Skip to main content

Sbotolau Partner: Y Loteri Genedlaethol

Pan fydd Geraint Thomas yn cyrraedd y llinell gychwyn ar gyfer ras ffordd Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham fe fydd yn gyfle i nifer o bobl yng Nghymru adlewyrchu ar sut wnaethon nhw ei helpu i gyrraedd yno.

Bydd beiciwr gwrywaidd gorau erioed Cymru yn mynd am yr aur, wedi’i bweru gan ei dalent ei hun a’r cyllid sydd wedi’i ddarparu gan bawb sydd wedi prynu tocyn y Loteri Genedlaethol erioed.

Yn wir, gellid dweud bod arian y Loteri Genedlaethol wedi meithrin siwrnai’r cyn-enillydd yn y Tour de France er pan oedd yn fachgen wyth oed yng Nghaerdydd hyd at bodiymau ar y Champs-Elysees a, gobeithio, yng nghanol Birmingham fis nesaf.

Arian gan chwaraewyr y loteri helpodd i droi olwynion clwb beicio iau cyntaf Thomas, y Maindy Flyers yn y brifddinas.

Arian y loteri wnaeth ei anfon i Melbourne yn 2006 yn fachgen 20 oed i gystadlu yn ei Gemau Cymanwlad cyntaf i Gymru.

Ac £8m o arian y Loteri Genedlaethol a helpodd i adeiladu’r felodrom yng Nghasnewydd, a gafodd ei ailenwi’n Felodrom Geraint Thomas yn 2018, y flwyddyn y daeth yn Gymro cyntaf i ennill y Tour.

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn helpu i godi mwy na £30m yr wythnos ar gyfer amrywiaeth o achosion da ledled y DU a dim ond un o’r achosion da hynny yw chwaraeon yng Nghymru.

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, 2022-23, mae mwy na £7m o arian y Loteri Genedlaethol wedi’i neilltuo i gefnogi chwaraeon perfformiad uchel yng Nghymru ac yn uniongyrchol i rai athletwyr.

Ar yr un pryd, mae £3.5m wedi’i ymrwymo i gefnogi syniadau arloesol, cynhwysol a chynaliadwy gan glybiau a phrosiectau ar lawr gwlad drwy Gronfa Cymru Actif.

Ac mae £2m wedi’i ymrwymo i bartneriaid fel StreetGames Cymru, yr Urdd a phartneriaid cenedlaethol eraill i alluogi pobl, yn enwedig pobl ifanc, yng Nghymru i fwynhau bod yn actif.

O’r herwydd, mae’r Loteri Genedlaethol wedi dod yn bartner allweddol i Chwaraeon Cymru – o gyllido clybiau a chyrff rheoli ar lawr gwlad, i’r athletwyr elitaidd gwrywaidd a benywaidd. 

Ochr yn ochr â Thomas, bydd athletwyr eraill o Gymru a fydd yn rhan o Dîm Cymru yn Birmingham – ar draws 15 o wahanol chwaraeon – yn derbyn cefnogaeth sy’n dod gan brynwyr y Loteri Genedlaethol ledled y wlad.

Felly, pan fyddwch chi’n gwylio Thomas yn gwibio ar hyd strydoedd Birmingham, neu’r fam newydd Elinor Barker yn hedfan o amgylch y trac beicio, neu’r para-athletwyr Aled Sion Davies a Harrison Walsh yn taflu yn y stadiwm athletau, gall unrhyw un sydd erioed wedi bod “in it, to win it” deimlo eu bod wedi chwarae eu rhan.

Geraint Thomas gyda'r Ddraig Goch yn Glasgow
Geraint Thomas gyda'r Ddraig Goch yn Glasgow
Mae'r Loteri Genedlaethol wedi caniatáu i bobl hyfforddi a chystadlu ar y lefel uchaf a chael mynediad i rai o’r cyfleusterau gorau – boed ar lawr gwlad neu tuag at y pen mwy elitaidd a phroffesiynol.
Oswyn Hughes - Y Loteri Genedlaethol

Mae’r Loteri Genedlaethol yn cyllido athletwyr elitaidd Cymru, y clybiau llawr gwlad y daethant i’r amlwg drwyddynt, a’r adeiladau a’r arenâu lle maent yn hyfforddi ac yn perfformio.

Pan fydd yr Olympiad Daniel Jervis yn camu ar ei floc dechrau yng Nghanolfan Gweithgareddau Dŵr Sandwell yn Birmingham – ac yn ceisio ennill aur yn y nofio i Gymru – bydd yn gwneud hynny fel aelod o Raglen Safon Byd athletwyr elitaidd Prydain Fawr sy’n cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol.

Bydd chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi’r athletwyr hynny o Gymru ar y cam nesaf i lawr – y grŵp Potensial Podiwm Olympaidd – fel y rhedwyr o Gymru, Melissa Courtney-Bryant a Jake Heyward.

Wedyn, mae gennych chi'r lleoliadau a'r arenâu hynny sy’n fagwrfa i athletwyr elitaidd presennol, sy'n ysbrydoli miliynau o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Pan enillodd Jervis arian yng Ngemau’r Arfordir Aur bedair blynedd yn ôl, roedd wedi hyfforddi yn y Pwll Cenedlaethol yn Abertawe – lleoliad a adeiladwyd gyda £9m o arian y Loteri Genedlaethol.

Pan enillodd Gareth Evans ei fedal aur gofiadwy mewn codi pwysau ar yr Arfordir Aur, teimlwyd balchder yn ôl ym Mangor, pencadlys Codi Pwysau Cymru, yn ogystal ag yng Nghlwb Codi Pwysau Caergybi ac Ynys Môn, lle’r oedd arian y loteri wedi helpu Evans ar ei siwrnai.

Mae Heyward a chymaint o athletwyr eraill wedi defnyddio’r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol ym Met Caerdydd, cyfleuster sydd wedi’i gyllido yn rhannol gan y Loteri Genedlaethol.

Mae’r un peth yn wir am sêr hoci Cymru a fydd yn Birmingham – Luke Hawker a Dale Hutchinson.

“Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi newid y byd chwaraeon yng Nghymru a ledled y DU, gan gynnwys ar lefel elitaidd,” meddai Oswyn Hughes, pennaeth ymgyrchoedd Cymru ar gyfer Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol.

“Mae wedi caniatáu i bobl hyfforddi a chystadlu ar y lefel uchaf a chael mynediad i rai o’r cyfleusterau gorau – boed ar lawr gwlad neu tuag at y pen mwy elitaidd a phroffesiynol.

“Mae’r athletwyr gwych y byddwch chi’n eu gweld yn cystadlu dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad – mae llawer o’u clybiau ar hyd y daith wedi cael cyllid y Loteri Genedlaethol.”

Gyda Gemau Cymanwlad Birmingham 2022 ar fin ysbrydoli pobl a chymunedau ledled y wlad yr haf hwn, mae athletwyr Tîm Cymru yn gobeithio cymell mwy o bobl nag erioed i gymryd rhan mewn chwaraeon a gwireddu eu breuddwydion.

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy