Pa wybodaeth bersonol fyddwn ni’n ei defnyddio
- Eichenw;
- Eichcyfeiriad;
- Eich cyfeiriad e-bost;
- Eich rhif ffôn;
- Eich cyswllt â/swydd mewn clwb neu gymdeithas chwaraeon.
Sut byddwn yn sicrhau’r wybodaeth bersonol
Cael ei darparu gennych chi neu gan y clwb, cymdeithas neu sefydliad rydych yn gysylltiedig ag ef.
At ba ddiben rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol
Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gyfathrebu â chi ac at ddibenion gweinyddu cyffredinol.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu rydym yn dibynnu arni
Bydd ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd cyhoeddus neu wrth ymarfer yr awdurdod swyddogol sydd wedi’i ymddiried ynom ni.
Am faint o amser rydym yn cadw’r wybodaeth bersonol a pham
Fel rheol rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol am hyd eich cyswllt â’r clwb neu’r gymdeithas benodol.