Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r canlynol:
- Aelodau ein canolfannau;
- Unigolion sy’n aros yn un o’n canolfannau neu’n cymryd rhan mewn cwrs neu weithgaredd;
- Unigolion sy’n ymwneud â chymdeithasau chwaraeon a chlybiau chwaraeon;
- Unigolion sy’n defnyddio ein gwefan;
- Unigolion sy’n prynu nwyddau ar ein gwefan;
- Unigolion sy’n gwneud cais am grantiau;
- Unigolion sy’n cael sylw yn ein erthyglau a/neu gylchlythyrau;
- Unigolion sy’n cysylltu â ni gydag ymholiad neu gŵyn;
- Unigolion sydd wedi’u cofnodi ar ein system CCTV;
- Unigolion sy’n tanysgrifio i’n cylchlythyrau/diweddariadau;
- Unigolion sy’n gweithio gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol;
- Unigolion sy’n cymryd rhan yn un o’n harolygon neu ein holiaduron;
Yn yr adrannau isod, wrth gyfeirio at yr unigolion a restrir uchod, rydym yn defnyddio’r termau “chi” neu “eich”.
Ein Dull o Weithredu gyda Phreifatrwydd
Mae eich preifatrwydd chi’n eithriadol bwysig i ni ac rydym eisiau i chi deimlo’n hyderus bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel yn ein dwylo.
Dim ond yn unol â’r gyfraith diogelu data sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr o dro i dro y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
O dan y gyfraith diogelu data, pan rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn gweithredu fel rheolydd data. Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu y byddwn yn gwneud penderfyniadau am sut rydym eisiau defnyddio eich gwybodaeth bersonol a pham.
Isod, rydym yn crynhoi’r prif reolau sy’n berthnasol i ni o dan y gyfraith diogelu data pan rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol:
1. | Rhaid i ni roi gwybod ymlaen llaw am sut rydym yn bwriadu defnyddio eich gwybodaeth bersonol a rhaid i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn deg. Mae darparu gwybodaeth am breifatrwydd i unigolion (fel yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn) yn un agwedd ar ddefnyddio gwybodaeth bersonol yn deg. |
2. | Ni ddylem ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol oni bai fod gennymsail gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny o dan y gyfraith diogelu data. Mae’r sail gyfreithiol hon yn cynnwys y canlynol:
|
3. | Ni ddylem ddefnyddio mathau penodol o wybodaeth bersonol sensitif (fel gwybodaeth berthnasol i’ch iechyd, tarddiad o ran hil neu ethnig neu grefydd) oni bai ein bod hefyd yn gallu bodloni un o’r amodau ar gyfer prosesu’r math yma o wybodaeth sydd wedi’i datgan yn ygyfraith diogelu data. Mae’r amodau hyn yn cynnwys y canlynol:
|
4. | Dim ond o dan rai amgylchiadau y gallwn rannu eich gwybodaeth bersonol gydag eraill, ac os byddwn yn cymryd camau i sicrhau y bydd eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. |
5. | Yn gyffredinol, dim ond at y dibenion penodol yr ydym wedi dweud wrthych chi amdanynt ddylem ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. Os ydym eisiau defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion eraill, rhaid i ni gysylltu â chi eto i ddweud wrthych am hyn. |
6. | Ni ddylem gadw mwy o wybodaeth bersonol na sydd angen at y dibenion rydym wedi dweud wrthych amdanynt ac ni ddylem gadw eich gwybodaeth bersonol am fwy na sydd raid at y dibenion hynny (mae hwn yn cael ei alw’n “gyfnod cadw”). Rhaid i ni hefyd gael gwared yn ddiogel ar unrhyw wybodaeth nad oes arnom ei hangen mwyach. |
7. | Rhaid i ni sicrhau bod gennym fesurau diogelwch priodol yn eu lle i warchod eich gwybodaeth bersonol. |
8. | Rhaid i ni weithredu yn unol â’ch hawliau o dan y gyfraith diogelu data. |
9. | Ni ddylem drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop (“AEE”) oni bai fod rhai mesurau diogelu penodol yn eu lle. Un mesur diogelu o’r fath yw [dim ond i wlad sydd wedi cael ei chymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd fel un sydd â lefel dderbyniol o gyfraith diogelu data y caiff ydata personol eu trosglwyddo]. |
Cysylltu â ni ar Gyfryngau Cymdeithasol
Bydd unrhyw negeseuon neu sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol rydych yn eu hanfon atom (ar dudalen Facebook Chwaraeon Cymru, er enghraifft) yn cael eu rhannu o dan delerau’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol perthnasol (e.e.Facebook, Twitter, Instagram) y maent yn cael eu hysgrifennu arno a gallant gael eu gwneud yn gyhoeddus. Pobl eraill, nid ni, sy’n rheoli’r llwyfannau hyn. Nid ydym yn gyfrifol am y math yma o rannu.
Cyn i chi wneud unrhyw sylwadau am unrhyw beth, dylech adolygu telerau ac amodau a pholisïau preifatrwydd y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol rydych yn eu defnyddio. Wedyn byddwch yn deall sut byddant yn defnyddio eich gwybodaeth, pa wybodaeth sy’n berthnasol i chi fyddant yn ei gwneud yn gyhoeddus, a sut gallwch chi eu hatal rhag gwneud hynny os ydych yn anhapus am y peth.
Pryd byddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag eraill?
Weithiau, bydd rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill. Mae’r adran hon yn nodi manylion am bwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda hwy a pham. Mae hefyd yn dweud wrthych am ein sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny o dan y gyfraith diogelu data a’r camau y byddwn yn eu cymryd i warchod eich gwybodaeth bersonol.
Ni fyddwn yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol ymlaen i unrhyw drydydd parti.
Ein Partneriaid Gwasanaethu
Pwy yw ein partneriaid gwasanaethu? | Mae ein partneriaid gwasanaethu’n cynnwys y canlynol:
Nid ydym wedi cynnwys enwau ein partneriaid gwasanaethu yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn oherwydd byddant yn newid o dro i dro. Fodd bynnag, os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’n darparwyr gwasanaethu cyfredol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion ar dudalen34 y ddogfen hon. |
Pam mae’n rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol â hwy | Rydym yn defnyddio’r partneriaid gwasanaethu a ddisgrifir uchod i alluogi i ni gyflawni ein contractau gyda chi. |
Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni wrth rannu eich gwybodaeth bersonol | Mae rhannu eich data personol â chyflenwyr ac is-gontractwyr yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein contract gyda chi. |
Pa ragofalon ydym yn eu rhoi ar waith? | Rydym yn llunio contractau gyda’n darparwyr gwasanaethu sy’n gofyn iddynt roi mesurau diogelwch priodol yn eu lle ac sy’n cyfyngu ar eu defnydd o’ch gwybodaeth bersonol. |
Ein Partneriaid Marchnata
Pwy yw ein partneriaid marchnata | Mae ein partneriaid marchnata’n asiantaethau marchnata rydym yn eu defnyddio i greu a/neu ddarparu hysbysebion a deunyddiau hyrwyddo eraill ar ein rhan.
Nid ydym wedi cynnwys enwau ein partneriaid marchnata yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn oherwydd byddant yn newid o dro i dro. Fodd bynnag, os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’n partneriaid marchnata cyfredol, cysylltwch â ni. |
Pam mae’n rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol â hwy | Efallai y bydd rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol gyda’n partneriaid marchnata os byddwn yn gofyn iddynt greu deunyddiau marchnata ar eich cyfer chi neu gysylltu â chi gyda marchnata uniongyrchol ar ein rhan. |
Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni wrth rannu eich gwybodaeth bersonol | Byddwn naill ai’n dibynnu ar eich caniatâd penodol neu ein buddiannau dilys wrth ddatblygu ac ehangu ein busnes. |
Pa ragofalon ydym yn eu rhoi ar waith? | Rydym yn llunio contractau gyda’n partneriaid marchnata sy’n gofyn iddynt roi mesurau diogelwch priodol yn eu lle ac sy’n cyfyngu ar eu defnydd o’ch gwybodaeth bersonol.
|
Darparwyr Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth
Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol? | Cyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gwybodaeth fel Cyflenwyr Meddalwedd Gyfrifiadurol a Darparwyr Storio ar y Cwmwl (gan gynnwys darparwyr rhaglenni a gynhelir a Meddalwedd fel Darparwyr Gwasanaethau).
Nid ydym wedi cynnwys enwau ein darparwyr TG/ Gwasanaethau ar y Cwmwl yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn oherwydd byddant yn newid o dro i dro. |
Pam mae’n rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol â darparwyr o’r fath | Rydym yn defnyddio cyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gwybodaeth mewn perthynas â chyflenwi, cynnal a chadw a/neu wella ein rhwydwaith TG a chreu, datblygu, cynnal a chadw ein gwefan.
Rydym yn defnyddio darparwyr storio ar y cwmwl i ddarparu dull diogel o storio data electronig.
Rydym yn defnyddio darparwyr dadansoddeg a pheiriannau chwilio i’n cynorthwyo i wella ein gwefan. |
Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni wrth rannu eich gwybodaeth bersonol | Rydym yn dibynnu ar ein buddiannau dilys i sicrhau bod ein busnes yn gallu gweithredu’n briodol ac yn effeithlon a bod ein rhwydwaith TG yn ddiogel.
Mae rhannu eich data personol gyda darparwyr dadansoddeg a pheiriannau chwilio’n seiliedig ar ein buddiannau dilys mewn cael gwefan effeithlon a defnyddiwr-gyfeillgar. |
Pa ragofalon ydym yn eu rhoi ar waith? | Rydym yn llunio contractau a Chytundebau Prosesu Data gyda’n darparwyr TG/darparwyr storio ar y cwmwl sy’n gofyn iddynt roi mesurau diogelwch priodol yn eu lle ac sy’n cyfyngu ar eu defnydd o’ch gwybodaeth bersonol.
|
Pam mae’n rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol â darparwyr o’r fath | Rydym yn defnyddio cyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gwybodaeth mewn perthynas â chyflenwi, cynnal a chadw a/neu wella ein rhwydwaith TG a chreu, datblygu, cynnal a chadw ein gwefan;
Rydym yn defnyddio darparwyr storio ar y cwmwl i ddarparu dull diogel o storio data electronig.
Rydym yn defnyddio darparwyr dadansoddeg a pheiriannau chwilio i’n cynorthwyo i wella ein gwefan. |
Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni wrth rannu eich gwybodaeth bersonol | Rydym yn dibynnu ar ein buddiannau dilys i sicrhau bod ein busnes yn gallu gweithredu’n briodol ac yn effeithlon a bod ein rhwydwaith TG yn ddiogel.
Mae rhannu eich data personol gyda darparwyr dadansoddeg a pheiriannau chwilio’n seiliedig ar ein buddiannau dilys mewn cael gwefan effeithlon a defnyddiwr-gyfeillgar.
|
Pa ragofalon ydym yn eu rhoi ar waith? | Rydym yn llunio contractau a Chytundebau Prosesu Data gyda’n darparwyr TG/darparwyr storio ar y cwmwl sy’n gofyn iddynt roi mesurau diogelwch priodol yn eu lle ac sy’n cyfyngu ar eu defnydd o’ch gwybodaeth bersonol. |
TRYDYDD PARTÏON ERAILL
Hefyd efallai y bydd rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill o dan yr amgylchiadau canlynol:
Gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol | Yn achlysurol, efallai y bydd rhaid i ni ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i sefydliadau fel llysoedd neu’r heddlu er mwyn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n berthnasol i ni a/neu i atal twyll neu droseddu. |
Gwarchod ein busnes | O dro i dro, efallai y bydd rhaid i ni ddatgelu eich gwybodaeth bersonol mewn perthynas â’r camau y mae’n rhaid i ni eu cymryd i warchod ein buddiannau busnes neu eiddo. Er enghraifft, os byddwch yn methu gwneud taliad, efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i asiantaethau credyd neu asiantau casglu neu olrhain dyledion. |
Cyngor proffesiynol a gweithredu cyfreithiol | Efallai y bydd rhaid i ni ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i’n cynghorwyr proffesiynol (er enghraifft, ein cyfreithwyr a’n cyfrifwyr) mewn perthynas â hwy’n darparu cyngor proffesiynol a/neu’n sefydlu neu’n amddiffyn hawliadau cyfreithiol. |