Skip to main content
  1. Hafan
  2. Ein Cyfleusterau

Ein Cyfleusterau

Mae Chwaraeon Cymru yn gweithredu ac yn berchen ar y ddwy ganolfan genedlaethol yng Nghymru – un yn y gogledd ac un yn y de.

Gogledd Cymru yw cartref Plas Menai, y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae mewn lleoliad perffaith ar gyfer antur awyr agored wedi’i lleoli ar lan Afon Menai, ar safle hwylus rhwng Bangor a Chaernarfon ar arfordir Gogledd Cymru. Mae’r Ganolfan yn agos at Barc Cenedlaethol Eryri ac mae’n edrych draw am Ynys Môn ar draws y Fenai.

Wedi’i lleoli yng Ngerddi Sophia, mae’r Ganolfan Genedlaethol yng Nghaerdydd yn gartref i Chwaraeon Cymru.

Yn hwb ar gyfer perfformiad uchel a chwaraen cymunedol, mae gan y ganolfan wasanaethau a chyfleusterau ar gyfer athletwyr gorau Cymru, swyddfeydd ar gyfer cyrff rheoli cenedlaethol ac amrywiaeth o gyfleusterau mynediad cyhoeddus.

Newyddion Diweddaraf

Sut mae ariannu torfol wedi helpu Clwb Dyffryn Boxing i godi £20,000 i drwsio ei gampfa?

Roedd Clwb Bocsio Dyffryn ym Mae Colwyn mewn sefyllfa ddifrifol ac roedd difäwr angen gwaith adnewyddu…

Darllen Mwy

Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feicwyr amrywiol

Cyfweliad gyda Vera Ngosi-SambrookI nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2023, fe gawsom ni sgwrs gyda…

Darllen Mwy

Hwylio mlaen at chwaraeon cynaliadwy

Mae’r Gymdeithas Hwylio Frenhinol yng Nghymru wedi mynd ati i ddod o hyd i un ateb ar gyfer lleihau…

Darllen Mwy