Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Adran 3 - Cwsmeriaid ein Canolfannau Chwaraeon

Adran 3 - Cwsmeriaid ein Canolfannau Chwaraeon

AELODAU EIN CANOLFANNAU 

Pa wybodaeth bersonol fyddwn ni’n ei defnyddio     

  • Eichenw;
  • Eichcyfeiriad;
  • Eich cyfeiriad e-bost;
  • Eich rhif ffôn;
  • Eich dyddiad geni;
  • Enw a dyddiad geni unrhyw aelodau o’r teulu neu drefniant aelodaeth teulu;         
  • Manylion banc; 
  • Gwybodaeth am unrhyw gyflyrau meddygol neu iechyd sydd wedi’u datgan; 
  • Manylion am y rheswm dros unrhyw ganslo ar eich aelodaeth.     

 

Sut byddwn yn sicrhau’r wybodaeth bersonol          

Cael ei darparu gennych chi pan fyddwch yn gwneud cais am aelodaeth neu’n defnyddio cyfleusterau ffitrwydd. 

At ba ddiben rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol        

Byddwn yn defnyddio eich enw, eich cyfeiriada manylion cyswllt eraill i weinyddu eich aelodaeth;

Byddwn yn defnyddio eich manylion banc i gymryd taliad am eich aelodaeth neu ddefnyddio cyfleusterau ffitrwydd;

Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth sydd wedi’i datgan am eich iechyd/cyflyrau meddygol i asesu eich addasrwydd i gymryd rhan mewn ymarfer ac i weithredu unrhyw ragofalon i sicrhau bod eich defnydd o’r cyfleusterau ffitrwydd mor ddiogel â sy’n rhesymol bosib;                           

Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych chi fel rheswm dros ganslo unrhyw aelodaeth i’n helpu i wella eingwasanaethau.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu rydym yn dibynnu arni         

Mae ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol ar gyfer gweinyddu aelodaeth yn angenrheidiol i gyflawni’r contract rhyngom;

Mae ein defnydd o’ch manylion cyfrif banc ar gyfer talu aelodaeth yn angenrheidiol i gyflawni’r contract rhyngom;

Bydd ein defnydd o’ch gwybodaeth iechyd/meddygol yn seiliedig ar y ffaith eich bod wedi rhoi eich caniatâd penodol i ni i ddefnyddio’rwybodaeth;

Bydd ein defnydd o’r wybodaeth rydych yn ei darparu ar y ffurflen ganslo’n seiliedig ar ein budd dilys o ran defnyddio adborth i wella ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. 

Am faint o amser rydym yn cadw’r wybodaeth bersonol a pham

Dim ond am hyd eich aelodaeth fyddwn yn cadw eich manylion banc.             

Fel rheol byddwn yn cadw cofnodion am eich aelodaeth am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl i’ch aelodaeth ddod i ben rhag ofn y bydd unrhyw anghydfod cytundebol neu hawliadau. 

Canlyniadau peidio â darparu/caniatáu i ni sicrhau gwybodaeth bersonol

Heb eich enw, eich manylion cyswllt a’ch gwybodaeth dalu ni fyddwn yn gallu prosesu eich aelodaeth ac ni fyddwch yn gallu dod yn aelod yn unrhyw un o’n canolfannau ni.                           

UNIGOLION SY’N AROS YN UN O’N CANOLFANNAU NEU’N CYMRYD RHAN MEWN CWRS NEU WEITHGAREDD             

Pa wybodaeth bersonol fyddwn ni’n ei defnyddio     

Eichenw;

Eichcyfeiriad;

Eich manylion cyswllt (fel eich rhif ffôn a/neu gyfeiriad e-bost);

Rhif cofrestru eich car;               

Manylion cyswllt mewn argyfwng; 

Dyddiadau eich arhosiad; 

Manylion y cwrs neu’r gweithgaredd y cymerwyd rhan ynddo;

Manylion talu (cerdyn debyd neu gredyd).

Gwybodaeth am unrhyw gyflyrau meddygol neu iechyd sydd wedi’u datgan;                           

Sut byddwn yn sicrhau’r wybodaeth bersonol         

Mae’r wybodaeth rydym yn ei defnyddio’n cael ei darparu gennych chi pan fyddwch yn gwneud archeb a/neu’n cofrestru ar gyfer cwrs neu weithgaredd. 

At ba ddiben rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol        

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol i gysylltu â chi ynghylch eich arhosiad neu gwrs/gweithgaredd ac at ddibenion gweinyddol; 

Byddwn yn defnyddio’r manylion cyswllt mewn argyfwng i gysylltu â’ch cyswllt mewn argyfwng os bydd digwyddiad, salwch neu anaf; 

Byddwn yn defnyddio’r manylion talu sydd wedi’u darparu i gymryd taliad am yr arhosiad/cwrs/gweithgaredd. 

Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni                                                     

Mae ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion gweinyddu ac i gymryd taliad yn angenrheidiol i gyflawni’r contract rhyngom.

Mae ein defnydd o’ch manylion cyswllt mewn argyfwng ac unrhyw broblemau iechyd rydych wedi’u rhannu gyda ni’n seiliedig ar yr angen am eich cadw chi’n ddiogel a sicrhau y gallwn sicrhau cyfarwyddyd y bobl sydd wedi’u henwebu gennych chi mewn achos o salwch neu anaf.                     

Am faint o amser rydym yn cadw’r wybodaeth bersonol a pham          

Ni fyddwn yn storio manylion eich cerdyn credyd/debyd, dim ond defnyddio’r wybodaeth i sicrhau taliad. 

Fel rheol rydym yn cadw cofnodion am eich arhosiad/cwrs/gweithgaredd am gyfnod o chwe blynedd ar ôl eich ymweliad rhag ofn y bydd unrhyw anghydfod cytundebol neu hawliadau. 

Canlyniadau peidio â darparu/caniatáu i ni sicrhau gwybodaeth bersonol          

Heb eich enw, eich manylion cyswllt a’ch gwybodaeth dalu, ni fyddwch yn gallu aros yn un o’n canolfannau ni na chymryd rhan yn y gweithgaredd/cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo.