Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Adran 2 - Gwybodaeth y byddwn yn ei chasglu gennych chi efallai pan rydych yn defnyddio ein Gwefannau neu ein Gwasanaethau Ar-lein

Adran 2 - Gwybodaeth y byddwn yn ei chasglu gennych chi efallai pan rydych yn defnyddio ein Gwefannau neu ein Gwasanaethau Ar-lein

Pa wybodaeth bersonol fyddwn ni’n ei defnyddio     

Gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys y cyfeiriad protocol rhyngrwyd sy’n cael ei ddefnyddio i gysylltu eich cyfrifiadur â’r rhyngrwyd, math a fersiwn y porwr [gosodiad parth amser, mathau a fersiynau ategynnau porwr, y system weithredu a’r llwyfan]. 

Gwybodaeth am eich ymweliad, gan gynnwys y Lleolyddion Adnoddau Unffurf (“URL”), clicffrwd i, drwy ac o’n gwefan (gan gynnwys dyddiad ac amser), [cynhyrchion rydych wedi edrych arnynt neu chwilio amdanynt, amseroedd ymateb tudalennau, gwallau lawrlwytho, hyd yr ymweliad â rhai tudalennau, gwybodaeth rhyngweithiad tudalen (fel cliciau sgrolio a defnydd o lygoden), y dulliau a ddefnyddir i bori o’r dudalen ac unrhyw rif ffôn a ddefnyddiwyd i ffonio ein llinell gwasanaethau cwsmeriaid].

Sut byddwn yn sicrhau’r wybodaeth bersonol          

Mae rhywfaint o’r wybodaeth yn cael ei sicrhau gennym yn awtomatig pan rydych yn defnyddio ein gwefan. 

Mae rhywfaint o’r wybodaeth yn cael ei chasglu gennym bob tro rydych yn defnyddio ein gwefan drwy ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth am y cwcis rydym yn eu defnyddio a pham maent yn cael eu defnyddio ar gael yn ein Polisi Cwcis yma.

At ba ddiben rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol        

Mae’r wybodaeth uchod yn cael ei defnyddio gennym i wneud y canlynol:

  • darparu gwell profiad i chi ar y wefan;       
  • tracio defnydd o’n gwefan;
  • ein helpu i barhau i wella ein gwefan           

Defnyddir yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu drwy ddefnyddio cwcis yn y ffyrdd a ddisgrifir yn ein Polisi Cwcis yma.

Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni       

Mae ein harfer o gasglu a defnyddio’r wybodaeth uchod yn seiliedig ar ein buddiannau dilys o ran sicrhau bod ein gwefan yn ddefnyddiwr-gyfeillgar ac yn apelio at ein cwsmeriaid.                     

Am faint o amser rydym yn cadw’r wybodaeth bersonol a pham          

12 mis at ddibenion gwella’r profiad ar y wefan.                 

Canlyniadau peidio â darparu/caniatáu i ni sicrhau gwybodaeth bersonol          

Os byddwch yn analluogi ein Cwcis, ni fyddwch yn gallu defnyddio rhai rhannau/swyddogaethau ar ein gwefan. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn ein Polisi Cwcis yma

UNIGOLION SY’N PRYNU NWYDDAU DRWY EIN GWEFAN

Pa wybodaeth bersonol fyddwn ni’n ei defnyddio     

  • Eichenw;
  • Eichcyfeiriad;
  • Eich cyfeiriad e-bost;
  • Eich rhif ffôn;
  • Manylion talu neu fanylion cerdyn credyd. 

Sut byddwn yn sicrhau’r wybodaeth bersonol          

Cael ei darparu gennych chi pan fyddwch yn prynu nwyddau ar ein gwefan. 

At ba ddiben rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol        

Byddwn yn defnyddio eich enw, eich cyfeiriada manylion cyswllt eraill i gyflenwi’r nwyddau i chi ac i gyfathrebu â chi am gyflenwi o’r fath. Hefyd byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddelio ag unrhyw nwyddau rydych yn eu dychwelyd; 

Byddwn yn defnyddio eich manylion talu neu fanylion eich cerdyn credyd i gymryd taliad am nwyddau;

Ar wahân i’ch manylion talu neu fanylion eich cerdyn credyd, byddwn yn cadw cofnod o’r wybodaeth sydd wedi’i rhestru uchod ar gyfer ein dibenion gweinyddol mewnol;                       

Hefyd byddwn yn defnyddio’r wybodaeth uchod (ar wahân i fanylion eich banc a’ch cerdyn credyd) at ddibenion cyfreithiol a rheoleiddiol. 

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu rydym yn dibynnu arni         

Mae ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol mewn perthynas â chyflenwi nwyddau i chi, cymryd taliad a delio ag unrhyw nwyddau sy’n cael eu dychwelyd yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r contract rhyngom;

Mae ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol ar gyfer ein dibenion gweinyddu mewnol yn seiliedig ar ein buddiannau dilys o ran sicrhau bod ein busnes yn cael ei weithredu’n briodol ac yn effeithlon;

Mae ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion cyfreithiol neu reoleiddiol yn angenrheidiol i alluogi i ni gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddol a/neu alluogi i ni gyflwyno, amddiffyn neu ddelio gyda hawliadau cyfreithiol.

Am faint o amser rydym yn cadw gwybodaeth bersonol a pham          

Dim ond at ddibenion cymryd taliad rydym yndefnyddio eich manylion talu neu fanylion eich cerdyn credyd. Nid ydym yn storiogwybodaeth o’r fath;

Fel rheol rydym yn cadw cofnodion am unrhyw beth rydych yn ei brynu [am chwe blynedd] rhag ofn y bydd unrhyw anghydfod cytundebol neu hawliadau am gynnyrch diffygiol yn codi. 

Canlyniadau peidio â darparu/caniatáu i ni sicrhau gwybodaeth bersonol          

Heb eich enw, eich manylion cyswllt a’ch gwybodaeth dalu ni fyddwn yn gallu cyflenwi nwyddau i chi.