Os ydych chi’n chwilio am antur awyr agored, mae gan Blas Menai bopeth. Dyma’r Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ar gyfer Cymru ac mae ar lan Afon Menai yng Ngogledd Cymru.
Ei chenhadaeth yw datgloi pŵer antur. Ac mae’n gwneud hynny.
Mae’n cynnig dyddiau gweithgarwch llawn antur, clybiau gweithgarwch antur dros y penwythnos a gwersylloedd gwyliau antur ar gyfer ieuenctid 8 i 17 oed. Mae’n agor ei drysau i ysgolion, grwpiau a staff meithrin tîm corfforaethol.
Yn eiddo i Chwaraeon Cymru ac yn cael ei gweithredu ganddo, mae staff y ganolfan yn hynod gymwys a dyma’r bobl yn y diwydiant awyr agored i’w holi am gyngor a gwybodaeth. A dweud y gwir, nhw sy’n hyfforddi’r hyfforddwyr.
Fel canolfan hyfforddi gydnabyddedig gan yr RYA a BCU, mae Plas Menai yn cynnig amrywiaeth o As a recognised RYA and BCU training centre, Plas Menai offers a range of gyrsiau technegol a hyfforddiant hyfforddwyr mewn hwylio dingi, gwyntsyrffio, gyrru cychod pŵer, morio a chaiacio. Prif hyfforddiant y ganolfan yw’r cwrs Hyffoddwr Aml-Chwaraeon Dŵr 16 wythnos a 22 wythnos 16 week and 22-week,sy’n berffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau torri i mewn i’r diwydiant awyr agored.
Mae cyrsiau hyfforddi achub o ddŵr ar gael drwy gydol y flwyddyn, yn addas ar gyfer sefydliadau sydd â chyflogeion yn gweithio mewn dŵr neu yn ei ymyl.
Gellir creu hyfforddiant preifat, cyrsiau pwrpasol a phecynnau gweithgarwch arbennig ar eich cyfer chi. Cysylltwch!