Ydych chi'n rhan o glwb criced yng Nghymru ac yn awyddus i wella eich clwb a'ch tiroedd? Wel, ydych chi wedi meddwl am godi arian drwy Crowdfunder a chynllun Lle i Chwaraeon gan Chwaraeon Cymru?
Mae clybiau lleol ledled Cymru yn gwneud yn union hynny.
Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian ar gyfer prosiectau amrywiol - ac wedyn wedi derbyn grant cyllid cyfatebol gan Chwaraeon Cymru - i:
- Buddsoddi mewn peiriannau newydd i gadw'r tir yn edrych yn gampus
- gosod sgorfwrdd electronig newydd yn ei le
- gwella ei bafiliwn gyda mynediad hygyrch ac ystafelloedd newid
Clwb Criced Dinbych yn codi arian ar gyfer sgorfwrdd electronig
Gan fynd ati i foderneiddio’r clwb, trodd Clwb Criced Dinbych at Crowdfunder a chynllun Lle i Chwaraeon gan Chwaraeon Cymru.
Gan benderfynu ei bod yn hen bryd cael sgorfwrdd electronig yn y clwb, lansiodd ymgyrch Crowdfunder yn y gobaith y gallai newid y sgorfwrdd hynafol a oedd bob amser angen ei atgyweirio ac a oedd wedi'i leoli y tu ôl i'r ardal i wylwyr. Ddim yn ddelfrydol!
Cafodd y clwb ei synnu pan aeth dros y targed o £4000, gan godi £5340 mewn dim ond 34 diwrnod. Nawr fe all y clwb elwa o sgorfwrdd electronig newydd sbon sy'n darparu diweddariadau fesul pêl yn hytrach na dibynnu ar chwaraewyr i newid y sgôr ar ddiwedd pob pelawd. Howzat!
Oes datrysiadau technolegol a fyddai'n gwella'r profiad yn eich cae criced chi? Edrychwch i weld ydych chi’n gymwys i gael cyllid Chwaraeon Cymru.