hafan
  2. Rhyddid Gwybodaeth

Deddf Rhyddid Gwybodaeth   

Daeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i rym ym mis Ionawr 2005. Mae’n rhoi i’r cyhoedd hawl i fynediad at wybodaeth sydd gan awdurdodau cyhoeddus, yn amodol ar rai eithriadau.   

Gall unrhyw berson wneud cais am wybodaeth yn ysgrifenedig gan Chwaraeon Cymru. Rhaid i ni ddarparu ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith: 

• darparu’r wybodaeth y gwneir cais amdani; neu
• cadarnhau bod yr wybodaeth gennym, ond na allwn ei rhyddhau am ei bod yn dod o dan eithriad o dan y Ddeddf, gan gynnwys esboniad llawn ynghylch hynny; neu              
• gwadu bod gennym ni’r wybodaeth.   

Os yw ymholiad yn aneglur neu’n gyffredinol iawn, bydd Chwaraeon Cymru yn cysylltu â’r ymholwr i gael esboniad o’r cais; bydd yr 20 diwrnod yn dechrau ar ôl derbyn esboniad. 

Os ydych yn dymuno cael gwybod mwy am Ryddid Gwybodaeth, ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

 

 

Gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth                

Rydym yn darparu llawer iawn o wybodaeth ar y wefan yma. Cyn gwneud cais am wybodaeth, gwiriwch nad yw ar gael eisoes yn hwylus.          

Rydym yn creu rhestr o gyhoeddiadau allweddol sydd ar gael ar y wefan yma.  

Gellir cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth ar e-bost:

[javascript protected email address]  

Fel dewis arall, gallwch ysgrifennu at:

Chwaraeon Cymru

Gerddi Sophia  

Caerdydd

CF11 9SW