Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Adran 10 - Unigolion sy’n cael eu recordio ar CCTV

Adran 10 - Unigolion sy’n cael eu recordio ar CCTV

Pa wybodaeth bersonol fyddwn ni’n ei defnyddio     

Eich llun wedi’i recordio ar ein camerâu diogelwch CCTV                    

Sut byddwn yn sicrhau’r wybodaeth bersonol          

Ei recordio ar ein system CCTV pan fyddwch yn defnyddio ein cyfleusterau 

At ba ddiben rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol        

I atal troseddu ac i warchod adeiladau ac asedau rhag difrod, tarfu, fandaliaeth a throseddau eraill; 

Er diogelwch personol y staff, ymwelwyr ac aelodau eraill y cyhoedd, ac i weithredu i atal troseddu;               

Cynorthwyo gyda chynnal trefn gyhoeddus;     

Cefnogi cyrff gorfodi’r gyfraith i atal, canfod, ymchwilio i ac erlyn am droseddu;                               

Darparu cymorth gyda hawliadau sifil;         

Cynorthwyo gyda rheolaeth o ddydd i dydd, gan gynnwys sicrhau iechyd a diogelwch y staff ac eraill.   

Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni

Y budd cyhoeddus sylweddol o atal a chanfod gweithredoedd anghyfreithlon. 

Am faint o amser rydym yn cadw’r wybodaeth bersonol a pham          

Bydd y data gaiff eu recordio gan y system CCTV yn cael eu cofnodi’n ddigidol a’u storio’n ddiogel ar yriannau caled. Bydd y system recordio ddigidol yn ysgrifennu dros hen luniau’n awtomatig gyda data mwy newydd bob 30 diwrnod. 

Os bydd yr heddlu, asiantaethau erlyn, cynrychiolwyr cyfreithiol neu bobl y mae eu lluniau wedi cael eu cofnodi a’u cadw’n gofyn am gael gweld y lluniau, efallai y bydd y cyfnod cadw arferol yn cael ei ddiystyru ac y bydd y lluniau’n cael eu cadw nes bod y mater wedi’i ddatrys.                             

Gyda phwy rydym yn rhannu’r wybodaeth bersonol               

Yr heddlu;

Asiantaethau erlyn;   

Cynrychiolwyr cyfreithiol perthnasol;