Skip to main content

Sbotolau Partner: Girlguiding Cymru

Mae merched ledled Cymru wedi mwynhau eu profiad cyntaf o griced - a byddant yn mynd ar y cae criced lawer mwy.

Dyna farn Girlguiding Cymru, a gysylltodd â Chriced Cymru yr haf yma mewn ymgais i gyflwyno’r gamp i ferched ifanc ledled y wlad.

Dyma'r bartneriaeth ddiweddaraf gan Girlguiding Cymru, sydd wedi helpu eisoes i agor drysau i bêl droed, rygbi, golff, pêl rwyd, hoci, pêl foli a dawns ar gyfer eu 11,000 o aelodau ifanc.

Gan gydweithio â Chriced Cymru, cynhyrchodd Girlguiding Cymru – mudiad sy’n cael ei gefnogi gan fyddin o 3,000 o wirfoddolwyr ledled Cymru – becyn y gellir ei lawrlwytho o’r enw Yr Her Criced.

Mae’n cynnig gemau amrywiol, posau, ymarferion creadigol a heriau sgiliau, i gyd yn gysylltiedig â’r gamp. Unwaith y bydd yr holl heriau wedi'u cwblhau, mae'r merched yn ennill eu bathodyn Her Criced.

Mae'r her olaf yn gofyn i ferched chwarae criced wedi'i drefnu - drwy sesiwn blasu criced - yn eu clwb criced lleol.

Mae’r ffigurau diweddaraf sydd ar gael – hyd at 28 Mehefin, 2022 – yn dangos bod y pecyn wedi’i lawrlwytho 383 o weithiau gan grŵp neu uned Girlguiding Cymru a bod 931 o fathodynnau wedi’u dosbarthu.

“Mae’n cymryd amser ac ymdrech i gynhyrchu llyfryn da ac mae hwn yn wych oherwydd mae’n cael merched allan yna ac yn eu symud nhw tuag at gymryd rhan mewn criced,” meddai Sadie Mansfield, Swyddog Rhaglenni Actif Girlguiding Cymru.

“Mae’n rhaid iddyn nhw gymryd rhan a rhoi cynnig arni i gael y bathodyn.”

Gan adeiladu ar y cyflwyniad hwnnw i’r gamp, mae merched hefyd wedi gallu symud ymlaen i’r rhaglen All Stars sydd wedi’i threfnu gan Griced Cymru ar gyfer plant rhwng pump ac wyth oed ac wedyn Dynamos i rai wyth i 11 oed.

Ychwanegodd Sadie: “Mae’r ymweliadau â chlybiau lleol wedi sefydlu’r cysylltiadau ac mae llawer o ferched wedi manteisio ar hynny ac fe fyddan nhw’n parhau. Fe fyddan nhw’n dod yn rhan o’r clybiau criced hynny.”

Yn bartner hefyd i Chwaraeon Cymru, mae Girlguiding Cymru wedi ymrwymo i ddarparu anturiaethau, cyfeillgarwch a chyfleoedd i’w 1,100 o grwpiau neu unedau sy’n cynnwys y Rainbows, y Brownies, y Guides ac adrannau hŷn.

Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn rhan fawr o’r ddarpariaeth honno ac mae’r pwyslais ar griced yr haf yma’n adlewyrchu’r ffordd mae’r gamp wedi dod yn hygyrch ac wedi sicrhau proffil uchel ar draws y ddau ryw.

Chwaraewr criced Tân Cymreig, David Payne yn cwrcwd wrth ymyl Brownie, Lydia.
Lydia, Brownie o 3ydd Brownies Radyr gyda chwaraewr Tân Cymreig, David Payne
Mae’r ymweliadau â chlybiau lleol wedi sefydlu’r cysylltiadau ac mae llawer o ferched wedi manteisio ar hynny ac fe fyddan nhw’n parhau. Fe fyddan nhw’n dod yn rhan o’r clybiau criced hynny
Sadie Mansfield, Swyddog Rhaglenni Actif

“Mae criced yn addysgu llawer o sgiliau gwahanol – cydsymudiad, taflu, dal, batio, bowlio a gwaith tîm. Gall helpu gyda chwaraeon eraill hefyd,” meddai Sadie.

“Y prif beth ydi bod y merched yr haf yma wedi mwynhau chwarae yn fawr. Ar ôl Covid, fe wnaeth eu cael yn ôl allan ac i fod yn actif. Roeddwn i'n casáu'r syniad bod merched yn dal i fod y tu mewn, dim ond yn gwneud pethau ar-lein, fel rydyn ni wedi'i weld yn ystod y ddau haf diwethaf.

“Rydw i’n meddwl bod y diddordeb mewn criced ymhlith y merched wedi bod yn uchel iawn. Dydyn nhw ddim wir yn cael y cyfle i chwarae llawer o griced mewn ysgolion yn aml iawn.

“Nid rhaniad bechgyn a merched ydi hynny. Mae’n gamp nad ydi plant yn cael llawer o gyfle i’w chwarae yn yr ysgol.

“Ond cyn gynted ag y gwnaethon nhw roi cynnig ar y gamp, fe wnaethon nhw sylweddoli y gallai fod yn rhywbeth iddyn nhw ac y bydden nhw eisiau parhau i’w wneud efallai.”

Cynhaliodd Girlguiding Cymru ddigwyddiad Rho Gynnig Arni hefyd ar 30 Mehefin yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, pencadlys Criced Morgannwg a thimau dynion a merched Tân Cymru sy’n cystadlu yng nghystadleuaeth Y Cant. 

Daeth bron i 50 o grwpiau Brownies, Guides a Rangers at ei gilydd ar gyfer y sesiwn blasu am ddim i roi cynnig ar chwarae criced, gan fwynhau sgiliau hwyliog batio, bowlio a maesu, dan oruchwyliaeth hyfforddwyr Criced Cymru.

Cafodd y Girlguiders daith o amgylch y stadiwm hefyd, gan gynnwys amser yn yr ystafelloedd newid, lle cawsant gyfle i wisgo dillad Tân Cymru.

Mae’r cysylltiad â Thân Cymru – yr unig dîm criced proffesiynol yng Nghymru ar lefel elitaidd – yn hollbwysig, meddai Sadie, o ran dangos modelau rôl yn y byd criced.

“Yn bersonol, rydw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn i ferched gael modelau rôl os ydyn nhw’n mynd i gael eu denu at chwaraeon. Mae arnyn nhw angen pobl sy'n edrych fel nhw, y gallan nhw edrych i fyny atyn nhw.

“Mae angen iddyn nhw feddwl, ‘fe allai hi fod yn fi’. Hefyd, os ydyn nhw’n gallu gweld bod chwaraeon yn cynnig gyrfa, gorau oll o ran ymdrechu i wneud yn dda a mwynhau gwella yn y gamp.

“Mae’r agwedd gymdeithasol yn hollbwysig hefyd. Mae'n rhaid iddyn nhw allu mwynhau gyda'u ffrindiau.

“Am y rheswm hwnnw roedd yr Ewros pêl droed merched yr haf yma a llwyddiant Lloegr yn wirioneddol ysbrydoledig.

“Fe gafodd ein merched ni i gyd eu hysbrydoli wrth wylio’r Ewros ar y teledu a rhannu’r profiad hwnnw. Pan oeddwn i’n ferch fach, doedd gennym ni ddim byd fel hynny – arwyr i’w gweld ar y teledu.

“Mae pethau wir wedi newid, sy’n wych.”

Newyddion Diweddaraf

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy