Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Adran 9 - Unigolion sy’n cysylltu â ni gyda chwynion neu ymholiadau

Adran 9 - Unigolion sy’n cysylltu â ni gyda chwynion neu ymholiadau

Pa wybodaeth bersonol fyddwn ni’n ei defnyddio     

Eich enw;

Eich manylion cyswllt (fel eich rhif ffôn, cyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost);

Manylion am eich ymholiad/cwyn.       

Sut byddwn yn sicrhau’r wybodaeth bersonol          

Cael ei darparu gennych chi pan rydych yn cysylltu â ni drwy wneud galwad ffôn, ysgrifennu atom, negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol neu anfon e-bost atom. 

At ba ddiben rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol        

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol i ddelio â’ch ymholiad/cwyn;             

Byddwn yn gwneud cofnod o’ch ymholiad/cwyn at ddibenion gweinyddu mewnol a dadansoddiad ystadegol.               

Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni

Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddiben delio â’ch ymholiad/cwyn yn seiliedig ar ein budd dilys mewn sicrhau bod ein sefydliad yn cael ei weithredu’n effeithlon ac yn effeithiol;         

Mae cadw cofnod o’ch ymholiad yn seiliedig ar ein budd dilys o ran sicrhau ein bod yn gallu gweithredu sefydliad effeithlon.

Am faint o amser rydym yn cadw’r wybodaeth bersonol a pham          

Cedwir cofnodion am eich ymholiad/cwyn a’r dogfennau cysylltiedig nes bod y mater yn cael ei ddatrys er boddhad i bawb.